BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Draenog Anifeiliaid a fi
Medi 2009
Yn ddiweddar bum ar ymweliad a Pharc Safari Longleat ger dinas Bath - wedi bod yno unwaith o'r blaen yn fuan ar ôl iddo agor yn y Chwe Degau.

Gan fy mod yn ferch fferm - neu hwyrach ar waetha'r ffaith fy mod i'n ferch fferm! - dwi'n hoff dros ben o anifeiliaid ac, wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd, yn sylweddoli eu bod nhw wedi chwarae rhan cyson yn fy mywyd i, wedi rhoi imi bleser a llawer o hwyl ac, ar brydiau, tristwch.

Y cof cynharaf sydd gen i yw un o'r mochyn un-llygeidiog a enwyd Nelson.

Gan mod i'n unig blentyn ac yn byw yng nghanol y wlad yn Eifionydd tan roeddwn i tua deg oed, roeddwn yn arfer chwarae gyda'r anifeiliaid yn ystod gwyliau'r ysgol os nad oedd ffrindiau ar gael.

Sylweddolais pryd hynny fod mochyn yr un mor gall a'r cŵn defaid gan iddo ymateb yr un mor synhwyrol.

Roeddwn yn sicr ei fod yn deall popeth pan oeddwn i, yn bwysig gyda phensel a llyfr, yn "cadeirio" pwyllgor gyda'r ddau gi a'r mochyn yn eistedd yn dwt mewn cornel glyd yn y tŷ gwair.

Bu Nelson yn gyfrwng imi gael ambell i wers hanes am un o arwyr y Saeson hefyd.

Buwch

Dyna Jên y fuwch odro wedyn - Friesian wrth gwrs - a agorodd fy ngorwelion meddyliol. Arferai hi bori mewn cae tua chwarter milltir o'r fferm a fy mraint a'm mhleser i oedd ei nôl a'i danfon bore a nos i'r beudy. Byddem yn cael trafodaethau dwfn ar y ffordd a chredaf mai dyma'r amser imi sylweddoli am y tro cyntaf am y fath bethau a meidroldeb a thragwyddoldeb.

Deallais gan Jên beth oedd y pregethwyr yn ei feddwl wrth ddweud "byth bythoedd, Amen" o hyd yn y capel.

Roedd Nelson tipyn callach na Meg yr ast fach ifanc nad oedd neb wedi llwyddo i'w dysgu i fod o help yn lle rhwystr ar fferm gwartheg a defaid.

Treuliais ddiwrnod difyr yn ceisio dangos i'r oedolion y gallai merch fach wyth oed drin Meg yn well na nhw.

Yn anffodus, ofer fu'r ymdrech a chefais andros o gerydd gan i Meg redeg yn wyllt ymysg yr ieir yn y cae.

Hawdd dychmygu'r lIanast - byddai Meg wedi ennill unrhyw Iwynog pe tae yna gystadleuaeth.

Fel pob plentyn yng Nghymru yn y Pum Degau roedd darllen hanes Siôn Blewyn Coch a Siân Slei Bach a'u teulu yn bleser dyddiol cyn mynd i gysgu'r nos.

Mis Ionawr y flwyddyn yma teimlais yr un wefr plentyndod eto pan welais Siôn a Siân yn yr ardd un nos yn bwyta cnau yr adar.

Pleser yw dweud fod Siân yn dal i ddod o dro i dro ac yn rhannu'r cnau erbyn hyn gyda Selwyn a Sali, y ddau ddraenog, sydd wedi penderfynu cartrefu gyda ni.

Fel plentyn roedd cerydd yn brofiad dyddiol - fel yr amser pan gymerais drugaredd dros Pero, yr hen gi, a fyddai wastad wedi ei glymu a lIinyn beindar yn y stabal.

Rhoddais ei ryddid iddo un dydd a welwyd byth mohono wedyn. Roeddwn yn argyhoeddedig ei fod yn ddiolchgar imi a'i fod wedi mwynhau'r ychydig amser rhydd yn hydref ei fywyd.

Cathod

Fe geisiais i hefyd helpu Topsi'r gath drilliw, wyllt, a oedd yn ôl pob tebyg yn byw yn fras ar y llygod ar y fferm. Cafodd naw o gathod bach un tro a theimlwn y byddai'n dda pe tawn i yn eu dofi er mwyn iddynt gael dod i fyw yn y tŷ.

Chefais i fawr o gefnogaeth yn y dasg gan fy rhieni.

Ni welwyd y cathod bach o gwmpas wedyn a rwy'n siŵr fod llawer o ddarllenwyr Y Gadlas yn amau beth ddigwyddodd - fel yr oeddwn innau hefyd ar y pryd.

Yr un tristwch a deimlais pan ddygwyd Gwyn fy oen llywaeth i'r farchnad un diwrnod - fy nhro i oedd bod yn flin gyda'r oedolion y tro yma.

Ers dod yn oedolyn nid wyf "wedi rhoi heibio bethau'r plentyn".

Bu bron i'r gwr fod yn ddigon byrbwyll yn ystod rhamant y mis mêl a phrynu cwningen imi mewn marchnad yn Rhydychen.

Diau fe fyddai wedi gwneud hynny pe taen ni ar y ffordd gartref yn hytrach nag ar y ffordd i Sbaen!

Yn ystod y deugain mlynedd ers hynny mae nifer o ffrindiau pedair troed wedi bod yn tŷ ni - hwyrach mewn ymdrech i ail fyw plentyndod.

Rhaid dweud fod rhai anifeiliaid wedi ein dewis ni yn hytrach na ni wedi eu dewis hwy.

Daeth Blodwen y fochdew ar ein traws un noson olau leuad yng nghanol stad o dai cyfagos.

Er ein hymdrechion i ddarganfod ei chartref swyddogol, acw y bu hi am ddwy flynedd a bu raid cael Mahler i lenwi'r bwlch a adawodd ar ei hol.

Gerbil

Cawsom y fraint amheus o warchod tri gerbil o Ysgol Glan Clwyd dros un Nadolig.

Taerai'r athrawes mai tri oeddynt ond aeth naw gerbil yn ysgol ym mis lonawr. Gobeithio fod addysg rhyw Ysgol Glan Clwyd wedi gwella ers hynny!

Penderfynwyd nad oedd hi'n deg cadw ci a phawb allan o'r tŷ am gyhyd o amser yn ystod y dydd a bodlonwyd ar nifer o gathod dros y blynyddoedd - rhai yn llwyddo i ddianc rhag y ceir ar y ffordd, eraill ddim mor ffodus.

Yr agosaf ddeuais i gael ci oedd pan yn aros dramor yng nghartref y ferch a'r teulu dros ddeng mlynedd yn ôl.

Wrth fynd am dro drwy gae o datws cynnar gyda daeargi bach gwyn y teulu, rhuthrodd anferth o gi du a brown tuag atom o ben y bryn.

Gan nad oedd neb o fewn golwg doedd dim i'w wneud ond cario ymlaen a dilynodd ni yn ôl yr holl ffordd i'r tŷ.

I dorri stori hir yn fyr yno y bu Carped tan ddiwedd ei oes.

Cafodd ei enw am ei fod wastad yn gorwedd flaen y drws ac am nad yw dysgwyr yr iaith Saesneg ddim bob amser yn deall y gwahaniaeth ystyr rhwng "carped" a "mat'.

Ymddeol

Felly, dim syndod pan ddaeth amser ymddeol o'r gwaith, cael ci oedd un blaenoriaeth a'r dewis oedd un tebyg i Carped, sef ci defaid Almaenig.

Tybiwn yn amal mewn gwirionedd nad ci oedd Nel- roedd yn aelod mor lIawn o'r teulu. Mae'r plant yn honni mai cymryd ei lle hwy oedd hi - hwyrach wir, ond hi'n lIawn hawsach i'w thrin!

Bu galaru mawr pan ddaeth ei hamser i ben ac mae Mali wedi ceisio gwneud i fyny am y golled ers hynny - ond mae hi'n ifanc ac yn fwy o lond lIaw o ran natur -neu rydwi'n mynd yn hyn.

Serch hynny i gyd rydwi'n dal i fwynhau anifeiliaid a phob rhaglen sydd yn ymwneud â byd natur.

Felly, pan yn aros yn Ne Lloegr yn ddiweddar, allwn i ddim colli'r cyfle i alw heibio Longleat a chefais i ddim fy siomi.

Daeth yr un cyffro a'r wefr wrth weld yr anifeiliaid yno, yr arbennig felly y bleiddiaid.

Bu raid i'r gwr fy fy atal rhag mynd allan o'r car pan ddaeth un o'r bleiddiaid cyfeillgar yr olwg yn agos ac edrych ym myw fy llygaid!

Ond pryd hyn ni ddaeth cynnig i brynu un bach ifanc i ddod gartref.

Elizabeth Williams, Tir Heledd, Trefnant


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy