BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Profiad Urddo Gwyn
Medi 2004
Y Profiad o fynd i Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd i gael fy urddo er anrhydedd i'r Orsedd, 8 Awst 2004.
Cefais y llythyr cyntaf ym mis Ebrill eleni, gan y cofiadur Jâms Niclas, yn cael gwahoddiad i'r Orsedd, ac yn dweud bod eisiau ei gadw'n gyfrinachol, nes y bydd wedi ymddangos yn y Wasg.

Wel roedd yn deimlad braf ac roeddwn yn colli deigryn wrth ddarllen y llythyr.

Ei chychwyn hi bore Iau am Gasnewydd, codi Men yn Pentre Du, a theithio yn y Subaru dros y Brenig, a Men yn dweud y byddai Mam a Dad yn 'proud' o'r hogyn. Yn y Bala cawsom damaid sydyn, cyn codi Morfudd, hithau wedi paratoi cinio blasus i ni fel teulu, ac roedd mor braf, cawsom ei fwyta allan yn yr ardd.

Cyfeirio'r ddau gar tua'r de, a chyrraedd Caerdydd amser te, ac aros yn y Cathedral Hotel am ddwy noson. Nos Iau aethom i weld Maes yr Eisteddfod, a chyn pen chwinciad roedd Hywel wedi tynnu ein lluniau.

Bore dydd Gwener am ddeg, ystafell newid, arwisgo yng nghefn y Pafiliwn - dynion a merched yn gymysg, yn tynnu crysau a blowsys, ar draws ei gilydd, rown i braidd yn swil, ond yn Bryntrillyn oedd yn delynores 'Megan Hiraethog'.

Roedd Taid a Nain yn byw yn Tai Pella, adeg y rhyfel cyntaf, tua 1915, Taid yn fugail yno, a Mam wedi gadael ysgol Pentrefoelas yn naw oed, ar ôl dim ond dwy flynedd o ysgol. Teimlo'n falch o gael adnabod pobl go iawn, o ardal Hafod Elwy, ac yn falch mod i'n Gymro yn mwynhau'r profiad.

Roeddwn yn adnabod amryw yno, sef Gron a Nesta Elis, Tegwyn Williams, Ieuan ap Siôr a Tara Bethan. Roedd y pen wisg yn mynnu syrthio yn ôl ar fy nghoryn, roeddwn yn gorfod rhoi plwc iddo yn ôl reit aml. Teimlo'n emosiynol iawn wrth feini'r orsedd.

Nos Wener aethom fel teulu i weld dathlu Penblwydd 'Pobl y Cwm'. Bu inni adael ymhell cyn y diwedd, roedd yn llawer rhy swnllyd a byddarol, a ninnau wedi talu degpunt yr un, ond nid yr un peth sy'n plesio pawb.

Ar ein ffordd adref brynhawn Sadwrn aethom i Aberfan i gofio am y plant bach, ac wrth ddod adef dros y Brenig, cofio am fugeiliaid ardal Hafod Elwy, ond sydd i gyd wedi'n gadael bellach - Wil Parri, Hafod yr Onnen, yr hen ffermdŷ dan ddŵr Llyn Brenig erbyn hyn, Tom Williams Tai Pella a gafodd yr anrhydedd o ennill teitl 'Bugail y Flwyddyn' trwy Brydain; Tecwyn Jones Tŷ Isa, graen da ar bopeth oedd ei wneud, gallai reidio beic wysg ei gefn, ac yn un da iawn am ddal llwynogod; Roberts T Jones, Tan y Graig, bugail ardderchog eto; Megan oedd yn cadw tafarn.

Gwyn Hafod Elwy


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy