BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bedol
Parc 'Loggerheads' yn yr eira Taith gerdded 'Loggerheads'
Ar ôl yr holl loddesta dros yr Ŵyl, dyma daith gerdded fer i ystwytho'r corff!

Taith rhyw 2-3 filltir. Tua awr a hanner (dibynnu ar eich cyflymdra!)

1. Parcio ym maes parcio y Ganolfan (bydd angen talu). Cerdded yn ôl i ffordd Rhuthun.

2. Troi i'r dde gan gymeryd y Llwybr Ceffyl (ar draws i Texaco) a thros y bont. Mae ychydig o dynnu i fyny ar y dechrau. Ymlaen hyd y dewch at...

3. Ffermdy ar y dde - trowch i'r chwith. Ac i fyny y ffordd drol hyd y dowch at...

4. Lwybr yn mynd at giat yn eich gwynebu (cyn i'r ffordd wyro i'r dde) a cherdded i fyny hyd ochr y coed at...

5. Gamfa Aberduna. Trowch i'r chwith (arwyddbost Cadole) ac i lawr llwybr caled rhwng dwy ffens gyfochrog a'r llwybr y daethoch i fyny gan wyro i'r dde hyd y dowch at...

6. Giat bren (mae set yma os oes gennych awydd ysbaid!) gan gerdded ymlaen ar hyd y cae yn ochr y ffens i gyfeiriad...

7. Ysgol Colomendy. Ewch ymlaen yr ochr isaf i'r ysgol drwy giat ac i gyfeiriad giat arall ar y gwastad yn ymyl y ffordd.

8. Trowch i'r chwith ac ymlaen am ychydig ar hyd y ffordd a throi i'r dde cyn cyrraedd ty i lôn rhwng dwy wal garreg i gyfeiriad...

9. Camfa haearn ar bwys y coed. Ewch ymlaen hyd y dowch i...

10. Ffordd Wyddgrug gyda cholofn yn eich wynebu ochr arall i'r ffordd.

Mae dewis yma:

1. Cerdded i lawr y ffordd yn ôl i'r Maes Parcio

2. Croesi y ffordd i'r coed. Mae amryw lwybrau yn y coed ond os gwyrwch i'r chwith ger yr arwyddbost cyntaf fe ddowch i lwybr gyda stepiau llydan a chanllaw ond braidd yn serth (cymerwch ofal!), ddaw a chwi yn ôl i'r Ganolfan a'r Maes Parcio.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy