BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Pen y Graig, Gwytherin Pen y Graig, Gwytherin
Hanes un o ffermydd hanesyddol ardal Mynydd Hiraethog.

Pen y Graig ar gwr Mynydd Hiraethog, tua 800 troedfedd uwchben y môr (map SH 8661, 9754). Tŷ hir traddodiadol ydoedd, gyda'r stabl a'r popty mawr ar ei ochr chwith, a'r beudy, yr ysgubor a chwt llai ar ei ochr dde. Erbyn heddiw, er bod yr adeilad yn dal ar ei draed , mae uchder toeau yr adeiladau wedi eu gostwng.

Y cofnod cyntaf sydd gennyf yn ymwneud â Phen y Graig yw claddu Thomas Hughes, tlotyn, ar Chwefror 5ed 1698. Er mae tlotyn ydoedd roedd yn ddyn o flaen ei amser oherwydd mai dim ond cyfran fechan o'r plwyfolion oedd wedi dechrau defnyddio cyfenw parhaol yr adeg yna. Ymddengys bod Hughes yn gyfenw poblogaidd yn y bwthyn yma.

Rhwng 1721 a 1726 ganwyd Hugh, Elizabeth a Mary Hughes i William Hughes a'i wraig. Erbyn 1790 roedd William Hughes arall yma gyda'i wraig Anne. Rhyfeddol oedd sylwi ar y Gofrestr Genedigaethau, a gweld y saith plentyn a anwyd iddynt yn dod i'r byd yn rheolaidd pob dwy flynedd. Bu farw y chweched plentyn, Anne, yn naw mis oed, a rhoddwyd yr un enw wedyn i'r eneth fach nesaf i'w geni iddynt, yn ôl arferiad yr oes. Dim ond Anne Hughes oedd ar ôl i dalu'r dreth erbyn 1838 ar "Land and buildings annual value £2-10s-0d".

Erbyn 1841 mae'r cyfrifon yn dangos mai'r mab William, a oedd wedi priodi Catherin o Sir Gaemarfon, oedd yma'n ffarmio. Ymhen amser ymddeolodd y ddau yma i Dan yr Allt (rhwng Pentre a maes parcio'r Lion Inn), a ffermwyd Pen y Graig wedyn gan eu mab hwythau, sef y trydydd William Hughes yn olynol, a'i wraig Ann. Ganwyd iddynt bedwar o blant ac aethant oddi yma i Nant yr Henfaes.

Erbyn 1870 'roedd Robert ac Anne Jones wedi symud yma o Glanrafon (y canol o dri o fythynnod a arferai sefyll ym maes parcio'r Lion Inn). Mae cyfrifon 1891 yn dangos bod Evan Davies a'i nai, Price Davies (Ap Cledwen), yn byw yma. Bu farw Evan yma yn 1899 a symudodd Price Davies i lawr i Pentref i fyw, lle bu yntau farw yn 1903.

Ym mis Ebrill 1895 digwyddodd trychineb ar dir Pen y Graig. 'Roedd criw yn cerdded adref o Lanrwst, yn eu plith gŵr ifanc 25 oed o'r enw John Griffith, Cornel Fatw, a oedd yn analluog. Wedi anghytundeb gyda'r rhai a oedd yn cyd-gerdded ag ef, aethant hwy un ffordd ac yntau ffordd arall, sef i lawr heibio Pen y Graig. Yn anffodus, cwympodd i lawr i'r nant ddofn sydd rhwng caeau Pen y Graig a Tyddyn Deicws, a bu farw o'i anafiadau.

Daeth Robert ag Anne Edwards yma wedyn o Ben y Bont. Roedd Robert Edwards yn Fugail Mynydd, felly roedd Pen y Graig yn le hwylus iddynt fyw. Bu farw ei wraig yn 1930 ac yntau yn 1918. Y bobl olaf i fyw yma oedd tair merch, Elizabeth (Lisa), Hannah a Gwladys Ann Hughes. Roedd Lisa a Hannah yn ferched i'r trydydd William Hughes ag Ann a aeth oddi yma i Nant yr Henfaes, a Gwladys Ann yn ferch i Lisa. Felly, yma y ganed, ac y bu farw Lisa yn 86 oed yn 1940. Yn Nhy'n yr Ardd y bu farw Hannah Hughes yn 98 oed yn 1961 a Gwladys Ann yn 62 oed yn 1956.

John Wynne, Bron Llan, fu'n ffarmio Pen y Graig ar eu holau. Heddiw mae Pen y Graig yn cael ei ffermio gan deulu Graig Bach.

Gan : Heulwen Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy