BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bigwn
Tŵr Joseph ar y paith rhwng Trelew a Phorth Madryn Bachgen lleol a'r Wladfa
Ebrill 2008
Richard Snelson yn mynd ar drywydd Joseph Seth Jones - bachgen lleol a deithiodd ar y Mimosa:
Yn anffodus, ni fu'n bosibl i mi fynd i gyfarfod mis Ionawr o Gymdeithas Caledfryn i wrando ar sgwrs Gwyn Dodd am Y Wladfa ym Mhatagonia, ond darllenais yr adroddiad diddorol gan John Davies yn Y Bigwn a sylwi nad oedd neb a oedd yn y cyfarfod yn gwybod llawer am un o'r gwladfawyr gwreiddiol, Joseph Seth Jones.

Roedd Jois a fi wedi penderfynu ymweld a Phatagonia ar ôl ymddeol a daeth ein cyfle i deithio i'r Ariannin yng nghwmni Elvey MacDonald ar ddiwedd mis Hydref 2007. Darllenais ychydig am Batagonia cyn mynd, ond, wedi i ni ddod yn ôl i Gymru, dw i wedi bod wrthi'n darllen pob llyfr y gallaf am Y Wladfa ac yn ymddiddori yn hanes aelodau o'r fintai gyntaf aeth ar y Mimosa ym 1865, pobl y cyfarfuon ni a rhai o'u disgynyddion yn ystod ein hymweliad. Dw i'n ddiolchgar i Elvey MacDonald am rywfaint o'r wybodaeth am ddyddiau cynnar Joseph Seth Jones yng Nghymru ac am yr holl hanesion am ei gyfnod byr ym Mhatagonia. Cefais y wybodaeth trwy ddarllen rhai o lyfrau Elvey, ymysg rhai eraill, a thrwy sgwrsio a fo tra oeddem yn Y Wladfa.

Ganwyd Joseph Seth Jones - Seth i'w deulu a'i ffrindiau - ym Mhenanner, Barrog, Llanfair Talhaearn ym 1845. Roedd gan ei dad, Charles, a'i fam, Jane, wyth o blant a Seth oedd y seithfed. Ym 1851, pan oedd Seth yn 6 oed, symudodd y teulu i Saron ac aeth Seth a'i frodyr, Charles, 8 oed, a Robert, 4 oed i ysgol Nantglyn. Fuon nhw ddim yn Saron am hir ac o fewn tair blynedd roedd y teulu yn ôl yn ardal Llanfair Talhaearn pan symudon nhw i Fodrochwyn Bach ym 1854. Aeth Seth a'i frodyr i ysgol Llanfair Talhaearn lle yr arhosodd nes ei fod yn 14 oed pan gafodd swydd fel prentis i'r argraffydd Robert Jones yn swyddfa'r Visitor yn Abergele. Blwyddyn cyn hyn, ym 1858, bu farw Jane Jones, mam Seth, yn 55 oed.

Yng nghyfrifiad 1861, fe ddown o hyd i Seth, dan yr enw Joseph, yn byw mewn lle a ddisgrifir fel Stationer's Shop, sef siop Robert Jones, yn Abergele. Roedd y siop hon yn Stryd y Farchnad ac, yn ôl y cyfrifiad, drws nesaf i'r Bee Hotel. Er syndod i bawb, penderfynodd Seth adael ei brentisiaeth 6 mis yn fuan ym 1863. Ymddengys ei fod ar delerau da o hyd efo Robert ac mae'r rheswm am iddo adael cyn cwblhau ei brentisiaeth yn ddirgelwch.

Fodd bynnag, er nad oedd wedi gorffen ei brentisiaeth, fe'i gyflogwyd gan neb llai na Thomas Gee yn Swyddfa'r Faner yn Ninbych ac, efallai, yn y fan honno y darllenodd, trwy'r holl lythyrau ac adroddiadau am gyfarfodydd cyhoeddus, am y mudiad i sefydlu Cyrnru newydd - Y Wladychfa, fel y'i gelwid yn wreiddiol - ar lannau'r Afon Chupat ym Mhatagonia. Swynwyd Seth gan y syniad ac anfonodd gais at brifathro Coleg yr Annibynwyr yn y Bala, y Parch. Michael D. Jones, arweinydd a sylfaenydd y mudiad gwladfaol, a chafodd ei dderbyn i fod yn un o'r fintai gyntaf. Roedd Seth wedi bod yn gweithio i Thomas Gee yn Ninbych am lai na dwy flynedd pan benderfynodd hel ei bac am Dde America. Er yr holl ymbilio arno gan ei deulu i ail-feddwl, doedd dim troi ar Seth, ond oedodd tan brynhawn Mercher, 19 Ebrill 1865, y diwrnod yr oedd am ddechrau ei antur, cyn mentro dweud wrth Thomas Gee am ei gynlluniau.

Ysgrifennodd Seth ddyddiadur am ei daith ar y Mimosa a'i fywyd yn Y Wladfa, ond ni ysgrifennodd yn ei ddyddiadur yn gyson. Fel canlyniad, dogfen fer sydd wedi goroesi yn cofnodi ei hanesion dros dri chyfnod, 19-26 Ebrill 1865, 25 Mai-27 Gorffennaf 1865, sef y cyfnodau cyn ac yn ystod y fordaith, a 14-21 Mawrth 1866. I'r rhai sydd â diddordeb, cewch ddarllen y dyddiadur cyflawn yn y llyfr bach dwyieithog, Cymraeg a Sbaeneg, Dyddiadur Mimosa gan Elvey MacDonald.

Mae copi yn Llyfrgell Dinbych. Mae'r dyddiadur yn dechrau efo Seth yn hysbysu Thomas Gee o'i fwriad i ymfudo i'r Wladfa.

Ceisiodd Thomas Gee ei orau, ond yn ofer, i berswadio Seth i aros o leiaf tan yr ail fintai cyn mynd i Batagonia. Nid oedd angen i Seth bryderu am dorri'r newyddion i Thomas Gee a'i dalodd yn y fan a'r lle am ei waith a gofyn iddo anfon adroddiad am ei brofiadau ar gyfer Y Faner cyn dymuno'n dda iddo ac ysgwyd llaw â fo wrth i Seth adael am orsaf Dinbych. Daliodd y trên am y Rhyl ac wedyn aeth i Abergele i ffarwelio a Robert Jones, ei hen feistr, ac i dreulio'r noson efo'i frawd, Charles. Gadawodd o'r Foryd, Y Rhyl ar y paced i Lerpwl gan gyrraedd tua 10 o'r gloch fore Sadwrn, 22 Ebrill. Roedd aelodau o'r fintai gyntaf wedi ymgasglu yn Lerpwl, ond nid oedd eu llong, yr Halton Castle, wedi cyrraedd o'i mordaith ddiwethaf ac, felly, bu rhaid teithio i Batagonia ar long fechan oedd yn cael ei defnyddio i gludo te o'r Dwyrain Pell, sef y Mimosa, a adeiladwyd yn Aberdeen ym 1853.

Aeth yr ymfudwyr cyntaf ar fwrdd y Mimosa ar 24 Mai, ond roedd hi'n bedwar o'r gloch prynhawn Sul, 28 Mai, pan godwyd yr angor a hwyliodd y llong fechan allan o'r Merswy am yr Ariannin, pump wythnos wedi i Seth ffarwelio a Dinbych. Y dyddiau hyn, mae'n siwrnai o tua 17 awr mewn awyren gyfforddus i Batagonia, yn cynnwys seibiant ar y ffordd ym Madrid ac ym Muenos Aires, ond cafodd y gwladfawyr cyntaf fordaith anghyfforddus iawn ar fwrdd y Mimosa am ddau fis cyn cyrraedd y Bae Newydd yn yr Ariannin ar 27 Gorffennaf 1865. Glanion nhw ar dir Patagonia y diwrnod canlynol a chael eu croesawu gan Lewis Jones ac Edwin Cynrig Roberts, un o wir arwyr y Wladfa a anwyd o fewn 12 milltir i Ddinbych - ond stori arall yw honno!

Glaniodd y fintai tua 40 milltir i'r gogledd i Afon Chupat (Rio Chubut yn Sbaeneg ac Afon Camwy i'r gwladfawyr) a bu rhaid mentro dros y paith i sefydlu Caer Antur (tref Rawson heddiw, canolfan weinyddol talaith Chubut) wrth aber y Camwy. Roedd Seth yn aelod o un o'r partïon cyntaf a aeth i dorri llwybr dros y paith i Ddyffryn Camwy. Ar ôl cyfnod yng Nghaer Antur, bu rhaid mynd yn ôl i'r Bae Newydd, i'r fan lle saif Porth Madryn heddiw, i chwilio am fwyd, ond, rhywsut, aeth Seth ar goll. Gwelodd fryncyn unig ar ganol y paith heb fod yn bell iawn o'r Bae Newydd a dringodd y bryn hwnnw, oedd fel pyramid o graig wen, yn y gobaith o weld y môr. Roedd Seth ar lwgu, ond ar ben y bryn daeth o hyd i gorff barcud oedd newydd farw. Rhwygodd y corff yn ddau hanner gan fwyta cig amrwd un hanner a chadw'r gweddill ar gyfer y daith. Wedi ei atgyfnerthu, ond heb weld y môr eto, aeth yn ei flaen. Cyn hir, daeth yr arfordir i'r golwg a chyrhaeddodd y Bae Newydd yn ddiogel. Hyd heddiw, enw'r bryncyn yw Tŵr Joseph neu Loma Maria yn Sbaeneg (yn y llun uchod).

Rhannwyd y tir newydd i deuluoedd ac hefyd i ddynion di-briod i'w ffermio ar y cyd. Partner ffermio Seth oedd Ifan Dafydd (Evan Davies, Aberdâr). Roedd ar Seth awydd teithio i lefydd gwahanol yn Chubut i weld beth oedd y posibiliadau masnachol a chytunodd Ifan y gallai ofalu am y fferm hebddo. Am gyfnod, cafodd Seth waith fel gofalwr eiddo'r gwladfawyr yn y stordy ym Mhorth Madryn ond pan alwodd un o'r llongau hela morloi, y Fairy, yn y bae, cynigwyd swydd i Seth fel cogydd. Gwelodd Seth ei gyfle ac, ar ôl mynd yn ôl i Ddyffryn Camwy i drefnu pethau efo Ifan ac arweinwyr y Wladychfa, aeth i weithio ar y Fairy gyda'r bwriad o ddod yn ôl i'r dyffryn pan fyddai pethau'n well yno.

Gadawodd ar y Fairy ar 10 Ebrill 1867 ac aeth un arall o'r fintai gyntaf, Dafydd (David) John o Aberpennar, gyda fo. Cyrhaeddodd y Fairy Port Stanley yn y Malvinas (Falklands) ar 10 Mai a gadawodd Seth ei swydd fel cogydd a chael gwaith ar yr ynysoedd. Ysgrifennodd nifer o lythyrau at Ifan Dafydd i weld a oedd pethau wedi gwella digon iddo ddychwelyd i'r Wladfa, ond ni chafodd ateb. Fel mae'n digwydd, roedd pethau wedi gwella cryn dipyn, ond doedd Seth ddim i wybod hynny. Penderfynodd Seth gefnu ar y Wladfa a mynd yn ôl i Gymru a chafodd swydd fel stiward ar long i Lerpwl. Ar 3 Mai 1868, bron tair blynedd ar ôl gadael yn llawn gobaith ar y Mimosa, safodd Joseph Seth Jones ar y doc yn Lerpwl. Roedd ei antur fawr ym Mhatagonia ar ben.

Aeth Seth ddim yn ôl i weithio i Robert Jones nac i Thomas Gee, ond cafodd swydd fel postmon yn Nhreffynnon tua 1870. Dw i heb ddod o hyd iddo eto yng nghyfrifiad 1871, ond, yng nghyfrifiad 1881, roedd yn lletya yn Stryd Bagillt. Erbyn 1891, roedd Seth yn byw efo teulu un o'i gyd-bostmyn, William Redfern, yn 3 Summer Hill, Treffynnon. Y peth diddorol am hyn yn y cyfrifiad yw bod William Redfern wedi mynnu bod pob manylyn am drigolion 3 Summer Hill yn cael ei gofnodi yn y Gymraeg!

Mae popeth arall ar y dudalen, ac yn y cyfrifiad am a wn i, yn Saesneg. Roedd Robert, brawd iau Seth, yn y tŷ ar noson y cyfrifiad fel ymwelydd. Bellach, roedd Robert a oedd wedi treulio pedair blynedd fel gweinidog yn Chile, De America, ac wedyn yn Lerpwl, yn weinidog gyda'r Presbyteriaid ym Mhorthaethwy. Ym 1901, fe welir Seth yn byw ar ei ben ei hun yn 24 Stryd Bagillt. Er mor fentrus oedd o pan oedd yn ddyn ifanc, ni fentrodd erioed i fywyd priodasol ac arhosodd yn hen lanc gydol ei oes. Roedd ei ffydd Gristnogol yn bwysig iawn iddo a bu Seth yn aelod ffyddlon ac yn flaenor yng Nghapel Rehoboth, Treffynnon. Bu farw ar 17 Ionawr 1912 a chafodd angladd fawr yn Abergele gyda 20 o weinidogion Cristnogol yn bresennol.

Ni ellir honni bod Seth yn un o ŵyr mawr Patagonia. Troes ei gefn ar y Wladfa gan adael i eraill baratoi lle gwell iddo. Byr iawn oedd ei arhosiad yno a bach iawn oedd gyfraniad. Er hynny, fel dywed Elvey MacDonald, er bod cyfraniad ac aberth llawer mwy sylweddol gwladfawyr eraill yn pylu y cof, fe gysylltir enw Joseph Seth Jones â'r Wla "oherwydd iddo ddringo bryncyn a chadw dyddiadur".

Richard Snelson


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy