BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Llun o'r gyfres Dad's Army Atgofion am yr 'Home Guard'
Mehefin 06
Atgofion Bobi Morris Roberts am ei amser yn yr 'Home Guard' a'r profiadau hynod gafodd yno!
Ar ddydd Sadwrn yng nghanol Mis Mai, cefais ganiad ar y ffôn gan Gwenan Jones o Sir Fôn. Roedd hi yn Aberhonddu ac awydd galw i'n gweld. Cyrhaeddodd y tŷ mewn deg munud, a'r cyntaf ddaeth allan o'r modur oedd Rhiannon Davies, Llwyn Onn, a'r nesaf oedd Mair Williams o'r Clwt, ac yna Gwenan. Buont yma am hanner awr a dyma'r hanner awr mwyaf difyr rydym wedi ei gael ers talwm. Diolch am alw. Ond yn ystod y sgwrsio gofynnodd Rhiannon oedd gennyf atgofion o'r Home Guard. Dyma sy'n dod nesaf.

Rwy'n meddwl mai tua dechrau 1940 y bu i tua hanner cant neu fwy gyrraedd y sgwâr yn y Llan, a rhyw Gapten Jones o gylch Llanelwy yn rhoi sgwrs i ni. Dim gynnau, ond martsio, a gweiddi "Left, right, left right ac About Turn". Cafodd fy nhad a Will Owen, Siop Sinc a Robert Owen y Gweinidog eu gwneud yn Sarjants. Cyn bo hir roeddem yn cario gwn dau faril, gynnau ein hunain, ac yn mynd i gardio ym Mhlas Pren - Gwylfa Hiraethog, ac yng nghriw y Parch. Robert Owen oeddwn i.

Nid oedd yr olygfa o Blas Pren yn ddifyr iawn. Byddem yn gweld y fflachiadau bomio yn Lerpwl a weithiau rhai yn disgyn yn nes i Lansannan. Cofiaf un awyren yn cael ei saethu i lawr ger Nantglyn. Ond byddem hefyd yn cael dipyn o hwyl. Roedd na foi o Lerpwl wedi dod i'r llan i weld ei blant oedd yn 'faciwis yma a gofynnodd gai o aros efo ni yn Plas Pren. Gwirfoddolodd un noson i wneud awr neu ddwy tu allan. Ar ôl awr daeth i'r tŷ a gweiddi "There are Germans outside" a dwedodd ei fod yn clywed nhw yn siarad. Pan aethom allan a gwrando, roedd y boi yn clywed y grugieir!

Roedd na gyngherddau yn bod weithiau i ddathlu'r 'Croeso Adref, 'Welcome Home Fund'. Cafwyd hwyl un noson yn Festri Capel Coffa Henry Rees pan fu i Will Siop Sinc wneud sgets, a dod a hen fotor beic ar y llwyfan. Ceisio cychwyn y motor beic a dim yn digwydd. Dyma un o'r criw yn gofyn oes na betrol ynddo? Will Owen yn tynnu cap oddiar y tanc a golau matsien, a bu aflwydd o bang a dychryn pawb. Chafodd neb ei frifo, doedd dim petrol yn y tanc ond roedd na arogl petrol yno a dyna achosodd y ffrwydriad. Roedd pawb yn chwerthin ac yn meddwl fod y cyfan wedi ei blanio.

Rwyf yn meddwl mod i wedi adrodd yr hanes o Home Guard y Bryn yn ceisio cyrraedd y llan dro yn ôl. Ond roedd na barti cyngherddau ganddynt yn y Llan hefyd a byddem yn cael hwyl ymhobman. Nellie Vaughan Wynne oedd yn cyfeilio, a'r tro cyntaf i ni fynd allan oedd i ardal Bryn Eirias, uwchben Bae Colwyn. Buom yno sawl gwaith, ac yna i Glan Conwy ac Eglwysbach, a chafwyd hwyl iawn. Trefor Roberts, Gerdden, a Will Siop Sinc fyddai'n arwain a phawb yn hapus yn canu.

Pan ddeuai'r Nadolig byddai'r hogiau yn cael eu gwahodd i Lety'r Eos i ganu carolau i Dr. Emyr Wyn Jones a'r teulu. Yno bu i mi gyfarfod ag Alun Llewelyn Williams, brawd i Mrs. Jones. Ar ôl symud i Aberhonddu bu ei lyfr Crwydro Brycheiniog yn gymorth mawr i mi i ddod i adnabod yr ardal.

I orffen, Plas Pren oedd yr hwyl. Ambell i un yn aros yn Bryn Trillyn am beint neu ddau, ac yn cerdded i fyny i Gwylfa Hiraethog. Roedd tafarnau yn cau hanner awr wedi naw pryd hynny, ond roedd yfed yn Bryn Trillyn tan hanner nos yn weddol aml. Er fod hi'n amser dwys a llawer yn cael eu lladd drwy'r byd, roedd yn rhaid trio gwenu. Mis Mawrth eleni ysgrifennais at y Prif Weinidog a dweud, "Ers pan dwi'n cofio, mae pob rhyfel wedi ei gychwyn gan wleidyddion, ond faint sydd wedi lladd yn Irac!" Nid wyf wedi cael ateb a dau fis wedi mynd! Hwyl i bawb ym mro'r Gadlas.


Cyfrannwch

Anhybys - Ysgol Tryfan
Mae'r atgofion yma yn rhoi golau newydd i mi edrych ar y rhyfel fel chwa o awyr iach i fywyd bobl, ei fod wedi ysbrydioli bobl i gael hwyl, i "drio gwenu". Mae yn sicr wedi fy ysbrydioli i i fynd ati i gael hwyl. Wrth feddwl am bobl fel Bob Morris a William Siop Sinc mae'n rhoi egni i mi fynd i wennu ac i fwynhau bywyd i'r eitha er os yw cymylau du uwch fy mhen! Diolch i chi Bob Morris am ysgrifennu eich atgofion!
Thu Nov 20 10:43:28 2008


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy