BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
16eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bedol
Anne Roberts, aelod o Gyngor y Brifysgol yn cyflwyno Hafina ar Orffennaf 12. Hafina yn Gymrawd er Anrhydedd
Medi 2005
Mae Hafina Clwyd yn awdur a newyddiadurwraig, ei herthyglau weithiau'n bigog ac weithiau'n herian ond mae yna neges bob amser, a daw ei hiwmor glan drwodd.
Ganwyd Hafina yn yr hen Sir Feirionnydd, a derbyniodd ei haddysg yng Ngwyddelwern, Ysgol Ramadeg y Merched, Y Bala, ac Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, cyn dod yn fyfyriwr yng Ngholeg y Normal.

Yna i Lundain i ddysgu - mewn ysgolion oedd yn eithaf her i athrawes ifanc. Bu'n Arweinydd Aelwyd yr Urdd yno ar gyfnod byrlymus ym mywyd Cymry Llundain.

'Roedd yn aelod gweithgar o Bwyllgor y Clwb Llyfrau Cymraeg - Clwb wnaeth gymaint i hyrwyddo cyhoeddi llyfrau Cymraeg, ac a arweiniodd at sefydlu Y Cyngor Llyfrau. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion, ac mae bellach yn un o'r Is-Lywyddion.

Dychwelodd Hafina, a'i diweddar wr Cliff, yn ôl i Gymru ym 1979 i fyw yn Rhuthun, a thros y blynyddoedd cyfrannodd yn hael o'i hamser i'r rhan yna o Ddyffryn Clwyd. Bu'n olygydd Y Bedol, papur bro Rhuthun a'r cylch, ac fe geir ganddi hanes ac achau pobl yr ardal yn ymron bob rhifyn. Mae'n aelod a chyn Gadeirydd Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, yn un o sefydlwyr Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd, ac ysgrifennydd Grwp Hanes Lleol Rhuthun.

Mae'n aelod o Gyngor Tref Rhuthun ac o bwyllgor Cymdeithas Ddinesig y dref. Bu'n anfon 'Llythyr Llundain' yn wythnosol i'r Faner a gwyr llawer ohonom am ei llwyddiant fel Is-olygydd a Golygydd Y Faner, hynny ar amser hynod anodd yn hanes y papur.

Mae ganddi golofn wythnosol yn Western Mail , un yn y Cymro yn adolygu rhaglenni radio a theledu ac mae'n cyfrannu'n gyson i gylchgronau fel Yr Enfys, Y Wawr a Hel Achau, ac erthyglau Drafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych ac i rai Cymdeithas Hanes Meirionnydd.

Bu Hafina'n weithgar hefo'r Eisteddfod Genedlaethol ac fe dderbyniwyd i Wisg Wen yr Orsedd er Anrhydedd ym 1992, a bu beirniadu yng nghystadleuaeth Fedal Rhyddiaith ym 1997 a 2000. Cyhoeddodd naw cyfrol, a dywed fod rhagor i ddod!

Yn ogystal, eleni yr oedd yn un o feirniaid 'Llyfr y Flwyddyn'. Daeth Coleg y Normal yn rhan allweddol o Brifysgol Cymru Bangor ym 1996 - a theilwng yw cyfarch heddiw un o'i gyn-fyfyrwyr sydd wedi cyflawni cymaint er budd y diwylliant Cymreig chyfrannu cymaint i fro Dyffryn Clwyd.

Barchus Is-Ganghellor - cyflwyni i Ti Hafina Clwyd yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru Bangor.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy