BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Cangen arall o Nene Cangen arall o Nene
Mehefin 2009
Dros y blynyddoedd mae darllenwyr Nene wedi dod â lluniau o enw'r papur inni o bob rhan o'r byd - Raymond yw'r diweddara!

Dros y blynyddoedd mae darllenwyr Nene wedi dod â lluniau o enw'r papur inni o bob rhan o'r byd - gŵydd o'r enw Nene, grŵp pop o Japan yn cael eu galw'n Nene ac afon a rheilffordd a phrifysgol Nene. Daeth y canwr Geraint Dodd â llun o gaffi ym Mhortiwgal o'r enw Nene inni a dyma Nene arall i'w ychwanegu at y rhestr, diolch i Raymond Jones (mab Fanny Green, Gornel gynt ond sydd bellach yn byw yn Wrecsam).

Y mis dwytha, bu Raymond ar ei wyliau ar Ynys Marco, Gorllewin Florida. Roedd wedi bod yno o'r blaen a wedi gweld yr enw 'Ne Ne's Kitchen', a felly mi gymerodd ei gamera a chopi o Nene efo fo y tro hwn i'w ddangos i berchennog y tŷ bwyta Eidalaidd, Bob Natale.

Roedd Bob wrth ei fodd yn gweld ein papur bro ac o fewn diwrnod roedd wedi ei fframio a'i osod ar wal y tŷ bwyta.

Yn ôl yr hyn ddywedodd wrth Raymond, mae Ne Ne yn golygu Nain yn nhafodiaith Eidalaidd Bob Natale ('nonno' a 'nonna' ydy taid a nain yn ôl y geiriadur).

Roedd Raymond yn aros gyda ffrindiau mewn fflat yn edrych dros Crescent Beach ar Ynys Marco, Florida, a gofalodd Raymond fod pawb ar y traeth yn cael gwybod am Gymru gan iddo sgwennu 'Cymru am byth' anferth yn y tywod.

Llawer o ddiolch i Raymond am y stori ac am fynd i'r drafferth o dynnu'r lluniau a dod â nhw i fyny i'r Rhos ar ein cyfer.

Mae'n braf meddwl fod tudalen flaen Nene mis Chwefror 2009 mewn ffrâm ar wal tŷ bwyta yn Florida - ac os bydd rhai o'n darllenwyr yn digwydd bod yn teithio yno, cofiwch roi pic i mewn i 'Ne Ne's Kitchen' a dweud eich bod yn nabod Raymond a hefyd yn un o ddarllenwyr Nene...mi gewch glamp o groeso gan Bob Natale.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy