BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

GWENER
25ain Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bedol
Eglwys Llangar Ceidwad y Llan
Mehefin 2010
Geraint Jones, Ceidwad Eglwys Llangar, yn rhoi hanes yr eglwys i bapur bro'r Bedol.

Saif Eglwys Llangar yn y man lle mae'r afon Ddyfrdwy a'r afon Alwen yn cwrdd, rhwng Corwen a Chynwyd. Mae i'r eglwys ganol oesol hon hanes diddorol iawn ac un sydd â gofal am y lle yw Geraint Jones o Gorwen. Mae Geraint wedi ymddeol o'i waith bob dydd fel postmon ers rhai blynyddoedd ac yn ymddiddori yn hanes lleol. Trefnir arddangosfa ganddo o hen luniau o Gorwen yn flynyddol yn Eglwys Mael a Sulien. (Ni fydd hynny yn digwydd eleni oherwydd gwaith atgyweirio to'r eglwys.)

Prif rôl Geraint fel Ceidwad Eglwys Llangar yw rhoi mynediad i'r eglwys ei hun, ac i dywys ymwelwyr o gwmpas prif nodweddion yr adeilad. Mae Geraint yn amlwg yn mwynhau ei waith, dyma ei ail flwyddyn yn y gwaith, a dywed iddo gael dros fil a hanner o ymwelwyr yn galw heibio'r llynedd. Daeth rhai cyn belled â Siapan, yr Amerig ac Awstralia. Bydd yr eglwys ar agor o fis Ebrill hyd ddiwedd Hydref, o ddydd Mercher i ddydd Sul, rhwng deuddeg a hanner awr wedi dau'r prynhawn.

Dyma hanes Eglwys Llangar fel y cefais gan Geraint pan ymwelais â'r eglwys un pnawn braf o Fai eleni. Enw gwreiddiol ar yr eglwys oedd Llan y Carw Gwyn. Yn ôl traddodiad, methiant bu pob ymdrech i adeiladu eglwys mewn darn o dir yn y cyffiniau gan y byddai'r gwaith wedi cael ei ddymchwel yn gyson pob nos ar ôl i'r gweithwyr mynd adref. Wedi gofyn cyngor meudwy lleol, dywedodd hwnnw nad oedd y man yma yn dderbyniol gan Dduw ac mai yn y lle y gwelid carw gwyn y dylid adeiladu'r eglwys. Ymddangosodd carw gwyn ym man cyfarfod yr afonydd, sef lleoliad presennol yr eglwys. Bu helfa, a darganfuwyd y carw mewn lle a elwir bellach yn Fron Guddio, a'i ladd ar ddarn o dir a adwaenir heddiw fel Moel Lladdfa. Mae terfyn plwyf Llangar yn cynnwys y ddau ddarn yma o dir.

Mae'r hyn a welir tu mewn i'r eglwys yr un mor hynod â'r chwedl am darddiad ei henw. O ganlyniad i ddogfen dreth sy'n dyddio nôl i 1291, gwyddom fod yr eglwys tua mil o flynyddoedd oed. Fe'i disodlwyd gan eglwys newydd yng Nghynwyd yn y 1850au. Yna yn 1967 daeth i feddiant Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru, ac aed ati i'w adnewyddu.

Wrth dynnu'r plaster gwyn o'r waliau y tu mewn i'r eglwys, darganfuwyd murluniau o'r pymthegfed ganrif yn cynnwys archesgob ar ei benliniau yn gweddïo gyda Jerwsalem yn y cefndir. Mae yma ddarlun o garw, sy'n anghyffredin mewn eglwys dybiwn i, ac yn parhau'r chwedl am y carw gwyn. Hefyd ceir adnodau o'r Beibl a Gweddi'r Arglwydd.

Y darlun mwyaf trawiadol sy'n dyddio nôl i'r 18fed ganrif, yw'r un o ysgerbwd, yn dal gwaywffon mewn un llaw ac awrwydr yn y llaw arall. Gwelir baban yng ngwagle'r pelfis a rhaw a phladur dano. Mae'r darlun yn cynrychioli ffawd dyn ar y ddaear, ein bod yn cael ein geni, yn treulio ein bywyd yn llafurio ac, yn y diwedd, yn marw!

Un weithred amhleserus y bu'n rhaid ei wneud yn ystod yr adnewyddu oedd codi cyrff 300 o feirwon a gladdwyd o dan lawr yr eglwys. Mae'n debyg mai dyna oedd y traddodiad yn yr eglwysi ar y cychwyn cyn cael mynwentydd. Cafwyd gwasanaeth i ail gladdu'r cyrff ym mynwent yr eglwys yn yr wythdegau gyda rheithor Corwen a Chynwyd ar y pryd, y diweddar Barch Ifor Philips, yn gwasanaethu.

Un o nodweddion yr eglwys yw pulpud tridarn - gyda'r pulpud uchaf ar gyfer yr offeiriad, yr ail un ar gyfer darllen o'r litani, a'r drydedd ar gyfer y clerc.

Nodwedd arbennig arall yw'r galeri uwchben lle arferai'r cerddorion eistedd. Yno gwelir astell pedwar ochr ar gyfer yr arweinydd fel bod modd rhoi'r copiau bob ochr iddo. Mae'r trawstiau uwchben yr allor a chanol yr eglwys yn rhai gwreiddiol.

I'r rhai ohonoch nad ydych wedi ymweld ag Eglwys Llangar, buaswn yn eich annog i ddod draw - mae Geraint yn awyddus i weld pobl leol yn ymweld â'r adeilad, yn ogystal ag ymwelwyr. Mae modd cerdded ar hyd hen lwybr y rheilffordd sydd wedi ei addasu ar gyfer llwybr cerdded o Gorwen i Gynwyd, a gellir ymweld â'r eglwys ar y daith honno. Mae mynediad i Eglwyd Llangar yn ddi-dâl i rai dros 60 oed ac i blant dan 16 oed.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy