BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bedol
Truby Hollister-Jones Dyn ar genhadaeth
Medi 2009
Ymwelydd diweddar â Chymru o Seland Newydd oedd Truby Hollister-Jones.

Fe ymadawodd ei rieni am Seland Newydd yn ôl ym 1926 o fferm Pant-y-gynnau, Bryn Saith Marchog gyda thri o blant. Fe anwyd tri o blant pellach ar ôl cyrraedd Seland Newydd ac mae o'n un ohonyn nhw. Beth sy'n arbennig o ddiddorol yw ei fod dal yn rhyfeddol o rugl yn yr iaith Gymraeg ac wedi ymddangos ar raglen Dai Jones - 'Ai Cymro neu Kiwi?' - ac mae ganddo 'Corwen' fel rhif gofrestru ar ei gar.

Ar un ymweliad cynharach yn y flwyddyn 2004 fe wnaeth o ddarganfod enw ei dad wedi ei gerfio yn nrws y stabl ym Mhant-y-gynnau, a oedd yn dweud CHJ 1911. Roedd yn un ar hugain oed ar y pryd.

Ar yr achlysur yma roedd am dynnu y panel o'r drws a mynd ag o'n ôl i Seland Newydd fel cofeb gyda chaniatâd y teulu Griffiths sydd bellach biau'r fferm. Fe wnaethpwyd hyn ac mae o mor ddiolchgar.

Mae o hefyd yn ddiolchgar iawn i Rhys Lloyd sy'n gweithio yn yr Efail ym Mryn Saith Marchog am dynnu y panel, ac hefyd i siop Step Toes yn Rhuthun a drefnodd fframio'r panel.

Bu ei genhadaeth yn llwyddiannus, ac wedi gwneud ei waith fe ddychwelodd i Seland Newydd efo'r panel.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy