BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
15fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bedol
Gill yn arddangos un o'r gwisgoedd hardd Priodasau Canoloesol
Mehefin 2005
Os ydych eisiau priodas ychydig yn wahanol i'r arfer yna does dim rhaid ichwi fynd ymhellach na Chorwen i gael ysbrydoliaeth.
Ers chwe mis mae cwmni teuluol "Costume Company" wedi agor siop ar y brif stryd, gerllaw yr hen stesiwn, yn cynnig gwasanaeth priodasol canoloesol.

Bu'r cwmni yn llogi a gwerthu gwisgoedd ar gyfer gwahanol achlysuron arbennig ers tuag ugain mlynedd o ysgubor ar eu tir uwchlaw Glanrafon, ger Corwen. Mae'r cwmni yn cael ei redeg gan dair cenhedlaeth o'r un teulu - y nain, (Jean Roberts), y fam, (Trisha Lightfoot) a'r ferch, (Gill Phillips). Dechreuodd y fenter yn fuan ar ol i'r teulu symud i fyw i'r ardal o Lerpwl yn 1985 a hwythau wedi diflasu ar fyw mewn dinas ac eisiau mwynhau bywyd cefn gwlad.

Wedi gadael Ysgol y Berwyn, Y Bala, ymunodd Gill yn y fenter deuluol a hi fu'n rhoi hanes y busnes i'r Bedol.

Dros y blynyddoedd mae'r diddordeb mewn priodasau canoloesol wedi datblygu a bellach bydd y cwmni yn gyfrifol am baratoi gwisgoedd ar gyfer 40 briodasau y flwyddyn. Maent yn barod i drafeilio i unryw ran o Brydain, a'r drefn yw eu bod yn mynd a'r gwisgoedd i'r lle y cynhelir y briodas, yn gwisgo'r priodferch a'r briodfab yn ogystal a'r gwesteion i gyd. Yna ar ddiwedd y dathliadau byddant yn derbyn y gwisgoedd yn ol, yn eu pacio a dod a nhw nol i'r siop yng Nghorwen.

Cynllunio'r Wisg
Mae modd prynu neu llogi'r gwisgoedd a bydd gwisg y gwesteion yn costio tua £30 tra bydd pris gwisgoedd y briodferch a'r priodfab yn dibynnu ar faint o oriau o waith a roddwyd i'w gwneud. Gall gwisg gymryd rhwng 25 - 200 o oriau i'w gwblhau, a gwerthwyd un ffrog priodas am £4,000 yn ddiweddar!

Dywed Gill bod gan y darpar bar priod eu syniadau pendant am steil ac addrn y gwisgoedd. Defnyddir pob math o ddefnyddiau wrth gynllunio'r gwisgoedd melfed, sidan a chotwm, ac mae defnyddiau lIedr yn arbennig o boblogaidd ar gyfer gwisgoedd y dynion. Gwneir hefyd ychydig o waith ymchwil ar wisgoedd canoloesol gan y cwmni cyn dechrau cynllunio.

Diddorol yw deall na chafodd 'run o'r gwragedd eu hyfforddi mewn gwniadwaith na chynllunio, ond bod ganddynt diddordeb yn y maes. Bydd y gwisgoedd yn cael eu gwneud a pheiriant gwnio, tra bydd y gwaith brodwaith a pherlau cywrain yn cael eu gwneud a lIaw. Yn wir roedd y gwisgoedd yn werth eu gweld.

Jean a Trisha sy'n bennaf gyfrifol am gynllunio a gwneud y gwisgoedd gyda chymorth dwy gynorthwraig rhan amser, tra gofalu am y gwaith papur a chyfarfod a'r cwsmeriaid yw prif waith Gill.

Dangoswyd diddordeb yn Ileol yn y fenter, a bydd y cwmni yn brysur yn trefnu pedwar priodas ganoloesol o fewn y Sir yn ystod y misoedd nesaf, gyda Chastell Rhuthun yn lIeoliad poblogaidd i gynnal y diwrnod pwysig. Yn ogystal a'r gwisgoedd bydd y cwmni yn darparu ychwanegiadau fel addurniadau ar gyfer y bwrdd gan gynnwys Ilestri pren, ffiolau gwin, canhwyllau ac ati. Gellir hyd yn oed logi siwt arfau lIawn ar gyfer y diwrnod!

Er mai priodasau yw prifwaith y cwmni, maent hefyd yn paratoi gwisgoedd ar gyfer achlysuron arbennig eraill, e.e. partion Nadolig a threfnir themau fel y GorlIewin Gwyllt, Nosweithiau Arabaidd ac yn y blaen.

Symud 'mlaen
Prif nod y cwmni yn y flwyddyn diwethaf oedd symud y busnes i hen Siop XL yng Nghorwen. Bydd lIawer yn yr ardal yn cofio Siop XL yn gwerthu dillad merched o safon yn ogystal a chynnig gwasanaeth addasu gwisgoedd. Dywed Gill iddynt fabwysiadu yr hen gelfi o Siop XL wrth brynu'r adeilad, a bellach mae'r celfi yn cael eu hail defnyddio i gadw y defnyddiau a'r offer gwnio - yn union fel yn y gorffennol!

Os oes gan rai o ddarllenwyr y Bedol awydd lIogi neu brynu gwisgoedd gan y cwmni, yna gellir cysylltu a'r siop ar 01490 413141. Fel arfer mae modd gwneud apwyntiad i weld Gill yn ystod y Suliau neu ar nos Fercher.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy