BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Cape Town Ymweliad â de Affrica a Zimbabwe
Nelson Mandela, Eliffants a Rhaeadr Victoria .. dim ond rhai o brofiadau Helen Llinos Jones ar ei hymweliad â de Affrica ...

Ar ôl derbyn yr her o ysgrifennu pwt ar gyfer Byd y Merched, bu hen bendroni ynghylch y pwnc. Meddwl oeddwn i yr hoffech chi glywed am fy ngwyliau draw yn Ne Affrica a Zimbabwe yn ystod mis Chwefror. Cyfnod o ryw bythefnos a hanner yng nghwmni difyr fy ffrind Catrin yn teithio un o wledydd mwyaf amrywiol a diddorol y byd.

Wrth ffarwelio â'r gaeaf oer yng Nghymru gwyddom ein bod wedi cyrraedd De Affrica pan welais o ffenestr yr awyren yr haul tanbaid ar y tir gwastad am filltiroedd a'r mynyddoedd godidog. Glanio yn Johannesburg cyn parhau ar ein taith i Cape Town, taith o ddwy awr yn ychwanegol.

Yr hyn a'm syfrdanwyd yn gyntaf wrth gyrraedd Cape Town oedd yr anhygoel "Table Mountain". Doeddwn i'n methu tynnu'n llygaid oddi arno. Mynydd 3,565 o droedfeddi ac yntau'n teyrnasu dros y ddinas gyfan. Roedd fel petai yn ein croesawu ni yno, ac mi roedd hi'n groeso bendigedig ei weld heb y lliain bwrdd neu'r cymylau drosto, cawsom ei weld ar ei orau. Wedi blino'n lân ar ôl teithio aethom i gysgu'n fuan y noson honno gan wybod bod bore cynnar o'n blaenau.

Fore trannoeth, cawsom deithio o gwmpas y ddinas, lle gwelsom ysblander a sioe gwerth chweil o liwiau milwrol o bob math ar ddiwrnod agor y llywodraeth. Cawsom y fraint o weld Prif Weinidog y wlad yn gyrru heibio. Fel y gwyr pawb, mae'r clefyd Aids yn lladd miloedd o bobl yn Ne Affrica bob blwyddyn ac ar yr un diwrnod hwnnw roedd cannoedd o bobl ar hyd a lled y ddinas yn protestio i godi ymwybyddiaeth am yr haint aflan yma.

Aethom am dro i weithdy gemydd enwocaf y ddinas, lle roedd cyfle i wylio'r gweithwyr wrthi'n brysur yn ei gwaith o drin diemwntiau. Tyfa'r diemwntiau yn naturiol ar ffurf dau byramid gefn wrth gefn ac wrth wylio'r broses o drin y garreg, sylweddolom pa mor lafurus oedd y broses yma cyn iddynt eu troi'n emwaith gorffenedig.

I'r rhai ohonon ni sy'n mwynhau siopa - "Victoria and Albert Waterfront" yw'r lle i fynd. Yma ceir cannoedd o siopau a thai bwyta at ddant pawb. Ceir crefftau di-ri o gelfyddydau pren i decstiliau lliwgar wedi eu gwneud â llaw. Er mai dyma un o'r llefydd mwyaf poblogaidd i ymwelwyr mae'n borthladd prysur hyd heddiw.

Ieithoedd y wlad

Ar wahân i'r Saesneg a'r Afrikaans ceir naw iaith swyddogol yn y wlad. O ganlyniad codwyd cerflun uwchlaw Paarl gerllaw Cape Town i'n hatgoffa o'r ieithoedd hyn sydd wedi dylanwadu'n gryf ar yr Afrikaans. Un o'r ieithoedd mwyaf dylanwadol yw iaith yr Iseldiroedd. Y bobl hyn oedd yr ymsefydlwyr cyntaf i lanio ar dir y wlad ac hyd heddiw ceir rhai geiriau yn debyg iawn yn y ddwy iaith. Ar y bws, gwelsom arwydd gerllaw Cape Town o'r enw Llandudno - a'r union yr un sillafiad a'n Llandudno ni er nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddi a Chymru medden nhw.

Wrth deithio ymlaen o Paarl i ardaloedd y gwinoedd am ddiwrnod o brofi ychydig o win y wlad, daethom i'r winllan gyntaf sef 'Nelson Creek'. Sefydlwyd y winllan hon dros ddeng mlynedd yn ôl bellach a chafodd y tirfeddiannwr bryd hynny gymorth gan ei weithwyr a gwnaeth gytundeb â nhw os fyddai'r winllan yn un llwyddiannus a ffrwythlon byddai'n rhoi tir iddynt ffermio fel arwydd o'i werthfawrogiad am eu gwaith caled.

Wrth sgwrsio ag un o drigolion y wlad a ofynnodd be oeddwn i'n feddwl o Dde Affrica, gan anghofio unrhyw ragdybiaeth, a dweud fod gen i ddarlun o'r wlad yn fy mhen sydd yr un mor amrywiol a'i golygfeydd a'i phobl. Anodd yw credu bellach bod trawstoriad mor eang o bobl yn cyd fyw gyda'i gilydd, a hynny mewn gwlad a fu unwaith mor gythryblus.

Gorffennol cythryblus

Nid yw cythrwfl y gorffennol wedi diflannu'n llwyr o'r tir. Yn y pedwardegau hwyr, roedd polisi apartheid mewn grym a nod llywodraeth De Affrica oedd gwahanu pobl ddu a phobl wyn. Oherwydd ei wrthwynebiad i gydymffurfio â'r apartheid carcharwyd Nelson Mandela ar ynys o'r enw 'Robben'.

Ar ein hymweliad ag Ynys Robben (enw Iseldiroedd am forlo benywaidd yw 'Robben) cawson ein tywys o gwmpas y carchar gan garcharor oedd yno yr un adeg â Nelson Mandela. Cafwyd hanesion erchyll o'r math o gam drin oedd yn bodoli a gwelais gawell lle treuliodd Nelson Mandela ddeunaw mlynedd o'i fywyd. Roedd yn mesur dau fetr sgwâr, blanced yn wely ar y llawr a bwced yng nghornel yr ystafell.

Wrth ymadael â'r ynys nid teimlad o dristwch a deimlais ond o obaith. Roeddent yn pwysleisio mai nid edrych yn ôl ar y gorffennol oedd yn bwysig ond yr hyn roeddent am wneud i'r dyfodol. Cawsant eu rhyddid yn ôl diolch i'r un dyn a ddioddefodd cymaint ond a enillodd parch ei bobl. Neidio ar awyren arall o Cape Town i fyny i dde ddwyrain De Affrica ger Parc Cenedlaethol Kruger yn Hoedspuits, a chyfarfod â 'n tywysydd.

Roeddwn wedi cynhyrfu'n lân o wybod ein bod ar fin treiddio i ardal hollol ddieithr. Gan ddisgwyl yr annisgwyl aethom ymlaen mewn jeep i Kampama "Private Game Reserve" ac i'n gwersyll am bedair noson yn "Buffalo Camp".

Doedd y babell ddim yn '4 star' o bell ffordd a ninnau yn gwybod fod y creaduriaid gwyllt yn crwydro oddi tanom roedd antur go iawn ar gychwyn. Cawsom ddwy daith o gwmpas y parc un daith lle'm deffrowyd tua phump y bore ac un gyda'r hwyr. Roedd bwyd o'n blaenau bron bob awr o'r dydd neu roedd o'n teimlo felly! Cogydd gwych yn paratoi pryd bwyd tair gwaith y dydd gan gynnwys cacen i de- tipyn o gystadleuaeth i Ferched y Wawr! Yno cefais amrywiaeth o lysiau'r wlad a chig kuda ac estrys.

Gan ein bod mewn gwersyll preifat cawsom weld yr anifeiliaid yn agos gan deithio oddi ar y ffordd, drwy ddilyn llewod oedd yn hela a gwylio jiraff yn bwyta'n hamddenol braf.

Wyneb yn wyneb â pherygl go iawn!

Gwelwyd pob math o greaduriaid o'r rhai mawr i'r rhai bach, ac o'r rhai cyffredin i'r rhai prin fel y 'pangolin'. Ac wrth gwrs roedd rhaid sicrhau ein bod yn gweld y "Pump Mawr", sef yr Eliffant, Llew, Rhinoceros, Byfflo a'r Llewpart. Roedd hi'n anhygoel a bythgofiadwy yn enwedig pan cafwyd hyd i'r llewpart ac yntau mor anodd i'w weld yn enwedig yn ystod y dydd.

Cefais fy nychryn i'r eithaf gan chwysu peintiau pan welsom fflyd o eliffantod, hwythau'n cynhyrfu wedi ein gweld ni. Yn y fan a'r lle gwelais yr holl ddigwyddiad yn arafu fel petai rhywun arall wedi recordio'r cyfan ac yn eu chwarae'n ôl yn araf deg imi. Credais mai dyma oedd ein diwedd gan ddisgwyl i'r eliffantod wthio'r jeep ar ei ochr. Doedd dim modd gwneud dim am y peth heblaw gwrando ar gyngor y warden ac aros mor llonydd â phosib er mwyn aros i'r eliffantod dawelu a gweld nad oedden ni'n fygythiad. Ac mi weithiodd diolch byth! Doedd dim siw na miw y tu mewn i'r jeep wrth inni aros yn amyneddgar i'r eliffantod trwm ond gosgeiddig fynd heibio. Diwrnod wedyn roeddynt ar gefn eliffant! Ond mwynhad pur oedd cael marchogaeth, a thrideg o eliffantod eraill a bwydo'r eliffant o'm llaw.

Ymlaen i dir cymdogion De Affrica - Zimbabwe

Er cyn teithio yno roedd gennyf amheuon mawr a ddylwn ymweld â Zimbabwe, gyda'r newyddion cefndirol a fyddai tîm criced Lloegr yn ymuno â gêm Criced y Byd yn Zimbabwe ai peidio? Ac fel egwyddor penderfynwyd peidio chwarae yr un gêm oedd i'w gynnal yn y wlad. Er yr holl amheuon, roeddwn wirioneddol eisiau ymweld â Rhaeadr Victoria gan ei fod yn un o'r saith rhyfeddod - felly gwnaethpwyd y penderfyniad i ymweld ag ef.

Nid oedd cystal croeso i'w gael yma, yn enwedig gan bod angen Visa i fynd i mewn i'r wlad, dyma lle buom yn ciwio am hydoedd ac i gymhlethu pethau doedd dim modd inni dalu'r Visa gyda arian y wlad sef y Zimbabwe Doller, derbyniwyd unrhyw arian arall heblaw eu harian eu hunain. Yn ddiweddarach daethpwyd i ddeall nad oedd y Zimbabwe Doller werth yr un geiniog yn y wlad. Dyma'r sefyllfa gyntaf a oedd yn fy argyhoeddi o'r trafferthion amlwg sydd yn y wlad, gwyddom am yr helbulon ond ni ddychmygais eu bod cynddrwg.

Ceir trigolion yn cerdded rai milltiroedd, merched yn cario casgenni dwr ar eu pennau a cheir anifeiliaid megis gwartheg yn crwydro yn hollol rhydd ar hyd strydoedd a ffyrdd prysur. Gwelsom geir, faniau a phicyps yn ymestyn i lawr strydoedd, ciwio yr oeddynt ar gyfer rasiwn petrol a ddeuai unwaith pob pythefnos.

Ar fy ymweliad â Rhaeadr Victoria, sef y fwyaf, yn sicr y prydferthaf a'r mwyaf urddasol o holl rhaeadrau'r byd, cefais fy mhoenydio gan ddynion oedd eisiau imi brynu eu crefftau, pob un yn mynnu mai eu crefftau hwythau oedd y gorau. Perai hyn imi dristau o weld yr olygfa druenus hon. Ond, wrth i mi ymweld â Rhaeadr Victoria roedd yn cyd-fynd â phopeth yr oeddwn wedi ei ddarllen a chlywed amdano, ond canwaith gwell. Sylweddolais o fewn rhai munudau fy mod i'n sefyll a'm ceg yn agored wedi ymgolli yn llwyr ym mhrydferthwch a gogoniant y lle.

Yma y troediodd Dr Livingstone, a dywedir eu bod wedi claddu ei galon yma. Safai'r rhaeadr rhwng Zimbabwe a Zambia lle rhedai yr afon Zambezi a chawsom y cyfle i hwylio lawr yr afon lle gwelwyd hypopotamus a chrocodeils. Crea'r afon wrth iddo syrthio 108 metr o ddyfnder, swn byddarol a enwi'r "Mosi Oa Tunya" - "the smoke that thunders!", ac yn wir mi gawsom ein gwlychu, diolch i chwistrelliad pwerus y rhaeadr. Wrth ysgrifennu'r hanes, daw atgofion melys yn ôl imi.

Roedd hi'n daith flinedig ond ar yr un pryd yn un gyffrous. Teimlais mae byw breuddwyd oeddwn yn ystod y cyfnod draw ar fy ngwyliau ond wrth edrych yn ôl gan ei fod yn teimlo mor bell erbyn hyn, daw atgofion a phrofiadau bythgofiadwy o ddwy wlad mor annhebyg i'w gilydd.

Helen Llinos Jones, Nantglyn


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy