BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Bron Llan, Gwytherin Bron Llan, Gwytherin
Ei hanes trwy gyfrwng y cerrig,gan Heulwen Ann Roberts, Gwytherin

Petaem ni, cerrig muriau Bron Llan, ond yn gallu siarad, dyma rai o'r hanesion y buasem yn gallu eu hadrodd i chi! Casglwyd ni oddi ar lethrau Mynydd Hiraethog a gosodwyd ni at ein gilydd i greu un o gartrefi hynotaf y fro.

Arferai y rhan fwyaf ohonom orwedd ar chwâl tua hanner ffordd i fyny rhwng pentref bach Gwytherin a'r rhan honno o'r mynydd a elwir yn Ffrith Uchaf. Wedi ein casglu at ein gilydd, ein didoli a'n dosbarthu, dechreuwyd ar y gwaith o'n hadeiladu yn y fan odidog yma, ac yna fe goronwyd y gwaith gorffenedig â tho o frwyn.

Yn gymwys i'r safle, fe alwyd y cartref newydd yn 'Bron Llan'. 'Roedd yn ffermdy cadarn, gweddus i rhywun o fri fyw ynddo, gyda'r ystafelloedd byw o faint gweddol helaeth ar gyfer y cyfnod y'i hadeiladwyd. Codwyd ef ar ffurf tŷ hir traddodiadol Cymreig, gyda'r ystafelloedd byw yn llochesu rhwng yr ystabl ar yr ochr chwith a'r ysgubor ac yna'r beudy ar ei ddeheuty.

Roedd popty mawr mawr a ffynnon tu draw i'r ystabl. Digwyddodd hyn i gyd laweroedd o flynyddoedd yn ôl fe na allwn gofio yn union ers faint o flynyddoedd yr ydym wedi bod yma, ond gwyddwn fod y pentref wedi ei sefydlu ers dechrau'r seithfed ganrif, ac mae cofnodion yn cyfeirio at Bron Llan cyn belled yn ôl â'r ail ganrif ar bymtheg. Uchelwyr oedd yn byw yma ar y pryd, pobl â modd i fyw bywyd llewyrchus, gyda beirdd yn galw heibio i ganu clod iddynt, mewn oes pan oedd llawer o drigolion tlawd ac anllythrennog y pentre' yn dibynnu ar roddion gan y plwyf i gadw corff ac enaid ynghyd.

Yn wir, rhodd teulu Bron Llan mor gyfoethog fel bod arnynt angen gwneud ewyllys er mwyn trosglwyddo eu heiddo ymlaen i'r genhedlaeth nesaf yn ddiogel, ond chwarae teg iddynt, mae'n rhaid dweud eu bod hefyd wedi cyfrannu'n hael tuag at yr elusen blwyfol.

Llinach bwysig

Ar hyd yr ail ganrif ar bymtheg rhodd pobl yn priodi oddi yma, rhai yn marw yma, a plant yn cael eu geni a'u magu o fewn y muriau, a sŵn eu chwarae a'u chwerthin yn peri llawenydd i ni y cerrig a oedd yn rhan o'r adeilad a oedd yn eu hamgylchu. Ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif, daeth teulu newydd, cefnog, arall, i fyw o fewn y muriau. Richard Thomas oedd enw'r penteulu a daeth yma o'r Cwm ar ôl ei briodas. Ganed un plentyn iddynt ac yna bu farw ei wraig chwe mlynedd ar ôl ei briodi. Ail briododd Richard Thomas, ac ymhen amser daeth y llinach yma i fod yn un bwysig yn hanes Cymru. Cafodd dau fab bach arall, Robert a David.

Roedd barddoniaeth yn atseinio o wal i wal eto yn ystod y cyfnod yma, gydag un bardd lleol o'r enw Siôn Pwel, a oedd yn byw i lawr ym mhentref Gwytherin, yn ysgrifennu cân o glod i'r teulu, ac i'r mab David yn arbennig. Y mae'r penillion yma wedi goroesi hyd heddiw! Dyma rai ohonynt.

Rhof annerch draserch, i Dafydd
O ddifyr gerdd blethiad
Ef a gar lafur lefiad
A thôn fwyn iaith awen fâd.

Difyrwaith bronfraith ar bren,
llaweswyrdd
Yn lleisiau ôd lawen
Difyrrwch bardd di frôch ben
Yw da ruad yr awen.

Cês fil gwledd cu oes fael glyd,
Gain wych hyd dydd gan eich tad,
Llwyr hap radd a llawer pryd,
A chan rhodd a chinniaw rhad.

Ymhen amser daeth David yn daid i blentyn o'r enw David Griffith, ac yn 1860 'roeddem ni, cerrig y muriau, yn ymlawenhau ac yn ymfalchïo yn y wybodaeth bod wyr i un a aned yma newydd gael ei ddewis yn Archdderwydd cyntaf Cymru. Ei enw barddonol oedd Clwydfardd. Sylwn ni'r cerrig bod pobl yn dueddol o feddwl eu bod yn mynd i fyw am byth a bod eu tai a'u cartrefi ac adeiladau eraill cadarn yn mynd i aros yr un fath, a pharhau am byth.

Newidiadau dros y blynyddoedd

Ond fe allwn ni'r cerrig ddweud stori wahanol wrthych, un o newid, addasu, datblygu a dirywio. Dim ond cerrig sydd yn goroesi, nid yr adeiladau a wnaed ohonynt, ac yn sicr nid pobl. O bryd i'w gilydd arferwyd adnewyddu y to brwyn ym Mron Llan.

Roedd hawliau gan y sawl a oedd yn byw yma i hel brwyn oddi ar y mynydd, ynghyd â chadw 260 o ddefaid yno. Diddorol yw sylwi bod y Cyngor plwyf yng Ngwytherin wedi pasio yn 1898 nad oedd neb yn y plwyf i dorri brwyn i doi, tan y dydd cyntaf o Awst. Tua'r adeg yma penderfynwyd codi uchder y tŷ ac ail doi y to â llechi. Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth y cyfnod o berchnogion cyfoethog i ben a theuluoedd o ffermwyr cyffredin a fu yma yn amaethu byth wedyn.

Y teulu nesaf i ymgartrefu yma oedd William a Jane Thomas a'r pump plentyn a aned iddynt yma. Braf oedd clywed swn babanod a phlant yn dal i atsain rhyngddo ni'r cerrig. Teulu a oedd yn hanu o Gwm Bychan, Harlech, ddaeth yma nesaf, sef Robert a Margaret Lloyd, a bu eu mab Abner Lloyd a'i wraig Jane yma ar eu holau.

Pobl leol a ymgartrefodd yma wedyn, sef John ac Elizabeth Jones, a'u merch Elizabeth. Daeth merch fach o Eglwysbach yma atynt a derbyniodd hanner coron y flwyddyn gan y plwyf er mwyn ei galluogi i fynychu'r ysgol a oedd newydd agor i lawr yn y pentref. Mae hanesion trist a hapus yn perthyn i'r teulu nesaf i fyw yma. Daeth William ac Elizabeth Williams yma ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda tri o'u plant. Pan ddarganfu William Williams bod un arall o'u merched, a hefyd cyfnither ifanc iddynt, wedi geni bachgen bach bob un mewn gweithdy draw yn Sir Gaer tra yno'n gweithio, anfonwyd amdanynt adref i Fron Llan.

Roeddem ni'r cerrig wedi ein cyffwrdd gan lawenydd a rhyddhad amlwg y plant wrth iddynt chwarae yn y caeau gwyrdd gerllaw. Daeth trychineb i ran y teulu pan fu farw gwraig a baban un o'r meibion hynaf, gan adael yn amddifad bachgen bach dwyflwydd oed, John Robert. Roedd ef wedyn yn aml ym Mron Llan, yng nghwmni ei daid a'i nain a gweddill y teulu. Yn anffodus, bu farw John Robert pan yn ddeg oed, wedi cael oerfel wrth ddod adref o Lanrwst yn y drol gyda'i dad ar dywydd hynod o flin.

Damweiniau trasig

Cymysgedd o'r lleddf a'r llon fu hanes y teulu nesaf, hefyd, sef y teulu olaf a ddaeth yma i fyw. Mae'n debyg i Robert a Martha Wynne ddod yma ar eu priodas, ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, a ganed iddynt dri o feibion. Treiddiodd dristwch drwyddom ni'r cerrig pan fu farw y mab ieuengaf yn ddim ond dwyflwydd a naw mis oed, wedi iddo gael gafael ar botel o ffisig oddi ar fwrdd y gegin a llyncu peth ohono.

Wyth mlynedd wedyn daeth y tristwch yn ôl i Fron Llan. Er bod gan Robert, y mab hynaf ugain oed, annwyd trwm ar y pryd, aeth, yn ôl arfer llanciau Gwytherin ar y pryd, i lawr i'r llan ar y nos Sadwrn i gyfarfod a sgwrsio a'i ffrindiau ger yr efail. Roedd yn noson oer a rhewllyd dros ben, a phan ddychwelodd yn ôl i Fron Llan, a oedd erbyn hyn yn dechrau dirywio o ddifri gyda lleithder yn rhedeg i lawr ochr fewnol y waliau, methodd yn glir a chynhesu a bu farw o niwmonia yn fuan wedyn.

Aeth tua ugain mlynedd heibio cyn y bu farw Mrs Martha Wynne, eto a'r tywydd yn arw a rhewllyd. Yn ôl arferiad yr amser, cynhaliwyd gwasanaeth angladdol yn y cartref a'r fynwent yn unig. Treiddiodd oerni arswydus trwyddom ni, y cerrig tamp, pan agorwyd drws y tŷ ar gyfer dechrau'r gwasanaeth a gosod yr arch banner ffordd dros stepan y drws, gyda'r teulu y tu mewn i'r tŷ a'r gynulleidfa y tu allan.

Roedd cloch is anferthol a'i blaen fel pig gwaywffon yn hongian o'r lander uwchben y drws agored ac ofnai y rhai a sylwodd arni petai gwres o'r tŷ yn dechrau toddi'r gloch ia, a hithau'n disgyn, buasau'n dryllio'r arch! Ond ni ddigwyddodd.

Yna, oherwydd bod y ffordd serth redai i lawr uwchben y nant o Fron Llan tua'r pentref fel ruban wen o rew, teimlwyd mai'r peth gorau i'w wneud, rhag ofn i un o'r cludwyr angladdol lithro, oedd rhaffu'r arch am ganol pumed person, rhag ofn. Cerddodd hwn i lawr yr allt y tu ôl iddynt mor urddasol ag yr oedd yn bosib a chyrhaeddwyd y bedd ym mynwent y capel yn ddiogel!

Ffarwel i'r ceffyl

O ganol yr ugeinfed ganrif ymlaen dechreuodd popeth newid. Ar y deunawfed o Fedi 1950 gwerthwyd y ceffyl gwaith olaf o Fron Llan. Roedd yr ystabl yn wag, ac ni chlywid swn gwehyru oddi yma bellach, dim ond rhu y tractor newydd "Ford 3000" a brynwyd yn ei le. Ar yr ail o fis Ionawr 1959, bu farw yr hen Robert Wynne, wedi gweld claddu ei wraig a dau o'i feibion oddi yma.

Y mab olaf, John Wynne, fu yn ffermio yma ar ei ôl. Ym mis Gorffennaf 1959, rhyddhawyd Bron Llan o dalu'r degwm, ar y gost o £39 16s 7c. Yn 1963 symudodd John Wynne i lawr i le bach, mwy cyfleus, yn agosach i'r pentref, gan adael yr hen dy yn wag, er ei fod yn ffermio'r lle.

Yn 1981 werthodd y lle i'r perchnogion presennol a chwe' mlynedd wedyn fe ddymchwelwyd y tŷ a'r adeiladau gan ddefnyddio ni'r cerrig yn sylfaen i sied wartheg fodern. Felly, fe allwn ddweud ein bod yma o hyd, ac ar yr un safle yn union, ac o hyd yn ddefnyddiol, ond fod ein byd wedi newid yn syfrdanol; o amgylchu uchelwyr i fan lle mae gwartheg a lloi yn baeddu uwch ein pennau.

Ond o leiaf drwy'r gwartheg mae byw, marw a geni yn dal i ddigwydd yma, ac mae'r enw, 'Bron Llan', yn byw ymlaen wrth gyfeirio at y sied, y caeau a'r hawliau ar y mynydd.

Heulwen Ann Roberts, Gwytherin


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy