BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
12fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Tomen sbwriel yr Hafod Tomen sbwriel yr Hafod i gynhyrchu trydan?
Rhagfyr 2008
Mae cais cynllunio am adeiladu gwaith cynhyrchu trydan ar y safle ger Rhiwabon wedi ei wneud.

Mae Cory Environmental Resources, perchnogion y safle oddi ar fis Medi eleni, wedi gwneud cais cynllunio am adeiladu gwaith cynhyrchu trydan ar y safle. Bydd hyn yn golygu codi pedwar generadur ('generator') nwy. Dadl y cwmni yw y bydd llai o nwyon niweidiol i'r amgylchedd yn cael eu gollwng i'r awyr. Ar hyn o bryd mae'r nwyon a gynhyrchir fel y mae'r sbwriel yn pydru (dechreuwyd ei daflu i'r twll clai odd ar fis Awst 2006) yn cael ei sugno o'r domen gan system o beipiau cyn cael ei gyfeirio i stac neu simnai ar y safle a'i losgi. Byddai defnyddio'r nwyon hyn i weithio generadur i gynhyrchu trydan ac yna ei werthu i'r Grid Cenedlaethol yn gam mawr tuag at wella'r amgylchedd.

Bwriad Cwmni Cory yw codi un generadur ar y tro a byddai'r gwaith adeiladu yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau. Byddai'r peiriannau cynhyrchu trydan ar waith 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos tra bydd y gladdfa sbwriel ar waith a hyd yn oed am gyfnod ar ôl i'r gwaith ddod i ben tra bydd digon o nwyon yn codi o'r domen i gynnal y peiriannau cynhyrchu trydan.

'Doedd gan y grŵp fu'n gwrthwynebu cynlluniau'r hen gwmni sbwriel, Mersey Waste Holdings, ddim gwrthwynebiad i'r syniad o gynhyrchu trydan ond roedden nhw'n pryderu'n fawr am y niwed i'r amgylchedd allai ddigwydd yn sgil yr hyn fyddai'n cael ei ollwng i'r awyr gan peiriannau yn ystod y broses o gynhyrchu trydan.

Hyd yn hyn, nid yw Cyngor Sir Wrecsam wedi pennu dyddiad i ystyried y cais cynllunio.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy