BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bigwn
Dyffryn Clwyd Dyffryn Clodfawr Clwyd
Ionawr 2005
Bu i'r daflen uchod ddal fy sylw yn ddiweddar, ac oherwydd fy mod yn mwynhau hanes a cherdded yng nghefn gwlad, penderfynais ymweld â'r dyffryn i ddarganfod mwy am ei orffennol diwylliannol cyfoethog.

Ond yn gyntaf es i weld Richard Kelly, arbenigwr ar y tirlun Cymreig.

Ogofau cynhanesyddol
Dechreuodd Richard drwy egluro pam fod tirluniau hanesyddol eithriadol yng Nghymru wedi eu nodi ar gofrestr. "Yr hyn sy'n arbennig am Ddyffryn Clwyd yw fod ei gefn gwlad yn dweud hanes sut mae pobl wedi byw ar y tir am gyfnod hir iawn, iawn. O bobl hanesyddol yn byw mewn ogofau ger Tremeirchion tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl, hyd at fudiad cau'r tiroedd yn Oes Fictoria" meddai, wrth i ni eistedd yn ei swyddfa fodern.

Wrth i mi yrru i lawr y lonydd gwledig i gyfeiriad Rhuthun o Gorwen, gallwn weld caeau glas twt a choed mawr o dderw ac onnen yn y gwrychoedd - digon dymunol ond yn gyffredin iawn, a dechreuais feddwl tybed a oeddwn yn y dyffryn iawn. Tynnais y car i'r ochr ac estyn am y daflen:
ar y clawr mae golygfa o'r "grŵp unigryw o fryngaerau yng Nghymru".

Mae Moel Arthur a Phenycloddiau yn ganolbwynt i'r ceyrydd mynyddig hyn. Ar ôl edrych yn gyntaf ar fap OS gyrrais i mewn i'r bryniau ar hyd y Iôn fach o Landyrnog i Nannerch. Gyda socan eira a chigfrain uwch fy mhen, roeddwn bellach yn awyddus iawn i fynd allan i gerdded, yn arbennig oherwydd bod Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa hefyd yn rhedeg ar hyd esgair bryniau Clwyd yma. Felly, gyda'm hesgidiau dringo wedi eu clymu a'm ffon yn fy llaw, dechreuais gerdded y daith serth ond gweddol fyr, i gopa Moel Arthur.

Ger y copa arhosais ennyd i gael fy ngwynt ataf ymysg y grug a'r llus, a sylwais ar dri chlawdd o amgylch pen y bryn, roedd dau ohonynt fel atalfeydd uchel, o tua pymtheg troedfedd.

Yn ystod Oes yr Haeam, roedd y cloddiau hyn yn cynnwys pigau a phalisadau pren, ac achosai hyn broblemau enfawr i'r ymosodwyr. O'r copa sylweddolais pam fod y ceyrydd hyn mor bwysig mae gan Ddyffryn Clwyd y ffermdir cyfoethocaf yng Nghymru, ac roedd hefyd yn wobr tu hwnt gan ei fod hefyd wedi ei leoli ar ffin ddwyreiniol teyrnas gynnar Gwynedd.

Treuliais gryn amser ar ben y bryn yn ceisio gweld olion systemau'r caeau o'r Canol Oesoedd ac oes Fictoria, yn ogystal ag edmygu'r brithwaith hardd o olygfeydd yn y dyffryn, gydag Eryri y tu hwnt. Oddi yma mae'n hawdd gweld pam fod ardal Dyffryn Clwyd o harddwch natutiol eithriadol, ond mae hefyd yn llai adnabyddus fel tirlun hanesyddol eithriadol tu hwnt.

Gellir cael gwybodaeth fanwl am dirlun hanesyddol wrth ddilyn y gwefannau ar ochr dde y dudalen hon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy