BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bedol
Pafiliwn Corwen Dyfodol Pafiliwn Corwen?
Cwestiynau am ddyfodol un o neuaddau pwysicaf gogledd Cymru.

Ar hyd y blynyddoedd, bu Pafiliwn Corwen yn gartref hwylus i lawer o weithgareddau lleol a chenedlaethol. Ond bellach, mae hi'n amlwg fod ei gyflwr yn dirywio a bydd angen gwario tipyn i'w atgyweirio.

Yn ddiweddar, gwahoddodd Cyngor Sir Ddinbych, perchnogion y Pafiliwn, dîm ymgynghorwyr oedd yn cynnwys Pan-Leisure Consulting, Penseiri AEW i Roger Tym a'i Bartneriaid i weld sut y gellir gwella cyflwr y Pafiliwn i fod yn ganolfan ddiwylliannol o bwys eto. Yn nechrau mis Medi, cafwyd arddangosfa o gynlluniau'r ymgynghorwyr yn y Siop Un Alwad, Corwen a chyfle i'r bobl leol a thu hwnt i leisio eu barn.

Roedd gan yr ymgynghorwyr dri dewis:
a) Atgyweirio ac ail-wampio'r Pafiliwn presennol gan ostwng y nifer o seddi i 800.
b) Dymchwel y Pafiliwn presennol ac adeiladu pafiliwn newydd i ddal 400 o bobl.
c) Dymchwel y Pafiliwn presennol ac adeiladu pafiliwn newydd i ddal 750 o bobl.

Yn naturiol, fe fyddai'r ddau ddewis olaf yn costio tipyn mwy na'r dewis cyntaf. Ond fe ddaeth yn amlwg fod nifer o bobl yn anfodlon iawn ar y tri dewis uchod am eu bod yn mynnu gostwng y nifer o seddi.

Mae'r Pafiliwn presennol yn dal 1,200 o bobl a barn llawer yw y dylid cadw'r nifer o seddi fel ag y maent ar gyfer y cyngherddau mawr a'r gwyliau corawl. Nos Fawrth, Hydref 7, cynhaliwyd cyfarfod agored yn y Pafiliwn pryd y daeth nifer o fobl Edeyrnion a'r cylch ynghyd. Yn bresennol hefyd roedd aelodau o Bwyllgor Pafiliwn Pobl Edeyrnion Cyf. sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i gadw a gwella cyflwr y Pafiliwn a chynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych. Cafwyd trafodaeth fywiog iawn a'r farn amlwg oedd y dylid cael pedwerydd dewis sef i atgyweirio ac ailwampio'r Pafiliwn i ddal 1,200 o fobl a dim llai.

Wrth ail-wampio, hwyrach y gellid addasu'r ddwy adain ar gyfer amcanion eraill pan na fydd eu hangen. Ond teimlid yn bendant na ellid byth eto gynnal eisteddfodau o bwys na chyngherddau roc a chorawl oni bai fod lle i 1,200 o fobl yn y Pafiliwn.

Roedd amryw yn feirniadol hefyd nad oedd digon o drafod wedi bod rhwng swyddogion y Cyngor Sir ac aelodau o Bwyllgor Pafiliwn Pobl Edeyrnion Cyf.. Yn ôl eu datganiad i'r wasg, dyma a ddywedir "Ein barn ni am y ffordd ymlaen yw i ni a Chyngor Sir Ddinbych gyd-weithio er mwyn cael Pafiliwn yng Nghorwen y mae pobl Edeyrnion ei eisiau, - hynny yw, lle i eistedd 1,200 o bobl pan fydd angen ac i sicrhau y bydd y Pafiliwn yn cyrraedd y safon disgwyliedig ar gyfer anghenion yr unfed ganrif ar hugain.

"Felly, mae'n rhaid i ni, fel pwyllgor, gyd-weithio â'r Cyngor Sir ac i'r Cyngor Sir wrando ac addasu yn ôl dymuniadau pobl Edeyrnion a Chymru gyfan er sicrhau dyfodol i'r diwylliant Cymreig yng Ngogledd-Gorllewin Cymru."

Gan fod y rhan fwyaf ohonom ym mro'r Bedol wedi mynychu neu berfformio ym Mhafiliwn Corwen rhyw dro, carem wybod beth yw eich barn chi ynghylch dyfodol y Pafiliwn.

Sut Bafiliwn a garech chi ei weld yn y blynyddoedd i ddod?
Os oes gennych unrhyw sylwadau, beth am eu hanfon i Ysgrifennydd Pwyllgor Pafiliwn Pobl Edeymion Cyf. sef Huw Jones, 2 Vale View, Corwen, LL21 OBA neu i Swyddfa'r Bedol. Ond da chi, os oes gennych farn, mynegwch hi!

BRASLUN O HANES Y PAFILIWN

Neuadd Arddangos yn Lerpwl oedd y Pafiliwn i gychwyn ac fe'i prynwyd gan Ymddiriedolwyr Eisteddfod Gwyl y Banc, Corwen a oedd yn eisteddfod o bwys yn ei chyfnod. Fe'i hailadeiladwyd yng Nghorwen gan gwmni y Brodyr Miles, Rhosllannerchrugog ac fe gostiodd y cyfan £1,620. Agorwyd y Pafiliwn yn 1913 pan gynhaliwyd Basar enfawr i godi arian tuag at glirio'r ddyled.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, caewyd y Pafiliwn am gyfnod ac fe'i defnyddiwyd gan y Weinyddiaeth Fwyd hyd 1945. Yn y 70au cynnar, bu bron i'r Pafiliwn gael ei droi'n ffatri ond fe'i harbedwyd. Bu i Gyngor Dosbarth a Gwledig Edeyrnion wedyn wario cryn dipyn i foderneiddio'r adeilad gan osod gwres canolog y tu mewn.

Bu rhagor o wario eto gan Gyngor Dosbarth Glyndwr cyn iddynt ei drosglwyddo i ofal Cyngor Sir Ddinbych. Ar hyd y blynyddoedd, bu'r Pafiliwn yn gyrchfan i lawer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd pwysig iawn.

Yn 1919, daeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Gorwen a bu'n rhaid ymestyn y Pafiliwn i ddal miloedd mwy o bobl. Yn 1929, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf Urdd Gobaith Cymru yn y Pafiliwn ac yn 1946 fe gynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd eto yng Nghorwen , y gyntaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1951, 1974 ac yn yr 80au, cynhaliwyd pedair Eisteddfod Cadair a Thalaith Powys lwyddiannus iawn yn y Pafiliwn. Yn 1978 ac yn yr 80au a'r 90au cynhaliwyd tair Gŵyl Gerdd Dant Cymru yma ac un ohonynt gan Ardal Penllyn. Yn ogystal, fe gynhaliwyd sawl cyngerdd prawf, 'Opportunity Knocks' a chynyrchiadau, gan bobl leol yn bennaf, o 'Hiawatha' a 'Elijah'.

Yn y 50au, sefydlwyd Gŵyl Gerdd Dyfrdwy a Chlwyd a chynhaliwyd cyngherddau clasurol ac o safon uchel yn y Pafiliwn bob blwyddyn ers hynny. O'r 60au ymlaen, cynhaliwyd nifer dda o gyngherddau pop a roc yn y Pafiliwn a oedd yn denu miloedd o bobl ifanc o bob cwr o Gymru.

Cofiwn yn arbennig am gyngerdd pop olaf y grwp Edward H. Dafis. Cafwyd cyfarfodydd gwleidyddol o bwys yn y Pafiliwn hefyd gydag enwogion fel David Lloyd George ac Aneurin Bevan yn areithio yno.

A chofiwn am y gornestau paffio ac ymaflyd codwm a fu'n denu'r tyrfaoedd ac yn ddiweddar, y gornestau cneifio rhyngwladol. Gwnaeth y cwmnïau teledu ddefnydd helaeth o'r Pafiliwn gan gynnal Gwyl y Corau am sawl blwyddyn, cystadleuaeth 'Cân i Gymru' a sawl rhaglen arall.

Dim ond canran fechan o'r holl weithgareddau a gynhaliwyd yn y Pafiliwn yw'r uchod. Gobeithiwn yn fawr y parha'r Pafiliwn i wasanaethu'n lleol ac yn genedlaethol am flynyddoedd lawer.

EAJ


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy