BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Tomi Jones yn torri gwair hefo 'chassis' pren a hen olwyn beindar. Tomi Jones, Graig Lwyd
Mehefin 2005
'Rydym yma heddiw i gofio a diolch am fywyd Tomi Jones, Graig Lwyd.
Gan Meirion Wynne
Fel y cyfnodwyd yn y papur dyddiol, 'roedd yn sicr yn werinwr a chymwynaswr mawr'. Mae yn siwr bod atgofion pawb ohono yn wahanol, a dyma fel y gwelsom ni ef fel cymdogion.

Fe'i ganwyd yn Pwll y Glomen, Cefnberain. Pan oedd Tomi Jones yn 5 oed bu farw ei Dad, a symudodd y teulu i Ty Newydd i fod yn nes at gartref ei Fam sef Foel Fawr. Yn fuan bu farw ei frawd Abel yn 12 oed. O Ty Newydd aeth Tomi Jones i Ysgol Llannefydd a gadael yr ysgol yn ifanc iawn i weithio a'r ffermydd yr ardal. Tra yn gweithio yn Taldrach, Groes cyfarfu a Kitty, Nant yr Hengoed. Fe'i priodwyd yn y Capel hwn 70 mlynedd yn ol, ac aethant i ymgartrefu yn Graig Lwyd, Llannefydd. Yno y buom yn byw tan wyth mlynedd yn ol cyn symud i Ty Capel, Cefnberain.

Mae yn debyg ei bod yn wir dweud bod gan Mrs Jones fwy o ddiddordeb mewn ffermio na Tomi Jones ac er yn gynnar iawn, bod arall gyfeirio wedi cymeryd lIe yn Graig Lwyd. Fel roedd peiriannau yn cymeryd lIe ceffylau ar y ffermydd daeth angen gwasanaeth un oedd yn deallt peiriannau. 'Roedd Tomi Jones yn wr galluog a dyfeisgar iawn a daeth galw mawr am ei wasanaeth, er na chafodd unrhwy addysg arbennig yn ei faes a'i grefft. 'Roedd yn 'self taught' a hynny trwy ddarllen llawer. Gellid ei alw yn 'Tom of all trades, and Master of Everything'.

Yr hyn fydd yn aros yn ein cof am Tomi Jones fydd, y cawr o ddyn, ei gamau bras, a'i ddwylo mawr, a'i wisg waith, (cap, sieced frethyn, ei 'overalls bib and brace' ac yn amIiawn wellingtons wedi ei torri yn fyr). Byddai bob amser yn daclus, (gofalai Mrs Jones am hynny) ac yn hamddenol y gwna ei waith. Anaml iawn fyddai ar frys gan fod yn bwysicach bod y gwaith wedi ei wneud yn iawn bob amser. 'Doedd y pris, lawer tro a godai am wneud y gwaith ddim yn adlewyrchu ei ymdrech, yn amI prin oedd yn cyfro y costau. Doedd o ddim yn rhy gynnar yn y bore, ond daliai ati yn hwyr y nos yn enwedig os oedd angen gorffen gwaith, ac roedd dim yn ei blesio yn well na ffryd da o fwyd (ac roedd ambell un wedi sylweddoli ei fod yn 'ffond' o 'cream cakes').

Roedd wedi datblygu llawer celficyn, trwy ei weldio medrus, ac yn ei plith y 'Baler' wedi ei greu o wastraff metal oedd o gwmpas y buarth. Un tro, roeddwn wedi cael fy anfon yno i helpu yn y cynhaeaf gwair, fy ngorchwyl oedd helpu Mrs Jones i gasglu y gwair yn sypiau a fficwach, tra byddai Tomi Jones yn mynd o gwmpas y cae gyda'r baler. Cefais fy'm siarsio gan Mrs Jones, os digwyddai anffawd i'r baler nad oeddwn i chwethin. Roedd popeth yn mynd yn iawn nes cyrraedd gwaelod y cae. Wrth droi yn ol, twylodd y baler a dyma Mrs Jones yn fy'm hatgfoffa o'i siars trwy godi ei fficwach, bu llonyddwch. Daeth Tomi Jones i lawr oddiar y fordsen bach ac ymhen ychydig roedd yn siglo chwerthin. Byddai bob amser wrth ei fodd yn cael hwyl ac roeddganddo chwerthiniad braf. Roedd y ddau yn deallt ei gilydd i'r dim.

Fel dyn y meic roedd llawer yn ei adnabod. Crwydrai i bob man yng Ngogledd Cymru. Cymanfa a Gwyl Ysgol SuI, Eisteddfodau, Cyngherddau, Sioeau bach a mawr a Dawnsfeydd Gwerin. Roedd y calendar y misoedd yr haf yn liawn iawn a methai yn lan a deallt pam fyddai ambell ddigwyddiad yn newid ei dyddiad, ac felly yn tarddu ar ei drefniandau ef, ac yntau wedyn yn gorfod dewis lIe fyddai am fynd, ac yn poeni os byddai yn gorfod siomi rhywun. Wrth ymgymeryd ar gwaith, roedd yn bwysig cychwyn mewn pryd i gael popeth yn ei le a'r testio, cyn i neb gyrraedd i'w rwystro (na busnesu), a byddai yn sicrhau bod y sain yn berffaith. 'Doedd Tomi Jones byth i'w weld mewn cynulleidfa (ac eithrio mewn oedfa yn y capel). 'Roedd pob amser o'r neilltu, yn ddistaw, dirodres, ond roedd pawb yn gwybod ei fod yno, yn rhywle!!

Roedd ganddo glust arbennig i sain a'i brif bleser oedd gwrando ar gerddoriaeth, dim rwtch, ac fe glywech gerddoriaeth yn dod o'r garafan lle byddai yn trwsio neu yn y ty ar ol gwaith. Eisteddai yn ei gornel wrth y tan, yn gwrando yn hytrach na siarad, tra byddai Mrs Jones yn cynnal y sgwrs wth baratoi paned i bawb a alwai yno. Mae yr un croeso wedi ei estyn i lawer pregethwr wedi oedfa yng Nghapel Gwynfa, ne y bu y ddau yn aelodau ffyddlon.

Daeth galwad llawer tro i drosglwyddo llais ar ddydd angladd o apel i adeilad arall, ac roedd cael gwneud y gywmynas hon yn rhoi pleser arbennig iddo.Cawsant lawer o fwynhad o fynd a'r 'dripiau Harri', ac addasodd Tomi Jones gadair fel bod modd i gael Mrs fones i'w sedd arbennig yn y bws mewn modd 'dignified'. Soniai lawer im y pleser o gael mynd i'r infirmary wythnosol, y gwmniaeth a gaent ar tynnu coes, ac roeddynt ynddiolchgar i'r sylw a'r caredigrwydd a ddangoswyd atynt. Byddai hefyd yn cyfeirio at sawl un a fu yn barod eu cymwynas a hwy ar hyd ei hoesac yn arbennig wedi iddynt ddod i fyw i Cefn Berain. Dau yn deallt ei gilydd oedd Tomi Jones a Mrs Jones. Doedd pethau materol ddim yn bwysig, dim gwyliau moethus, dim ond noson neu ddwy yn y garafan yn Llanrwst, Llangwm, Nebo ac unwaith cyn belled a Llanfair Caereinion.

'Doedd dim 'medical plan', na chytundeb personnol ganddynt, oedd yn seiliedig a'r gyfraniad ariannol. Dim ond y cytundeb personnol arbennig hwnnw a gymerwyd allan yma 70 mlynedd yn ol, ac fe ddaliodd y polisi hwnnw mewn grym hyd y diwedd. Wedi ei wneud yn y lIe iawn, gyda'r cwmni gorau. Dim angen ei adnewyddu.

Bu gofal Tomi Jones yn driw, ac yn ubennig hyd y diwedd. Hyd yn oed i'r bore olaf, fe ofalodd fod Mrs Jones yn gyfforddus a diogel yn Ty Capel cyn gadael i'r dref. Aeth i'r Fowndri i dalu am MOT y fan fach wen oedd mor bwysig yn eu bywyd, ei fwriad oedd mynd i siopa yn y dre, yna dychwelyd adre , ond daeth ei siwrne i ben.

Bydd gennym oll atgofion melys ohonno, ond bydd yr hiraeth a chwithdod yn cael ei deimlo fwyaf gan Mrs Jones a'r teulu.

Diolch am y fraint o gael ei adnabod.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy