BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

IAU
17eg Ebrill 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bedol
Disgyblion ysgol Pen Barras tu allan Tŷ mawr Wybrnant Bywyd yr Esgob William Morgan
Hydref 2004
Mae yna rai dyddiadau ym mis Medi sydd yn sefyll allan ac yn aros yn argraffedig ar y meddwl a'r cof am byth. Un o'r rheini yw Medi 10. Ar y dyddiad hwn eleni dathlwyd pedwar canmlwyddiant marwolaeth Yr Esgob William Morgan.
Trefnwyd gwasanaeth cofio yng Nghadeirlan Llanelwy, ac amryw o ddigwyddiadau gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghwm Machno i goffau'r achlysur. Ar y 10fed ei hun cafwyd cyflwyniad ar fywyd yr Esgob gan blant Penmachno ac Ysgol Pen Barras yn y Tŷ Mawr, Wybrnant.

Mae hi mor rhwydd anghofio nad oedd yn bosibl i bobl Cymru ddefnyddio a darllen y Beibl yn uniongyrchol am dros fil a hanner o flynyddoedd. Ganwyd William Morgan mewn cyfnod pan roedd gwasanaethau'r eglwys yn yr iaith Lladin, gyda'r offeiriad yn darllen yr offeren o hen lawysgrif.

Erasmus a ysgrifennodd mewn rhagair i'r Testament Newydd yn yr iaith Groeg yn 1516 y dylid cyfieithu'r ysgrythurau i bob iaith fel y gall pawb eu darllen.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach mynnodd gorchymyn y dylid gosod Beibl Saesneg ym mhob eglwys yn Lloegr a Chymru, ac er mwyn diwallu'r angen hwn, comisiynwyd y 'Beibl Mawr', a oedd i'w ddarllen gan offeiriaid yn unig.

Yn ystod teyrnasiad y frenhines Elisabeth 1af pasiwyd deddf yn 1563 yn galw am gyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg. Yn ôl y ddeddf roedd y pedwar Esgob Cymreig, ynghyd ag Esgob Henffordd i ddwyn allan cyfieithiad cyflawn o'r Beibl ym mhen tair blynedd, erbyn dydd Gŵyl Dewi 1566, neu eu bod i gael eu dirywio o £40 yr un.

Ond er y weithred seneddol, ni chafwyd cyfieithiad cyflawn o'r Beibl am dros ugain mlynedd wedi hynny; a'r pryd hwnnw, nid gan y pump Esgob, ond gan ficer gwledig o'r enw William Morgan.

Gwaetha'r modd, cymharol ychydig a wyddom am y gŵr a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg am y tro cyntaf.

Ganwyd William Morgan fel yn hatgoffir yn Tŷ Mawr, Wybrnant, yn 1545, yn un o bump o blant, - yr ail fab i John ap Morgan a'i wraig Lowri.Yn ffodus, y mae'r ty yn sefyll hyd y dydd heddiw. Aeth yn adfail rywbryd yn y 18fed ganrif, ond fe' i prynwyd gyntaf gan Arglwydd Mostyn ac wedyn gan Arglwydd Penrhyn. Roedd hen draddodiad yn honni bod Wybrnant yn ardal lle'r oedd yr hen ffydd Gatholig wedi goroesi, a bod William Morgan wedi ei addysgu'n fachgen gan hen fynach a oedd wedi gorfod ymadael ag un o'r mynachlogydd lleol.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, coleg a oedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch i droi Lloegr a Chymru yn wledydd Protestannaidd.Ordeiniwyd William Morgan yn Eglwys Gadeiriol Trelai yn 1568, ac yn 1578, daeth yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a chyda'r plwyf hwn yn bennaf cysylltir ei enw am mai yma y bu wrthi'n cyfieithu'r Beibl.

Ymgymerodd â'r gwaith o gyfieithu y Beibl yn hollol o honno ei hun, heb gymhelliad neb, heb feddwl am enw nac enwogrwydd. Ond fe gafodd ei anrhydeddu dros ganrifoedd. Penodwyd yn Esgob Llandaf yn 1595, ac yn 1601, trosglwyddwyd ef i esgobaeth Llanelwy, ac aeth yntau a'i briod Catherine i fyw i dŷ yr archddiacon, tŷ o'r enw Plas Gwyn ym mhentref Dyserth, gan fod plas yr Esgobion yn Llanelwy yn adfeilion.

Yno y bu farw, Medi 10, 1604 ac yntau'n 59 mlwydd oed. Tua £110 oedd gwerth ei eiddo, swm bach iawn, - ond fe adawodd gyfraniad amrhisadwy yn ei Feibl Cymraeg. Heb amheuaeth, y cyfieithiad pwysicaf a'r argraffiad pwysicaf oedd ac yw Beibl William Morgan.

Pedair canrif yn ddiweddarach, y mae gennym ninnau ddyled i ddatgan ein diolch i un o'n cymwynaswyr pennaf fel cenedl. Fe ddywed un, Beibl William Morgan oedd 'y rhodd fwyaf a gafodd y Cymry erioed'. Mae ei waith yn dal i fyw ac yn ddylanwadol o hyd. O'r braidd y gellir mesur ein dyled iddo fel cenedl.

Gwenallt a fynegodd amdano:

'Canmolwn ef am ei ddycnwch, ei
ddewrder a'i santeiddrwydd
Ac am ei gymorth i gadw'r genedl a'i
iaith lenyddol yn fyw,
Gan roddi arni yr urddas ac iddi'r
anrhydedd uchaf,
Wrth ei throi yn un o dafodieithoedd
Datguddiad Duw.'
Gwenallt

G. Floyd


Cyfrannwch

Elin Dafis o Gaergrawnt a Felinfoel
Erthygl rhagorol gan D. Pugh am Esgob Willim Morgan pan oedd yng ngholeg prifysgol Caergrawnt. Wedi defnyddio'r erthygl yn fy ngwaith ar Esgob William Morgan. Diolch.
Thu May 7 10:58:23 2009

Eleri Morgan o Fachynlleth
Wedi darllen yr ethyrgl am Esgob William Morgan gan Derek Pugh. Erthygl diddorol a phwysig. Diolch yn fawr. Gwener 27 Mawrth 2009.
Fri Mar 27 10:42:52 2009

Derek Pugh o Gaergrawnt
Wedi ysgrifennu erthygl am Esgob William Morgan yng Nghaergrawnt dan yr enw Derek Pugh. Profiad diddorol dros ben. Rwy'n cyd weld yn hollol 'r dudalen hon fod Beibl William Morgan yn rhodd fwyaf a gafodd y Cymry a'r iaith erioed. Sul 15 Mawrth 2009.
Sun Mar 15 15:24:36 2009

Ffion Llanglydwen
Mae'r dudalen hon wedi bod yn help mawr i mi orffen fy aseiniad ar William Morgan yn hanes. Diolch!
Mon Feb 11 13:39:29 2008

Cian o Llangennith
Mae fe'n brilliant , da iawn ti !!!!!!! :)
Thu Mar 30 14:37:05 2006


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy