BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Bedol
Ladis Llangollen Dyddiadur Ladis Llangollen
Chwefror 2010
Alan Baines, Bryneglwys, yn rhannu pytiau o ddyddiaduron Ladis Llangollen. Bu Alan yn gweithio ym Mhlas Newydd, Llangollen, cartref y ddwy enwog.

Merched o deuluoedd Aristocrataidd oedd Eleanor Butler a Sarah Ponsonby. Gadawsant eu cartrefi yn yr Iwerddon a hwylio dros y môr i Abergwaun ynghyd â'i morwyn, Mary Caryl. Yna, ar ôl teithio drwy Gymru daethant i Langollen, ac hwyrach mai'r bwriad oedd mynd ymlaen i gyfeiriad Llundain.

Ond erbyn cyrraedd Llangollen ac aros yn y dre am ychydig ddyddiau roeddynt wedi syrthio mewn cariad hefo'r ardal a dod i'r penderfyniad mai yma y byddent yn cartrefu am weddill eu hoes. Ymhen dwy flynedd fe gawsant dyddyn bach o'r enw Pen y Maes ar rent gan Mr Edwards, Plas Pengwern. Yn fuan iawn daeth y lle i gael ei adnabod fel Plas Newydd. Buont yn byw yno am hanner canrif.

Roeddynt yn ferched deallus ac addysgedig, ond hefyd yn "eccentric" iawn ac wrth lwc wedi cadw dyddiadur (The Journal) yn ofalus a chydwybodol. Ceisiaf ddethol ychydig o'r ysgrifau yma yn fisol ar gyfer Y Bedol gyda'r gobaith y byddant o ddiddordeb i'r darllenwyr.

Sul, Ionawr 6, 1788
Ciniawa ar botas "Giblets" a chig dafad wedi ei ferwi. Bwytasom yn gynnar oherwydd fod Mary wedi gwahodd ein meistr tir a'i wraig, ei fab a'r ferch yng nghyfraith yma am bryd o fwyd - mae'n arferiad blynyddol.

Iau, Ionawr 1, 1779
Y Ddyfrdwy wedi rhewi drosti. Shannette, sydd yn cael ei chyfri yn wrach yn y pentre, ddaeth ag anrheg o afalau inni, wedi eu rhwymo'n dwt mewn lliain gwyn. Mynnodd gusanu fy llaw. Gweithred nad oeddwn wedi ei disgwyl. Bu gennyf deimlad oer a diffrwyth yn fy llaw am amser ar ôl hyn. Jonathan Hughes wedi ennill cadair. (Ysgrifen Eleanor oedd hon.)

Iau, Ionawr 5, 1802
Dr Darwin yma (tad Charles Darwin). Disgrifiodd y modd o wella merched sydd yn dioddef o'r 'hysterics'. Sef fflangellu eu cefnau noeth hefo torch o danadl poethion gwyrdd. Fe roddodd y driniaeth hon i Mrs Preston ac mae'n teimlo yn llawer gwell ar ei ôl!

Iau, Ionawr 5, 1819
Y dydd hwn rydym yn dathlu ein bod wedi gorffen talu am y ty.

Iau, Chwefror 12, 1779
Daeth y postmon ag arian am ein papur ugain punt. Gallwn yn awr dalu i'r melinydd, dyn y glo a'r cigydd am y cyflenwad o gig moch. Hefyd gallwn dalu'r mân ddyledion eraill yn y Llan. Dyma glirio ein holl ddyledion yn yr ardal.

Iau, Chwefror 15, 1779
Codi am saith. Bore melys o wanwyn. Aethom i ymweld â chyfeillion yng Nghroesoswallt, y teulu Barret. Yr holl ffordd yn ddistaw ac ni welsom ond un gwr ar gefn ei geffyl a'r goets fawr. I'r eglwys yn yr hwyr. Y ficer Edwards yn darllen y gweddiau yn rhagorol o dda ond y ciwrad yn warthus. Ef a bregethodd hefyd. Y canu yn beraidd.

Gwener, Chwefror 5, 1802
Tywydd tymhestlog. Dyn y matiau yn dweud bod 42 o goed derw mawr hynafol wedi dymchwel mewn parc ger Wrecsam o ganlyniad y storm enbyd a gawsom y noson o'r blaen. Gwerth £10,000 o goed i lawr ym Mhlas Trefor. Colled fawr. Gwerthwyd coed yr Abaty dan y morthwyl. Colledion mawr heb sôn am yr hagrwch ar y dirwedd sydd erbyn hyn yn hanner noeth.

Mawrth, Chwefror 22, 1819
Y Fonesig Georgena Wellesley (mam Dug Wellingon) yn dweud hanes llawdriniaeth brawychus a gafodd ei gario allan ar frenhines Sbaen tra roedd tal yn effro. Hi gafodd ei llofruddio gan y chwil-lys yn y wlad honno.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy