BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Criw y Gadlas ar eu taith i Batagonia Taith i Batagonia
Ar Hydref 20fed cychwynnodd naw o fro'r Gadlas, ymysg grwp o ddeunaw, ar yr hirdaith i'r Wladfa ond doedd hi ddim mor hir â'r daith gyntaf honno ar y 'Mimosa' yn 1865 chwaith.

Ar y daith yn 2003 roedd Berwyn ac Ann Evans, Beti Williams a Mair Davies o Lansannan, Ann ac Enlli Vaughan a Menna Williams o Langernyw, Mair Edwards (gynt o Lanfair Talhaiarn) ac Erinwen Johnson (gynt o Wytherin).

Roedd ein tywysydd Monica Jones a'i dau blentyn bach Macsen a Morgan o Gyffordd Llandudno eisoes wedi hedfan allan ers pythefnos o'n blaenau i aros gyda'i mam yn y Gaiman.

Magwyd Monica yn y Wladfa ac felly roedd ei gwybodaeth yn eang iawn o sefyllfa'r Cymry cyntaf a aeth allan a hithau'n ddisgynnydd o'r ddwy ochr.

Tydi gofod ddim yn caniatáu i mi fynd yn fanwl drwy'r daith ond rhoddaf flas i chwi o beth a welsom ac a brofasom. Ar ôl taith hir awyren, cawsom brofi o fywyd prifddinas yr Ariannin sef Buenos Aires.

Roedd fel pob dinas fawr arall yn fwrlwm o brysurdeb. Yno gwelsom adeiladau hardd a thlodaidd, cyfoeth a thlodi. Gan fod economi'r wlad mor isel mae rhai pobl yn gorfod crafu byw a begera. Un peth a'm cyffyrddodd yn fawr oedd gweld plant bach yn dod i mewn i'r tai bwyta'n hwyr y nos tra roedd eu rhieni yn chwilota am gardfwrdd yn y biniau y tu allan. Mae'n amlwg eu bod yn cael arian am ei ailgylchu. Cawsom amser hyfryd yn y brifddinas a phrofiad Sioe Tango ac ymweliad ag amgueddfa werin ac Asaddo (sef rhostio cig) a'i fwyta gyda phob math o ddanteithion.

I lawr i Batagonia

Daeth Monica i'n cyfarfod i'r brifddinas i'n tywys ar ein taith i'r Wladfa - taith tair awr arall mewn awyren. Cawsom ein cyffwrdd yn fawr gyda'r croeso tywysogaidd a gawsom ym maes awyr Trelew yn y parlwr i bobl bwysig.

Ymlaen â ni (neu yn ôl yn wir) i aros ym Mhorth Madryn am ddwy noson er mwyn cael gweld y lle y glaniodd y fintai gyntaf. Cawsom hanesydd i ddweud tipyn o'r hanes wrthym (yn Gymraeg!) Roedd yn brofiad cael troedio'r traeth lle y cerddont o'r llong a gweld y llochesi cyntaf yn y creigiau lle y storiwyd y bwydydd a ddaethant gyda nhw. Cawsom de croeso yn y ganolfan yno a llawer o Gymry wedi dod i'n cyfarfod.

Symud ymlaen wedyn i Drelew dros yr Eisteddfod a chael y Cymry i gyd wedi ymgynnull at ei gilydd o bell ac agos. Gwelsom Monica'n cael ei hurddo i'r Orsedd (ar ôl iddi ennill y gadair ddwy flynedd yn ôl) a phopeth yn debyg iawn i'r seremoni yng Nghymru o gwmpas cerrig yr Orsedd a phlant y ddawns flodau. Y diwrnod wedyn mynd i'r rhagbrofion yn y bore a mynd i gystadlu i'r Eisteddfod yn yr hwyr a thrwy'r dydd y diwrnod canlynol. Roedd yr Eisteddfod yn ddwyieithog - Cymraeg a Sbaeneg, yn cydredeg yn hapus.

Buom allan ar y môr Atlantic mewn cwch tra yn Nhrelew i weld y dolphins - cychwyn o Borth Rawson. Roedd hwn yn brofiad anhygoel a hwythau'n neidio i fyny i'r awyr fesul dau a thri fel petaent wedi ymarfer eu camp. Aeth rhai o'r grwp allan eto i'r môr mawr i weld y morfilod tra'r aeth y cystadleuwyr i'r Eisteddfod!

Cymanfa a chaneuon

Y diwrnod canlynol sef y Sul cafwyd y Gymanfa Ganu orau y bum ynddi erioed yn dilyn yr Eisteddfod. Roedd y canu'n dod o'r galon a'r ieuenctid yno yn falch o'u hetifeddiaeth.

Cafwyd asado i bawb yn dilyn a channoedd ohonom mewn neuadd fawr yn bwyta y cigoedd a'r danteithion eraill a chanu a dawnsio a phawb yn ffarwelio a'i gilydd am flwyddyn arall.

Symud wedyn i'r Gaiman i westy Tywi yn Heol Michael D. Jones. Gwesty yn perthyn i Monica oedd hwn a'i mam yn cadw golwg ar y trefniadau yno. Cawsom dri diwrnod o hamddena yn y Gaiman a Chymraeg i'w glywed ar y stryd ac yn y siopau. "O, Cymry ydach chi?" Siarad am hir ac yn erbyn i ni fynd - pobl tipyn o oed yn falch o gael sgwrs hefo ni ac erioed wedi bod yng Nghymru. Cymraeg anhygoel o naturiol.

Gweld llawer o hanes y Cymry o gwmpas - ffermydd, capeli, y ty cyntaf yn y Gaiman, ac ôl eu llafur yn codi camlesi i ddyfrhau'r tir sych.

Teithio wedyn am ddiwrnod cyfa gyda bws ar draws y paith i Esquel yn yr Andes eto yn Nyffryn Camwy. Galw i weld Dyffryn y Merthyron ar y daith lle y lladdwyd tri o'r Cymry gan Indiaid tra yn chwilio am aur.

Llwyddodd y pedwerydd i ddianc trwy i'r ceffyl anhygoel neidio dros geunant a'i arbed rhag yr Indiaid. Mae cofadail i'r tri yno ynghanol y diffeithwch. Teithio drwy ddyffryn yr allorau gyda'u mynyddoedd o liw copr ar siap allorau hardd. Cyrraedd Esquel a chael croeso mawr yma eto a chinio poeth yn ein haros yn y Ganolfan Gymraeg sydd wedi ei chodi gan y Cymry (gwerthwyd brics yn yr Eisteddfod Genedlaethol). Yma hefyd o dan yr un to roedd yr Ysgol Gymraeg a Nesta o Abergele, chwaer y Parch Richard Glyn Jones, yno fel athrawes.

Ymweld â Chwm Hyfryd

Y diwrnod wedyn teithio drwy barc cenedlaethol yr Andes a gweld golygfeydd godidog gan gynnwys 'Cwm Hyfryd' oedd yn wir yn gyfystyr â'r enw. Roedd y mynyddoedd a'r llynnoedd gwyrddlas yn fy atgoffa o'r Rockies a'r llynnoedd yng Nghanada. Yr unig beth oedd yn sâl oedd y ffyrdd yn y parc - heb eu tario a reid go ysgytiog a gawsom.

Bûm yn ffodus o gael aros mewn cartref Cymraes o'r enw Rene yn Esquel. Roedd barddoniaeth Gymraeg ar y wal a'r croeso yn fendigedig ganddi hi a'i theulu. Roedd yr ardd yn llawn blodau'r Gwanwyn, ond roedd yn dal yn ddigon oer wrth droed yr Andes a'r eira i'w weld ar y mynyddoedd. Uchafbwynt y daith i mi oedd cael croeso ac Asaddo ar fferm y diweddar Fred Green yn Nhrefelin.

Hwn oedd y teulu mwyaf Cymreigedd a gyfarfuasom - hyd yn oed plentyn bach dwy oed Eric Green yn siarad dim ond Cymraeg ac yn mynd i'r ysgol feithrin Gymraeg yn Nhrefelin. Roedd ei fam wedi dysgu Cymraeg yn wych trwy ddod ar gwrs i Lambed. Doedd Eric a hithau ddim wedi cyflwyno'r Sbaeneg iddo eto! Dyna i chi deyrngarwch. Bu Eric yn aros yn Foel Cathau, Llangernyw yn y saithdegau ac roedd yn fy nghofio a finnau ynte. Roedd Fred Green a'r cwbl ohonynt wedi cadw'r iaith i'w teuluoedd.

Hon oedd ein noson olaf yn y Wladfa. Cawsom noson dda o ganu a sgwrsio o gwmpas y tân a ffarwelio â'r Wladfa y diwrnod wedyn. Dyma ychydig o fy sylwadau am daith fythgofiadwy.

Efallai y bydd rhywun arall o'r criw am ychwanegu mwy at yr hanes y tro nesaf.

Menna Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy