BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Plas Hafodunos Un cynllun mawr i arbed dau gampwaith
Gobaith newydd am ddyfodol campwaith pensaerniol ym mro Cernyw.

Lluniwyd cynllun a fydd yn arbed dau drysor rhyngwladol ar yr un safle. Mae Plas Hafodunos, Llangernyw, yng Nghonwy, yn gampwaith pensaernïol ynghanol gerddi a fu unwaith yn rhai gwych o bwysigrwydd rhyngwladol.

Mae'r plasty o'r 19eg ganrif, a gynlluniwyd gan y pensaer enwog, Syr George Gilbert Scott, a'r gerddi mewn cyflwr echrydus. Ond bellach mae cynlluniau ar y gweill i'w hadfer i'w hen ogoniant fel y gall Plas Hafodunos fod unwaith eto'n asgwrn cefn yr economi leol a chreu dwsinau o swyddi a llewyrch yn y fro.

Mae'r datblygwr John Rochelle, o SFJ Cyf, ym Mae Colwyn wedi cyflwyno cais i Gyngor Conwy am ganiatâd cynllunio i droi'r tŷ rhestredig Gradd 1 yn westy o'r safon uchaf. Ac er mwyn gwneud y cynllun sydd werth miliynau o bunnoedd yn economaidd bosibl, mae'n bwriadu creu parc cabanau o safon uchel yn y tir o'i gwmpas.

Dywedodd Mr Rochelle: "Pan welais Blas Hafodunos am y tro cyntaf fedrwn i ddim coelio fy llygaid fy hun - mae'n dŷ mor hardd mewn lle mor hardd. Mae'n llecyn hudolus ac arbennig iawn" ..."Rhaid diogelu'r tŷ a dod â bywyd iddo o'r newydd. Mae mewn cyflwr go ddrwg ar hyn o bryd - bron wedi mynd yn rhy bell i gael ei adfer.

"Ond os gadewir iddo ddirywio mwy bydd wedi mynd yn rhy bell ac fe gollir Plas Hafodunos am byth."

Arddull Gothig

Gweithiai Syr Gilbert Scott bron yn gyfan gwbl yn yr arddull Gothig a daeth yn un o benseiri pwysicaf ei genhedlaeth. Ymysg ei weithiau enwocaf mae dau o adeiladau amlycaf Llundain, sef Gwesty Sant Pancras a Chofeb Albert yng Ngerddi Kensington. Yn y 1860au, fe'i comisiynwyd gan deulu enwog Sandbach i gynllunio Plas Hafodunos ar safle'r hen faenordy a ddyddiau'n ôl i deyrnasiad Siarl I.

Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r tŷ wedi bod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol fentrau a fu'n aflwyddiannus yn y diwedd yn cynnwys ysgol breswyl a choleg cyfrifeg. Mae'r tŷ yn wag ers mwy na degawd bellach, degawd pan ddirywiodd ei gyflwr gryn dipyn.

Dywedodd Mr Rochelle: "Dyma un o'r enghreifftiau gorau o waith Syr Gilbert Scott - dyna pam rydym yn awyddus iawn i'w adfer." "Heb ronyn o amheuaeth, o ran pensaernïaeth, dyma un o'r adeiladau pwysicaf yng Nghymru. Mae'r cynllun a'r gwaith arno'n grefftus dros ben."

"Mae'r gerddi'n flêr ar hyn o bryd yn llawn gordyfiant, ond maen nhw ymysg y gorau ond yn anffodus ymysg y rhai sydd yn y mwyaf o berygl yn Ewrop."

"Roedd gan Blas Hafodunos ganiatâd cynllunio ar gyfer gwesty ond fe'i collwyd am na ddefnyddiodd neb mohono - dyna pam yr ydym ni'n gwneud cais o'r newydd am ganiatâd. Bydd yn amhosibl rhoi terfyn ar y dirywiad heb wario miliynau o bunnoedd arno. Un peth yw canfod digon o arian i adfer y tŷ, ond peth arall yw ei gynnal a'i gadw."

"Y ffaith amdani yw na fydd yn gynaliadwy fel gwesty ar ei ben ei hun, a bydd rhaid cael ffynhonnell o incwm i'w gynnal a dyna pam mae rhaid gwneud y parc cabanau er mwyn i'r prosiect dalu."

Perygl fandaliaeth

"Bu fandaliaid a lladron yma eisoes a dygwyd y llefydd tân i gyd. Mae'n ddigalon gweld y cyflwr mae ynddo - llanast llwyr." Rhaid osgoi sefyllfa arall fel Castell Gwrych. Mae modd ei adfer o'r cyflwr y mae ynddo ar hyn o bryd, ond mae'r amser yn brin. Rhaid gweithredu ar fyrder. Aeth y prosiect hwn â fy mryd yn llwyr oherwydd rwyf wedi bod yn rhan ohono ers tair blynedd ac fe garwn ym fawr weld Plas Hafodunos a'r 15 acer o erddi wedi eu hadfer."

Hoffwn weld pobl yn dod yma - i aros yn y gwesty, i briodi, i fwynhau'r bwyty, i weld y gerddi, ac aros am wyliau yn y parc cabanau. Fy ngobaith yw y gall Hafodunos ddod yn ôl i'w hen ogoniant gan greu oddeutu 30 o swyddi angenrheidiol yn y rhan hardd hon o Gonwy."
(Yr ydym wedi cael ar ddeallt y bydd 90 o gabanau yn y cais cynllunio Gol.)

Ailddarganfod y gerddi cudd

Cynlluniwyd y gerddi, a oedd unwaith yn arbennig o hardd, ym Mhlas Hafodunos, Llangernyw, gan un o'r mawrion garddwriaethol. Y gwr hwnnw oedd Syr William Hooker, cyfarwyddwr Gerddi Kew yn Llundain, gŵr sy'n parhau'n uchel iawn ei barch ymysg arbenigwyr ar erddi.

Roedd Hooker wedi rhoi bywyd newydd i'r Gerddi Brenhinol, gan ychwanegu amgueddfa a'r Tŷ Palmwydd enwog a gwnaeth gyfraniad enfawr i astudiaeth wyddonol a threfn dosbarthu planhigion. Yna cafodd ei gomisiynu i fod yn gyfrifol am brosiect Hafodunos gan y masnachwr cyfoethog Henry Sandbach, a brynodd y plas a'r stad yn y 1860au. Mae'r tŷ a'r stad bellach yn eiddo i'r datblygwr John Rochelle, o SFJ Cyf, ym Mae Colwyn.

Mae'r cwmni wedi cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Conwy ar gyfer troi'r tŷ hanesyddol yn westy ac adfer y gerddi i'w hen ogoniant. Dywedodd Mr Rochelle: "Un rhan o'r gwaith y byddwn yn ei wneud fydd adfer hud a lledrith y gerddi sy'n rhai a gydnabyddir yn rhai sydd o bwys rhyngwladol."

"Dewisodd Hooker ystod ryfeddol o wahanol goed conwydd gwych a llwyni egsotig wrth lunio gardd hollol hyfryd, casgliad botanegol unigryw."

"Mae yno derasau ffurfiol yn wynebu'r de, ac mae'r tir yn ymestyn at nant o'r enw Nant Rhan Hir gyda choed rhododendron, conwydd ecsotig, cypreswydd, eithin pêr a blodau gwyllt o'i chwmpas." "Mae llwybr anffurfiol i lawr at y nant a phontydd carreg yn arwain yn y pendraw at ardd waliog anferth."

"Mae prosiect yr ardd yn her go fawr, her a daw'n bosibl trwy adfer y gwesty a'i wneud yn westy pedair seren o safon uchel gan greu 30 o swyddi a hybu'r economi leol yn sylweddol."

"Byddai'n warth pe bai'r etifedd arddwriaethol odidog hon yn cael mynd yn anialwch gwyllt." "Mae'n amlwg fod y gerddi'n bwysig dros ben ac er bod cyn berchnogion y plas wedi eu hanwybyddu - dyma nhw bellach yn aros i gael eu hailddarganfod."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy