BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bigwn
Ian Miller Prif Weithredwr Newydd
Erthygl gan Sian Rogers

Hoffwn groesawu Ian Miller atom i Ddinbych ac i'w swydd fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych.

Efallai y gallaf ofyn yn gyntaf am ychydig o'ch cefndir?
Cefais fy ngeni a fy magu yn Swydd Essex. Mae fy rhieni, chwaer ac ewythr yn dal yn byw yno. Cwrddais ag Andrea yn y coleg - bu'r ddau ohonom yn gymdogion yn ein tymor cyntaf. Dyna paham y des i i Gymru!

Dechreuais weithio yn y Swyddfa Gymreig ar ôl graddio ym 1987 a chefais nifer o swyddi gwahanol cyn gadael yr hyn sydd bellach yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2000.

Fy swydd ddiwethaf cyn symud i Gyngor Sir Ddinbych oedd pennaeth cyllid gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - ond nid cyfrifydd ydwyf!

Beth wnaeth eich ysgogi chi i geisio am y swydd?
Y cyfle i fyw a gweithio yn un o ardaloedd mwyaf hardd a diddorol Cymru ac o wneud cyfraniad at ddatblygiad y sir.

Rwyf wedi bod yn meddwl am gyfnod am weithio mewn cyngor sir; mae gen i ymrwymiad cryf a pharch mawr tuag at lywodraeth leol fel sefydliad. Ond rhaid cyfaddef bod elfen o hunaniaeth hefyd mewn unrhyw newid gyrfa!

Ydach chi'n edrych ymlaen am y sialens i weithio yn yr ardal?
Ydw. Ni welaf y gwaith neu'r ardal ei hun fel sialens. Mae Sir Ddinbych yn wynebu nifer o gyfleon a phroblemau. Mae rhai ohonynt yn unigryw i'r Sir: er enghraifft y ddadl dros ddyfodol Llangollen a'r cynllun i adeiladu swyddfeydd newydd yn Rhuthun - heb sôn am yr angen i wella'r amddiffyn yn erbyn llifogydd yn y dref. Ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gyffredin i bob ardal: sut i amddiffyn a chreu swyddi ar gyfer ein pobol ifainc, sut i dorri i lawr ar wastraff ac yn y blaen.

Rydych chi wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Be wnaeth i chi ddysgu Cymraeg a sut aethoch chi ati?
'Doedd hi ddim yn amod o'r briodas - onest! Roeddwn yn bwriadu mynd ati i ddysgu'r iaith a dechreuais gwrs Wlpan yn syth ar ôl ymuno â'r gwasanaeth sifil. Cynhaliwyd y gwersi bum gwaith yr wythnos am 8 y bore tan 9.30.

Y diweddar Chris Rees ac wedyn Steffan Webb oedd y tiwtoriaid, ac ar ôl naw mis roedd TGAU Cymraeg i Oedolion gennyf! Bu'r Llyfrgellydd Cenedlaethol, Andrew Green, yn yr un dosbarth, felly mae'r ddau ohonom wedi elwa trwy ddysgu'r iaith.

Fyddai gennych chi unrhyw argymhellion i unrhyw un sydd am ddysgu Cymraeg?
Tri pheth sydd ei angen - amser, hyder a brwdfrydedd. Wrth ddysgu unrhyw iaith, rhaid gwario digon o amser arni a hynny'n rheolaidd. Rhaid bod yn barod i geisio siarad â phobol eraill - peidiwch â phoeni am gamgymeriadau neu am gofio'r geiriau cywir. Mae'n bwysicach eich bod chi'n siarad Cymraeg o ryw fath na bod yn swil ac yn troi at Saesneg!

Beth yw eich diddordebau?
Mae'r ddau ohonom yn hoff o deithio ac yn mwynhau profi diwylliannau (a bwydydd!) gwahanol, yn enwedig yn y dwyrain pell. Buom yng Ngwlad Thai ym mis Chwefror ac yn Prâg yr wythnos cyn y cyfweliad mawr!

Mae gennym ddiddordeb mewn celf, yn enwedig lluniau gan arlunwyr Cymreig cyfoes, ac rydym yn hoff o arddio.

Ond trist yw cofnodi nad yw Andrea yn rhannu fy niddordeb yn y maes milwrol! Rwyf wedi casglu medalau ers fy mhlentyndod ac wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil yn y maes ers dros 15 mlynedd bellach.

Fy arbenigedd yw unedau o fy sir enedigol, sef Catrawd Swydd Essex ( Essex Regiment) a Iwmoniaeth Swydd Essex (Essex Yeomanry)

Ar ben y cwbl rydym yn ceisio gwario tipyn o'n hamser gydag Alaw, ein plentyn bedydd, a'i chwaer Haf.

Ydi hi'n wir bod eich diddordeb mewn hanes wedi arwain at wybodaeth am Saunders Lewis? A fyddech chi'n gallu rhoi ychydig o'r hanes yma i ni?
Ydy. Cafodd papurau swyddogion y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf eu rhyddhau ychydig o flynyddoedd yn ôl. Roeddwn yn ymwybodol bod Saunders Lewis wedi bod yn swyddog a dyna sut y bum i'r person cyntaf i weld ei bapurau ers 60 mlynedd.

Yn eu plith mae llythyr hanesyddol a ysgrifennodd Saunders o'i gell yn Wormwood Scrubs ynghyd â phenderfyniad y Brenin i dynnu rheng oddi ar Saunders (roedd e'n dal y rheng o Lefftenant >hyd yn oed ar ôl gadael y Fyddin).

Cafwyd ychydig o sylw ar hyn yn y rhaglen ddiweddar Y Deryn Dieithr (S4C, 13 Chwefror) a fy ngobaith yw ysgrifennu erthygl ar y pwnc rhywbryd!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy