BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
David Lloyd Jones Cymdeithas Hanes Bro Aled
Mawrth 2010
Nos Lun 22ain Chwefror, daeth Rufus Adams atom gyda'i ddarlith ar fywyd gwleidyddol Lloyd George.

Roedd yn amlwg drwy ystod ei ddarlith fod Lloyd George yn arwr mawr iddo.

Eginodd ei ddiddordeb gyntaf wrth wrando ar ddarlithydd o America yn trafod y gwr anhygoel yma.

Nid oedd lawr sôn amdano yn y brifysgol, ond cafodd wefr yn gwrando, am y tro cyntaf yn wir, ddarlith gyfan ar y dewin o Lanystumdwy.

Cyflwynodd Bethan, ein Llywydd, y gwr gwadd fel un oedd wedi ei eni yng Nghaerfyrddin, cael ei addysg uwch yn Vsgol y Gwendraeth ac yna ymlaen i ennill ei radd mewn hanes ym Mhrifysgol Abertawe.

Vn ystod ei yrla ddisglair bu yn drefnydd Addysg y Gweithwyr, Darlithio yng Ngholeg Harlech, wedyn ym Mhrifysgol Bangor, heb sôn am ddarlithio ar draws hyd a lled y wlad.

Mae'n awdur ac yn lythyrwr dylanwadol iawn.

Y fo hefyd oedd yn gyfrifol i berswadio Cyngor tref Caerdydd i enwi'r Ffordd rhwng y Ddinas a'r Bae yn Rhodfa Lloyd George.

Eglurodd Rufus mai cyfnod cynnar Lloyd George fel gwleidydd a Changhellor oedd byrdwn ei drafodaeth i ni heno.

Dyma'r Cymro Cymraeg cyntaf i fod yn Bril Weinidog ar Brydain Fawr.

Er iddo gael ei eni ym Manceinion, bu Lloyd George yn falch o'i Gymreictod ar hyd ei oes.

Cafwyd stori dda amdano yn siarad yn Southampton, yn ystod cyfnod cynnar LI G. Fel Canghellor, iddo ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn Gymro.

A dyna ŵr yn sefyll ar ei draed ac yn gofyn iddo, Mr Canghellor, gyda phob parch, rydych yn siarad nonsense. Rydych yn siarad gyda balchder eich bod yn Gymro, ond rydym i gyd yn gwybod i chi gael eich geni ym Manceinion.

Ac ateb LI G. "Chware teg i chi syr, cwestiwn ddigon teg, yr unig reswm i mi gael fy ngeni ym Manceinion, roedd gennyf isio bod yn agos at mam. " Arwydd sicr o'i ffraethineb a'i feddwl chwim.

Dwy flynedd bu Rufus Adams yn olrhain hanes plentyndod LI G a'i fagwraeth, wedi colli ei dad yn ifanc iawn a symud o Sir Benfro yn ôl i Lanystumdwy at frawd ei fam set Richard Lloyd y Crydd.

Mynychu ysgol Llanystumdwy, ac yna mynd yn "Article Clark" i Breeze Jones and Cason cyfreithwyr ym Mhorthmadog.

Erbyr 1884 ac yntau ond 21 oed, cychwyn busnes cyfreithiol ar Iiwt ei hun, eto yn Mhorthmadog.

Yn ddiweddarach ymunodd ei frawd William gyda fo ar busnes wedyn yn dod yn "George & George".

Uchelgais LI G oedd cael bod yn aelod seneddol ac yn wleidydd.

Cafodd ei ethol yn ymgeisydd gan y Rhyddfrydwyr yng Nghaernarfon yn 1890, ac ennill etholiad yn 1893.

Felly o 1893 hyd at 1945, bu yn aelod seneddol am 55 mlynedd, record Brydeinig, does neb arall wedi bod yn aelod seneddol ym Mhrydain yn ddi-dor am gymaint o flynyddoedd.

Record arall oedd iddo fod yn aelod o'r cabinet o 1901 hyd at 1922, eto yn ddi-dor, 17 mlynedd a does yr un gwleidydd ym Mhrydaln wedi gwneud ddim tebyg iddo.

Flalth ddiddorol arall ac oedd yn record, set ethol Lady Megan Lloyd George, ei ferch, fel y ferch gyntaf i gael ei hethol I dy'r Cyffredin y Llundain.

Cawsom noson arbennig o ddiddorol chael dysgu cymaint am y. dewin o wleidydd oedd hefyd yn Gymro Cymraeg.

Clywsom am ei ddawn fel siaradwr a dadleuwr o'r radd uchel.

Bu ei ddylanwad yn lawr yn ystod ei gyfnod fe canghellor heb sôn am fel prif weinidog.

Diolchwyd iddo yn gynnes iawn gan Bethan ac edrychwn ymlaen at ei wahodd unwaith eto ymhen y flwyddyn.

Berwyn Evans, Trefnydd Nosweithiau


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy