BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Cynulledfa Eisteddfod Eisteddfod Pandy Tudur yn dathlu cant a hanner
Rhagfyr 2005
Mae Eisteddfod Pandy Tudur yn dathlu'r cant a hanner yn 2006, ers ei sefydlu yn gyntaf yn 1856.
Ar y 26ain o Fehefin, 1856 cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf y gwyddom amdani, ym Mhandy Tudur. Ni wyddom beth oedd amgylchiadau'r penderfyniad i gynnal eisteddfod, ond gwyddom iddi fod yn eisteddfod lwyddiannus, ac iddi gael ei chynnal yn ddi-dor ers hynny (oni bai am 2001 oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau).

Cynhaliwyd hi yn Ysgol Pandy Tudur (a adeiladwyd tua 1848), ac yno y bu tan 40au'r ganrif ddiwethaf pryd y symudwyd hi i'r Neuadd Goffa yn Llangernyw. O 1970 ymlaen cynhaliwyd hi yng Nghanolfan Addysg Bro Cernyw, Llangernyw, a adeiladwyd ar ôl cau ysgol y Pandy yn 1969.

Ceir adroddiad papur newydd (yn Saesneg) yn sôn am yr eisteddfod gyntaf yn y Pandy dan y teitl 'Eisteddfod at Blaenau Llangernyw'. Cyfeiria ati fel `Gŵyl lenyddol - mae'n bur debyg y gyntaf erioed yn y gornel fechan hon o ardal yr hen Gernyw'.

Agorwyd y cyfarfod gydag anerchiad gan Lywydd y Dydd, Mr W. Owen, Tan-y-gyrt, Nantglyn, a areithiodd am gadw'r Gymraeg, cofio ein cyndeidiau, doethineb a barddoniaeth ein beirdd, a thonau anfarwol ein clerwyr (minstrels!). Noddwr yr eisteddfod oedd H.R. Sandbach, Hafodunos ac yn ei anerchiad dywedodd ei fod yn falch o gymryd rhan mewn unrhyw beth fyddai'n fodd i wella, bod o fudd a boddhau ei gymdogion.

Eben Fardd oedd beirniad yr eisteddfod gyntaf hon, a Cheiriog oedd yn fuddugol ar y bryddest. Daeth Robert Wyn o Eifion yn fuddugol ar y Farwnad i'r ddiweddar Mrs Sandbach. Roedd dau gôr yn cystadlu - Betws-y-coed a Llansanffraid (Glan Convey), a thraethodd Ieuan Gwyllt feirniadaeth hir arnynt, a chyfartal oeddynt yn y diwedd!

Cafwyd cymeradwyaeth fawr i Llew Llwyfo yn canu'r unawd 'Gwenith Gwyn'. Dechreuwyd cystadleuaeth canu penillion, ond gan nad oedd telyn, aeth hynny i'r gwellt (oherwydd rhai teimladau crefyddol ar y mater, gwaharddwyd defnyddio offeryn cenedlaethol Cymru). Gwaharddwyd gwerthu diod feddwol y diwrnod hwnnw hefyd.

Rhwng cyfarfod y prynhawn a'r hwyr darparwyd te am y swm rhesymol o 8 geiniog. Ni ddywedir yn lle y paratowyd y te yma, ond mae cof yn ddiweddarach yn y ganrif bod pabell wedi ei chodi yng nghae Nannerth i ddarparu ymborth.

Ar ddiwedd yr adroddiad dywedir bod y gynulleidfa (a chyfieithaf) 'wedi eu boddhau'n fawr', ac 'na welsant gyfarfod nac amgylchiad gyda chynifer o bobl erioed o'r blaen wedi ei gynnal mewn lle allan o'r byd fel hwn, mor drwsiadus ac wedi ymddwyn mor dda. Mae'n rhoddi clod mawr i'r pentrefan ddiarffordd hwn, oherwydd ni allwn ei alw'n bentref.'

Ysgrifennydd yr eisteddfod oedd John Price, gŵr lleol a ddaeth yn Brifathro tan gamp yn y Pandy, ac a ddenodd ddisgyblion o bell i'r ysgol.

Oherwydd rhyw ymdeimlad bod y gair 'Eisteddfod' yn amharchus, newidiwyd yr enw i 'Cystadleuaeth' am gyfnod. Mae gan R. Dewi Williams yn ei gyfrol 'Dyddiau Mawr Mebyd', ysgrif am 'Ddiwrnod y Gystadleuaeth', lle y mae'n sôn mai 'un o dri gair pwysica'r parwydydd [oedd]: Arwerthiant, Cyngerdd, Cystadleuaeth.' Dyna'r pwys a roddid i'r eisteddfod yn ei ddyddiau ef (ganwyd tua 1874).

Dywed: 'Edrychai plentyn a'i rieni ymlaen at ddiwrnod y gystadleuaeth mewn llawn sicrwydd gobaith am ddiwrnod o hyfrydwch digymysg; oherwydd rhoddai ... y rhaglen gyfle i bob dawn, ac i bob oed.' Dywed hefyd; 'Lluniai pob pwyllgor y rhaglen yn gwbl argyhoeddedig mai darparu ar gyfer "plant a phobl ifanc" oedd ei ddyletswydd cyntaf, a bu'r pwyllgorau yn ffyddlon i'r weledigaeth honno am lawer o flynyddoedd.'

Ym mis Mehefin y cynhaliwyd yr eisteddfodau cynharaf, ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i'r dyddiad presennol, sef Dydd Llun y Pasg.

Braf yw cael nodi felly y bydd yr eisteddfod nesaf, a gynhelir 17eg Ebrill, 2006, yn eisteddfod arbennig i ddathlu'r canmlwyddiant a hanner. Dewch yn llu!


Cyfrannwch

Elspeth Llundain
Am ddiddorol oedd darllen am yr eisteddfod. Yr oedd Eisteddfod Pandy yn bwysig iawn yn ein teulu ni, ni'r plant yn cystadlu ar bopeth, adrodd, canu a gwaith cerdd a llenoriad, Dad yn arwain a gweithio yn yn y pwyllgor a Mam yn beirniadu ar waith cartref y plant. Byddai Dad (Trevor Jones) yn gwneud yn siwr fod y plant yn yr ysgol i gyd yn cystadlu ac o y sport meddwl am ffugenw. Pob hwyl I bobol y Pandy 151 ac yn dal i gyfrif!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy