BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bigwn
Einir a'i ffrind Natasha yn Rwsia Yng ngwlad yr eirth a'r vodka
Hydref 2004
Dychmygwch am funud eich bod chi'n byw yn Rwsia. Y darlun yn fy meddwl i dros flwyddyn a hanner yn ôl oedd mynyddoedd o eira ym mhobman, dynion mawr tew mewn hetiau uchel a merched mewn cotiau ffwr.
A dyna'n union oedd yn fy nisgwyl i pan gerddais i lawr grisiau'r awyren ym mis Ionawr, 2003. Fedrai ddim dweud yn union sut roeddwn i'n teimlo - cymysgedd anghyfforddus o ofn, unigrwydd, antur a dryswch. Roeddwn i'n dechrau pennod newydd yn fy mywyd mewn gwlad lle roedd y diwylliant, y tywydd, y bobl, yr wyddor a'r iaith yn hollol estron i mi. Beth oedd hogan o Ddinbych yn mynd i'w wneud yn Samara, dinas bellenig o filiwn a hanner o bobl ar lan yr afon Volga?

Roedd yr wythnosau cyntaf yn anodd. Cyn gadael Dinbych, mi roeddwn i wedi dysgu tri gair o Rwsieg - da - "ia", net - "na", a "kuritsa" - cyw iar. Efallai eich bod chi'n meddwl fod 'cyw iar' yn air digon rhyfedd i'w ddysgu ond fedrwn i ddim darllen yr iaith, heb sôn am ei siarad, ac mae'n rhaid i bawb fwyta. Wrth ddweud "kuritsa" mi fedrwn i fynd i unrhyw siop neu gaffi a gofyn am un math o fwyd.

Ond dychmygwch hefyd fyw mewn gwlad yn methu darllen, deall na siarad iaith. Yn gwylio'r teledu, fedrwn i ddim clywed geiriau, dim ond sŵn pobl yn siarad. Ar y stryd, pan oedd pobl yn gofyn cwestiwn i mi, fedrwn i ddim dweud nad oeddwn i'n deall. Mewn archfarchnad, fedrwn i ddim darllen beth oedd ar y tuniau roeddwn i'n eu prynu. Am y mis cyntaf, nes i ddim ond gadael y fflat i fynd i'm gwaith neu pan oedd un o'r athrawon eraill o'r ysgol gyda mi. Pob munud rhydd, roeddwn i'n astudio Rwsieg.

Erbyn hyn, mi rydw i wedi dysgu'r iaith yn weddol dda. Er nad ydw i'n siarad yr iaith yn rhugl nac yn gywir - mae hi'n iaith anodd ac maen nhw'n dweud nad oes llawer o Rwsiaid yn ei siarad yn berffaith gywir - mae'r rhan fwyaf o bobl yn fy neall pan rydw i'n siarad.

Peth arall oedd yn anodd i ddechrau oedd gwybod sut i fynd o le i le yn y ddinas. Gyda thrwch o eira ar lawr a blociau Matiau Sofietaidd fel pla ar hyd a lled y ddinas, roedd pob stryd yn edrych yn union run fath ac roedd mynd ar goll yn ddigon hawdd i'w wneud. Wrth drafeilio gyda'r athrawon eraill, roedden nhw'n dweud, "Mae na barc fan hyn, sgwâr fan draw," a minnau'n gweld dim ond diffaethwch o eira a choed meirwon.

Roedd hi hefyd yn anodd i mi gerdded. Roedd y Rwsiaid yn gwibio heibio mewn esgdiau uchel fel tase 'na balmentydd concrit dan eu traed, a minnau, yn fy mwts gaeaf mawr, yn llithro bob yn ail gam ar y rhew, fedrai ddim dweud sawl gwaith y syrthiais yn y misoedd cyntaf. Erbyn hyn, mae'r eira wedi meirioli a'r ddinas wedi ei gwedd-newid. Fedra'i ddim dweud fod Samara'n ddinas hardd, lle tebyg i Birmingham neu Fanceinion , ond mae hi'n ddigon cartrefol.

Mae rhan helaeth o'r ddinas yn flociau o ffatiau dirifedi, a rhai newydd yn codi bob dydd, ond mae rhai parciau a sgwariau braf yma, ac wrth gwrs, mae glan afon y Volga yn drawiadol iawn.

Ar ôl blwyddyn a hanner o fyw yn Rwsia, wedi dod i ddeall y diwylliant, y bobl a'r iaith, mae'r wlad fel ail gartref i mi. Er ei fod o'n wahanol fyd, a bywyd yn dipyn caletach yma nag ym Mhrydain, tydw i ddim mewn brys i adael Rwsia.

Gan Einir o Ddinbych.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy