BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bigwn
Sandra Williams Fy mlwyddyn fel Maeres
Ebrill 2006
Sandra Williams, Maeres Dinbych 2005 - 2006 yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau ei blwyddyn hyd yn hyn, o giniawa i gyngherddau a theithio mewn hen geir ...
Mis Chwefror 2004 daeth fy nhad adre ar ôl cyfarfod Cyngor Tref Dinbych i ddweud ei fod o'n mynd i fod yn Ddirprwy Faer eto. Sôn am sioc i fy mam! Roedd hi wedi bod yn Faeres tair gwaith o'r blaen ac wedi ei gynorthwyo pan oedd o'n Gadeirydd Cyngor Dosbarth Glyndŵr.

Dw i'n cofio siarad â Dorothy Bartley ar noson sefydlu Raymond Bartley yn Faer. Roedd fy mam yn benderfynol nad oedd hi'n mynd i fod yn Faeres eto. Dywedodd Dorothy wrtha i y dylwn i ei wneud o. "Na", dywedais i - ond dyna pan ddechreuais i feddwl am y peth o ddifrif.

Doedd fy nhad ddim wir eisiau tynnu'n ôl a gadael y Cyngor i lawr ac felly, ar ôl trafod y peth efo fy mam a meddwl dros y peth am rai misoedd, rhoddais y cynnig i fy nhad - y byddwn i'n Faeres iddo. Dyna'r penderfyniad gorau wnes i erioed. Dw i wedi mwynhau'r flwyddyn yn fawr iawn ac wedi cael y cyfle i wneud rhywbeth na fyddwn i byth wedi gallu ei wneud fel arall. Bydd yr atgofion yn aros efo fi am byth.

Roedd y 6ed o Fai, 2005 yn ddiwrnod arbennig iawn i mi. Roeddwn i'n dathlu pen-blwydd 'mawr' a chael fy sefydlu'n Faeres ar yr un dydd. Daeth llawer o bobl leol, teulu a ffrindiau i'n cefnogi a ches i noson fythgofiadwy. Ein gwahoddiad cyntaf oedd i Gyfarfod Cyhoeddus Cyngor Darlledu BBC Cymru lle cafwyd cyflwyniad gan Menna Richards, Rheolwr BBC Cymru a dangoswyd trosolwg o'r digwyddiadau, y gweithgareddau a'r rhaglenni a gynhyrchwyd gan y BBC yn ystod eu hamser yn ein plith yma yn Ninbych. Noson ddifyr iawn efo sesiwn Holi ac Ateb ddiddorol dros ben dan arweiniad Rhun ap Iorwerth.

Diwrnod i'w gofio oedd Dydd Sul y 22ain o Fai - diwrnod Sul y Maer Caer yng Nghadeirlan Caer. Roedd yr haul yn disgleirio'n braf y diwrnod hwnnw. Yn ystod y trafodaeth ymysg y meiri yn Neuadd y Ddinas cyn mynd draw i'r Gadeirlan cytunwyd nad oedd angen mynd â chotiau nag ymbarels ar ddiwrnod mor braf. Cafodd pawb sioc wedyn ar ôl y gwasanaeth pan agorwyd y drysau a glaw trwm, mellt a tharanau yn ein hwynebu. Teimlwyd bod y daith dafliad carreg yn ôl wedi cymryd oes a bydd gen i atgofion am byth o Faeres Conwy yn rhedeg dros y ffordd gan dynnu ei het a'i rhoi o dan ei siaced rhag ei ddifetha.

Mynnodd y glaw ddod unwaith eto ar ein Sul y Maer ni ar y 12fed o Fehefin wrth orymdeithio'n ôl o Eglwys y Santes Fair i Neuadd y Dref. Roedd rhaid i'r ymbarels ddod allan eto. Diwrnod prysur oedd hwnnw - a minnau'n darllen y llith yn Gymraeg yn yr Eglwys a chanu efo grŵp canu Cantiemus yn ystod y gwasanaeth - ond roedd o'n ddiwrnod llwyddiannus.

Diwrnod prysur arall oedd Dydd Sul y 19eg o Fehefin - Sul y Maer Tref Conwy yn y bore, cinio yng Ngwesty'r Castell, Deganwy a Gwasanaeth Dinesig Cadeirydd Sir Ddinbych yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn y prynhawn. Roedd hi ar ôl un o'r gloch wrth i ni ddechrau bwyta ein cinio a ninnau'n gorfod bod yn Llanelwy erbyn hanner awr wedi tri. Roedd Medwyn, Clerc y Dref, ar bigau eisiau mynd ond roedd hi'n anodd trio sleifio allan yng nghanol yr areithiau. Dw i'n cofio rhedeg i'r car a chyrraedd y Gadeirlan efo munudau i'w sbario - dylai Medwyn gystadlu yn y Grand Prix tymor nesa!

Awst y 7fed oedd uchel bwynt arall yn ystod y flwyddyn wrth i ni fynd ar gwch fel rhan o Ŵyl Afon Conwy. Llwythwyd bwffe crand ar y cwch cyn i ni gychwyn a phawb yn edrych ymlaen at gael cinio blasus nes i ni daro tonnau garw'r môr. Sylweddolwn pa mor arw oedd o pan syrthiodd y stôl roedd llywiwr y cwch yn eistedd arni. Doedd Maeres Caer ddim yn un dda am hwylio ac yn sydyn doedd y bwffe ddim yn apelio cymaint. Rhybuddiwyd y meiri rhag beidio mynd yn rhy agos i ochr y cwch achos roedd un cyn Faer wedi colli ei gadwyn dros yr ochr. Rhoes fy nhad ei fedalion yn ei boced, jyst rhag ofn - rydyn ni i gyd yn gwybod hanes hen gadwyn Dinbych.

Roedd diwrnod Sioe Flodau Dinbych yn fwy prysur nag erioed i mi eleni gan fy mod yn gwisgo dwy het a gorfod eu newid nhw'n aml trwy'r dydd rhwng bod yn gynorthwyydd i fy mrawd sy'n Ysgrifennydd y Sioc, beirniadu, cael cinio efo meiri y Trefi Caerog, datrys problemau efo un o'r beirniaid a chyflwyno'r cwpanau. Roedd o'n ddiwrnod hir o wyth y bore tan saith o'r gloch y nos ac roedd fy nghadwyn rownd fy ngwddw (wedi'i chuddio o dan fy nghot ar adegau) trwy'r dydd - doeddwn i ddim am ei gadael yn unman am eiliad.

Noson bwysig yn hanes tref Dinbych oedd noson gyntaf "Gogoniant Cymru" ar Fedi y 9fed, noson wedi'i threfnu gan Capt. Michael Cunningham, Siryf Uchel Clwyd. Roedd o wedi addo noson i'w chofio a dyna yn wir a gafwyd. Gogoneddus oedd y gair am arddangosfa dân gwyllt Syr Michael Parker a'r holl dalentau a glywyd gan grwpiau ac unigolion lleol.

Roeddwn i wedi fy siomi braidd wrth sylweddoli mai lleisiau ar dâp yn unig oedd y cyfraniadau gan Robert Hardy a Gaynor Morgan Rhys. Roedd Gaynor yn y gynulleidfa efo ni ac dw i'n siwr iddi deimlo'n rhyfedd wrth eistedd yno'n clywed ei llais ei hun yn atseinio trwy'r tywyllwch. Dylen ni, pobl Ddinbych, ddiolch i Capt. Cunningham am feddwl ddod â'r math sioe ysblennydd i'r dref a gobeithio os daw rhywbeth tebyg yn y dyfodol y bydd y tywydd yn fwy caredig wrthym a bydd mwy o bobl leol yn ei gefnogi.

Y 24ain o Fedi oedd diwrnod cyntaf penwythnos Treftadaeth Dinbych ac ymwelais i â dau le nad oeddwn i erioed wedi bod iddynt o'r blaen sef Capel Pendref a Chapel Lôn Swan. Gwelais i Huw Jones yn Lôn Swan a gofynnais iddo gynllunio cerdyn Nadolig i ni - rhywbeth a fyddai'n hollol wreiddiol ac yn wahanol a chefais i ddim fy siomi. Hoffwn ddiolch i Huw yn gyhoeddus am ei greadigaeth gampus. Ar y 25ain o Fedi cawsom ni daith o Ddinbych i Gaernarfon mewn BMW 2500A 1972 a yrrid gan George Kerr fel rhan o Daith Hen Geir Cylch y Trefi Caerog. Roedd dros gant o geir wrth Gastell Caernarfon yn aros cael eu beirniadu - ac roedd rhaid gwneud hynny cyn cael cinio! Roedd hi'n rhyfeddol weld cymaint o hen geir mewn un lle - yn Rolls Royces, Bentleys, Jaguars, Triumphs, Rovers, MGs a Daimlers.

Canol Hydref bu ein cyfeillion o Biebertal, Yr Almaen, yn ein plith am wythnos. Roedd hi'n hyfryd gweld y ddau ddiwylliant yn cyd-dynnu ac yn cyd-fwynhau. Cynhaliwyd noson arbennig yn Neuadd y Dref cyn iddynt adael efo'r Cymry a'r Almaenwyr yn rhannu eu talentau. Braf oedd gweld cymaint o bobl ifanc wedi dod efo'i rhieni o'r Almaen - rhywbeth a fydd yn sicrhau dyfodol i'r berthynas agos rhwng y ddwy wlad.

Yn Sul y Maer Caerwys ar y 27ain o Dachwedd clywais i ganu swynol y bachgen talentog o Landyrnog sef Steffan Rhys Hughes am y tro cyntaf. Gwelais i Steffan am yr ail dro yn Eisteddfod Cylch Rhuddlan yn Ysgol Glan Clwyd yn cael llwyddiant ar ôl llwyddiant yn y cystadlaethau. Dw i'n siŵr bod gan Steffan ddyfodol disglair o'i flaen!

Roedd amser prysur iawn gennym ni wrth nesau at y Nadolig. Roedd hi'n fraint fod yn bresennol ar Noson Siopa Hwyr wrth i Rebecca Trehearn ac Andy Collins o bantomeim Theatr Pafiliwn Y Rhyl droi'r goleuadau ymlaen. Roedd golygfa ryfeddol wrth edrych i lawr o falconi Neuadd y Dref ar y môr o bobl o dan ein traed. Ymwelon ni â'r Inffirmari, Dolwen, Minffordd, Llys Meddyg, Lyndhurst, Pine Tree Court a Phlas Eleri a rhaid i mi ddweud fy mod i'n llawn edmygedd am yr holl waith caled mae'r staff gofal yn ei wneud. Roedden nhw i gyd yn groesawgar ac wedi mynd i ysbryd yr ŵyl.

Mwynheais i Ddydd San Steffan ar y Stryd Fawr yn gwylio Rowlio'r Gasgen. Er fy mod i wedi byw yn Ninbych ar hyd fy oes dyna'r tro cyntaf mi erioed aros i weld y gystadleuaeth o'r dechrau i'r diwedd - ac am gystadleuaeth! Roedd yr olwg ar wynebau Elgan Wyn Jones a Simon Rodenhurt a ddaeth yn gyfartal gyntaf wrth feddwl y byddai'n rhaid iddynt ail ¬redeg y rownd derfynol yn werth ei gweld. Roedd y ddau wedi ymlâdd ar ôl eu hymdrechion a throes o'n achlysur hanesyddol wrth iddynt benderfynu rannu'r wobr gyntaf.

Chwefror y 17eg oedd noson Cinio Dathlu Siarter Clwb Rotari Dinbych yng Ngwesty'r Bryn Morfydd, Llanrhaeadr. Ers blynyddoedd dw i wedi gweld fy nhad yn gwisgo ei siwt bengwin a mynd i Noson Siarter heb syniad mewn gwirionedd o beth oedd y noson. Ces i noson ddifyr iawn yng nghwmni'r dynion a chwech o ferched - un fantais i'r noson - doedd dim ciw yn y tŷ bach!

Braslun yn unig o'm hatgofion hyd yma a geir yma ond mae' n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi mwynhau pob un o'r digwyddiadau rydyn ni wedi ein gwahodd iddynt - digwyddiadau fel noson hwyl Mencap, boreau coffi, Arddangosfa Brodwaith yng Ngholeg Cymunedol Dinbych, Sioe Wledig Gwaenynog, cyflwyno cwpan i enillydd y tarw gorau yn Sioe Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir Fflint, agor Bragdy'r Bryn, arddangosfa'r Nadolig Celfyddyd Trin Blodau Dinbych a'r Cylch a gwylio'r ffilm "In Her Shoes" yn sgrin moethus Cineworld, Cyffordd Llandudno i godi arian at Apêl Faer Conwy a gweld ein Clerc y Dref wrth ei fodd yn y sedd gefn ymysg y merched i gyd (roedd Mary, ei wraig yn eu plith!)

Mae ein blwyddyn yn tynnu at ei therfyn ond cyn hynny mae sawl dawns elusennol i fynd iddynt ac wrth gwrs mae ein dawns elusennol ein hunain ar y 7fed o Ebrill. Yn ystod y flwyddyn dw i wedi cael y fraint o gwrdd â channoedd o bobl newydd o Ogledd Cymru a Chaer ac wedi cael digon o gyfleoedd i siarad Cymraeg.

Hoffwn i ddiolch i bawb am eu croeso cynnes wrth ganiatâu i mi flasu profiadau newydd trwy gydrannu yn eu gweithgareddau nhw.

Sandra Williams
Maeres Dinbych 2005 - 2006


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy