BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Ffarmwr o Dolwen yn cwrdd â ffarmwr o Luxor Ymweld â'r Aifft
Mawrth 2006
Teithio i fyny'r afon Nil, croesi'r Sahara mewn confoi ganol nos, gweld delw anferth Ramessis II a chyfarfod â thrigolion lleol - y cyfan yn rhan o daith i'r Aifft.
Ar ein hymweliad â gwlad yr Aifft cawsom drafeilio i fyny'r Afon Nil o Luxor i Aswan, sef pegwn pellaf i'r de yn y wlad. Gan mai dim ond ryw unwaith pob pedwar can mlynedd mae hi'n glawio yn y pen yma o'r wlad, yr afon yw'r unig ffynhonnell o ddŵr sydd ganddynt, ac mae'r boblogaeth yn hollol ddibynnol arni. Maent yn byw ar hyd ei glannau ar lai na 5% o diriogaeth y wlad, anialwch yw'r 95% sy'n weddill. Ym mis Chwefror yn flynyddol mae'r afon yn gorlifo ei glannau gan ffrwythloni stribed o dir ar hyd y lan a hyn sy'n cynnal bywyd iddynt.

Mae canran fechan o bobl yr Aifft ymhlith cyfoethogion mwya'r byd. Yna ceir haen o bobl addysgiadol, broffesiynol sy'n byw'n gyfforddus ac yn gallu talu am addysg i'w plant. Mae'r gweddill yn dilyn ffordd o fyw sydd heb newid fawr ers canrifoedd. Tai sgwâr gyda hollt agored fel ffenestr a brigau a dail yn creu to; ymolchi, golchi dillad, a chario dŵr yfed o'r afon; mae gan y teuluoedd lwcus fuwch neu afr neu ddwy, ryw acer o dir a mul i gario eu cnydau.

Yn dilyn ymgyrch gan y llywodraeth i ddysgu ffeithiau elfennol iechyd plant i'r mamau mae dros un rhan o dair o'r boblogaeth bellach o dan 15 oed. Mae hyn yn golygu fod yr ysgolion yn gorlifo a hanner y plant yn cael mynychu yn y bore a'r hanner arall yn y prynhawn. Yn ystod ein hymweliad fe wnaethom gyfarfod â nifer o oedolion oedd yn gweithio er mwyn talu eu ffordd drwy goleg a gwella eu hunain.

Ffarmwr o Dolwen yn cwrdd â ffarmwr o Luxor - fel mwyafrif o ffermwyr y wlad roedd teulu Mohamed yn berchen ar ddarn o dir ryw ddwy acer o faint. Er mwyn cynnal ei deulu roedd yn gweithio yn Nyffryn Brenhinoedd yn y boreau ac yna yn edrych ar ôl y tatws, tomatos neu india-corn ar ei ffarm yn y prynhawn.

Ar bedwerydd diwrnod ein hymweliad cawsom groesi'r Sahara i ymweld â theml Abu Simbel. Rhaid oedd ymuno â'r unig gonfoi oedd yn mynd y diwrnod hwnnw am 2.45 y bore er mwyn trafeilio'r 5 awr a hanner a chyrraedd yno fel yr oedd yr haul yn codi. Profiad anhygoel trafeilio drwy'r nos gyda milwr â gwn anferth yn eistedd wrth fy ochr. Bob hyn a hyn roedd rhaid stopio yn y `checkpoints' a milwyr yn rhoi `probe' o dan y bws i chwilio am ffrwydron.

Dyma gyrraedd Abu Simbel gyda thoriad gwawr, dim ond 20 km o'r ffin â Swdan a milwyr a gynnau yn amlwg iawn ym mhobman. Er mwyn sicrhau digon o ddŵr i'r wlad mewn cyfnodau o sychdwr ac adennill mwy o dir ffrwythlon ar gyfer poblogaeth sy'n tyfu'n gyflym penderfynwyd creu argae anferth ger Aswan gan foddi talaith Nubia. Golyga hyn foddi un o greiriau pwysica'r wlad. Galwyd ar beirianwyr y Cenhedloedd Unedig dyma fynd ati i lifio'r deml yn filoedd o ddarnau, eu rhifo ac yna ail godi'r cyfan uwchlaw lefel y dŵr.

Teml mewn dwy ran yw Abu Simbel wedi ei naddu i mewn i'r graig ac felly fe ail-grewyd y mynydd ar y safle newydd. Delw anferth Ramessis II. Ar godiad haul ddwywaith y flwyddyn ar yr 22ain Chwefror a'r 22ain Hydref mae pelydrau'r haul yn llifo trwy ddrysau'r deml gan oleuo wyneb Ramessis II ym mhendraw'r cyntedd hir, yn union fel yr oedd 3,000 o flynyddoedd yn ôl.

Dyffryn y Brenhinoedd - mynedfa i feddrodau brenhinoedd a gladdwyd filoedd o flynyddoedd yn ôl yw'r rhain. Mae yna rif y gwlith ohonynt yn y Dyffryn, pob un yn ymestyn am gannoedd o lathenni i mewn i'r mynydd ac wedi eu cerfio a'u haddurno yn gelfydd. Cawsom fynd i mewn i un â'r paent ar y to yn las llachar gyda sêr aur disglair, y lliwiau heb bylu dim dros filoedd o flynyddoedd!

Anna Jones, Cefn, Dolwen


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy