BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Canolfan Gymunedol newydd Llanfairtalhaiarn Canolfan Gymunedol newydd Llanfairtalhaiarn
Gwedd newydd i adeilad cymunedol pwysig.

Mae gan lawer o drigolion hn Llanfairtalhaiarn glamp o feddwl o'r Ysgol Isa' - yr adeilad diddorol yr olwg ar yr ochr dde wrth i chi groesi'r afon Elwy tua'r pentref.

Mae 'stamp' hen ysgol arni, yn arbennig o'r tu mewn, ac yn wir, ychydig o newid a fu ar ei gwedd ers ei dyddiau cyntaf fel Ysgol Genedlaethol - Ysgol Eglwys - ym 1835.

Mae camu i mewn trwy'r drws fel camu'n ôl mewn amser, ac i rai cyn-ddisgyblion fel Miss Hannah Roberts, yn dwyn atgofion melys iawn am gwmnïaeth glos.

Tybed a oes rhywun arall yn cofio Miss Edith Jones yn Brifathrawes ac yn gofalu am y plant hynaf yn ystod y 1920au? Neu am Miss Myfanwy Davies, Hafod y Gân yn dysgu'r plant ieuenga'?

Er mai Saesneg oedd iaith yr ysgol, mae atgof am glywed barddoniaeth Ceiriog ac am ddarllen Pentref Gwyn a Theulu Bach Nant Oer.

Cystadlu rhwng yr ysgolion

Roedd buarth chwarae i'r bechgyn ac un arall i'r merched - pob un gyda'i doiled uwchben y nant oedd yn draenio Dôl y Llan. Fel y gellid disgwyl, gyda dwy ysgol, yr Ysgol Genedlaethol a'r Ysgol Fwrdd mewn pentref mor fychan, roedd hen gystadlu rhyngddyn nhw, â'r plant weithiau yng ngyddfau ei gilydd!

Daeth y blynyddoedd o dynnu'r dorch i ben yn Ebrill 1929 pan ostyngodd niferoedd y plant i tua 24, a rheini, ynghyd â Miss Davies, yn mudo i'r Ysgol Ucha ar gyfer Tymor yr Haf. Trosglwyddwyd Miss Jones i Ysgol Cefn Meiriadog.

Am dros 70 mlynedd, fel Ysgoldy yr Eglwys y bu cyfraniad yr Ysgol Isa' i'r Llan, ac ar wahân i glirio rhai o'r meinciau, ychydig iawn o newid fu ar yr adeilad.

Mae'n agored o un pen i'r llall, â'r sil ffenestri uchel, serth yn destament i'r angen fu i gadw sylw plant Llanfair ar eu gwersi yn hytrach na syllu ar harddwch yr Elwy, neu liwiau yr hydref ar ffriddoedd Garthewin!

Rhoi bywyd newydd i'r ysgol

Ond, daeth tro arall ar fyd, a sicrhawyd cefnogaeth gyhoeddus i'r bwriad o roi bywyd newydd i'r Ysgol Isa' fel Canolfan Gymunedol.

Cytunwyd amodau'r les gyda'r Eglwys a bu Gareth Parry, Clerc y Cyngor Cymuned, a'r Cynghorydd Mrs Ena Wynne wrthi yn ddyfal a llwyddiannus yn paratoi ceisiadau am arian ar gyfer cyllido'r gwaith.

Daeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy i'r adwy ynghyd â Chynllun Grantiau Adeiladau Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y rhain yn talu'r rhan fwya' o'r biliau, a llafur gwirfoddol lleol yn cwblhau'r addurno a rhoi sglein ar y cyfan!

Cyn diwedd y mis, mae gobaith y bydd dechrau ar addasu'r ystafell i lunio cegin, gyda thoiledau a mân waith cyweirio. Fe fydd cyfrifiadur hefyd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer cyhoeddi a syrffio'r we fyd-eang. Efallai y bydd gan y Ganolfan ei gwefan ei hun cyn hir! Mae mewn llecyn ardderchog ar gyfer ei swyddogaeth newydd, yn hwylus a hygyrch i Lanfairolion ac ymwelwyr. Fe ŵyr pawb gymaint y mae'r Elwy yn denu dieithriaid ... efallai y bydd siawns i roi cynnig ar ryw fenter fasnachol wedi ei seilio yn y Ganolfan.

Tybed ... be ydych chi'n feddwl?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy