BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Plant Betws Ddoe Mae cenhedlaeth wedi mynd a chenhedlaeth wedi dod
Mawrth 2005
Mae Betws yn Rhos wedi gweld llawer o newid yn y can mlynedd diwethaf.
Yn ôl Cyfrifiad 1901 roedd poblogaeth Betws a'r Plwyf yn 459 gyda 105 o gartrefi a phreswylwyr ynddynt a thri tŷ gwag. O'r cartrefi hyn roedd 40 ohonynt gyda mwy na phum person yn byw ynddynt. Erbyn Cyfrifiad 2001 gwelsom fod nifer trigolion y plwyf wedi aros yr un fath ond bod nifer y tai wedi codi'n sylweddol ac erbyn heddiw mae oddeutu 220 o dai yma.

Yn 1901 roedd 41 o dai yn y llan a hynny yn cynnwys pentrefannau Bron Llan a Bryn Groes ond heddiw mae 130 o anheddau yma. Ni chafwyd gwybodaeth swyddogol o Gyfrifiad 2001 ynglyn â rhif y preswylwyr sydd yn byw ym mhob tŷ ond amcangyfrifir bod oddeutu 8 tŷ gyda mwy na phum person yn byw ynddynt sydd yn wahanol iawn i Gyfrifiad 1901.

Ar ddechrau' r ugeinfed ganrif nid oedd yr un tŷ wedi derbyn trydan ac yn debygol iawn nid oedd dŵr ar gael oddi mewn i'r tai ar wahan i'r Ficerdy a phlasdy'r Ffarm sydd heddiw'n westy. Bu newid mawr ynansawdd y tai oherwydd yn 1901 roedd 8 tŷ â tho gwellt arnynt a chofnodwyd bod 35 o anheddau'r plwyf yn cyflogi morwynion. Ni chofnodir nifer y gweision a gyflogwyd ond mae'n bur amlwg fod nifer y gweision ar ffermydd y fro yn llawer mwy na rhif y morwynion.

Gwelwyd newidiadau amlwg mewn ymarferion crefyddol. Yn 1901 roedd tri Chapel ac un Eglwys yn y pentref a Chapel y Bedyddwyr yn y Codau ger y Gell ym mhen gorllewinol y plwyf. Mae'r achos yn y Codau wedi cau ers blynyddoedd belIach a chaewyd y drws yn Seion, Capel yr Annibynwyr, oedd ar ffin y pentref ger Bryn Groes. Adroddai un o'r cyn frodorion, sef John Jones, Tŷ Brith (hen fwthyn ger Brynffanigl Uchaf) a fu fyw yn 102 oed, fod mynychwyr yr addoldai yn dod allan ar nos Sul yn eu cannoedd. Cychwynnwyd achos Methodistiaid cyntaf yr ardal mewn lIe o'r enw Pistyll Gwyn - nepelI filItir i'r dwyrain o'r pentref. Yn ôl yr hanes clywodd John a Mair Jones, Pistyll Gwyn, fod Edward Parry, Tanyfron a Thomas Lloyd, Cyffylliog yn pregethu yn yr ardal ond nid oes gwybodaeth bendant a fuont yn pregethu yn eu cartref.

Bu newidiadau eang mewn addysg yn y pentref ac er na fu gostyngiad sylweddol yn nifer plant yr ysgol, mae'r mwyafrif ohonynt yn cael eu cludo yn ôl ac ymlaen i'r lIan a daw rhai ohonynt o Abergele, Moelfre a Throfarth. Yn 1901 byddai'r plant yn derbyn eu haddysg mewn pynciau fel English, Religious Education, Arithmetic a'r pryd hynny roedd Rhyfel y Boer yn destun i'w ystyried. Cofnodwyd fod y plant wedi cael 'day in mourning' wedi marw y Frenhines Fictoria ond prin yw'r sôn eu bod wedi clywed am streic fawr Chwarel y Penrhyn a'r bywyd caled a ddioddefodd trigolion bro Bethesda.

Bu lIawer tro ar fyd a ninnau heddiw yn rhan o'r Ewrop ddemocrataidd ond cofiwn mai Cymry yw ein plant a'n dyletswydd yw eu meithrin yn Gymry ac yn ddinasyddion heddychlon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy