BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gadlas
Nant yr Henfaes Hanes Nant yr Henfaes
Ymchwil i gefndir un o aneddau hanesyddol yr ardal.

Saif Nant yr Henfaes ym mhen uchaf plwyf Gwytherin, heb fod ymhell o'r Afon Derfyn. Dywedir mewn traethawd gan y diweddar Mrs Cledwen Roberts mai "hen faes yw ystyr yr enw, ac yn uwch i fyny'r llechwedd mae fferm Moelogan, lle canent ar ôl y fuddugoliaeth."

Y cofnod cyntaf gennyf am y lle yw genedigaeth mab bach, David, i David a Mary Owen ym mis Ionawr 1790. Yn nechrau Rhagfyr 1791, ganed iddynt Maria, ond ni fu fyw ond am bedwar mis. Wedyn fe ddaeth Thomas a John, ac yna merch fach arall a fedyddwyd yn Maria ar ôl ei chwaer ymadawedig, yn ôl arferiad yr oes. Ym 1805 daeth Abraham Owens, 27 oed o Langernyw a Judith Williams, Gwytherin, yma i fyw ar ôl eu priodas. Ganed iddynt John ac yna William. Yna yn 1810, wedi marwolaeth ei wraig, fe ail-briododd Abraham Owens ag Eleanor Jones, a oedd yn byw yn Nant yr Henfaes ar pryd.

Dengys rhestr y trethdalwyr am 1832 a l838 mai Edward Roberts oedd yn byw yma erbyn hyn. Mae Map y Degwm 1842 yn dangos ei fod dal yma yn ffarmio'r "28 acres, 2 roods and 5 perches", ac yn talu gini o ddegwm. Y perchennog ar y pryd oedd John Williams, Plas yn Blaenau. Ganed llond tŷ o blant i Edward Roberts a'i wraig Catherine a oedd yn enedigol o Eglwys Bach, sef Robert, Evan, Elizabeth, Silvia, Catherine, Leah, Elizabeth arall, a Jane.

Erbyn 1861 mae'r lle yn cael ei ddisgrifio fel ffarm trigain acer ac mae Mary Roberts, 45 oed, gwraig weddw a aned yng Ngherrig y Drudion, yna. Gyda hi mae ei mab David, 16 oed, hefyd wedi ei eni yng Ngherrig, ac Elizabeth a John a aned yng Ngwytherin. Mae ganddi "lodger", Robert Jones, 77 oed, "of independent means".

Daeth y teulu olaf yma o Ben y Graig, sef William ag Anne Hughes a'u merched Elizabeth (a adnabyddid fel Lisa) a Hannah, a'r meibion Thomas a William. Enwir William Hughes, Nant yr Henfaes, yn un a oedd yn bresennol "at a Vestry meeting of the rate payers of the Parish of Gwytherin" yn 1869.

Bu farw William Hughes, ei wraig, a'r ddau fab, tra yn Nant yr Henfaes, y meibion yn ddim ond 20 a 24 oed. Symudodd y merched, sef Hannah, Lisa a'i merch Gwladys Ann yn ôl i Ben y Graig.

Hanes gan Heulwen Ann Roberts Gwytherin


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy