BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Anthony Lysycia Cerfiwr cerrig
Mehefin 2007
Mae'r cerfiwr cerrig Anthony Lysycia wedi dychwelyd i Barc y Ponciau ar gyfer cyfnod terfynol Prosiect Artist Preswyl y parc.
Fe fydd yn creu cerfiadau cerrig mawr i ddathlu treftadaeth cyfoethog y Rhos a'r Ponciau.

Dechreuodd Anthony weithio ar y prosiect yr hydref diwethaf ac mae'n cael ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chywaith Cymru.

Mae Swyddog Datblygu Parc y Ponciau, Katie Birks, wrth ei bodd bod cyfuod olaf y prosiect ar waith erbyn hyn. Fe ddywedodd: "Prif nod y prosiect arbennig hwn ydy dathlu arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol y parc. Y mae ymglymiad cymunedol wedi bod yn elfen allweddol trwy gydol y prosiect preswyl ac mae llawer o bobl leol wedi rhannu eu straeon a'u hatgofion gydag Anthony i'w helpu i lunio cerfiadau cwbl unigryw

Bydd Anthony yn gweithio ym Mhafiliwn Bowlio Rhosllannerchrugog bron i bob dydd Mawrth a dydd lau tan ganol mis Gorffennaf. Gofynnir i aelodau o'r gymuned alw heibio i weld y cerfiadau neu i roi cynnig ar gerfio cerrig eu hunain hyd yn oed.

Fe gafodd Anthony ei eni yn Chorley yn Swydd Gaerhirfyn a threuliai ei wyliau i gyd pan oedd yn ifanc yng Ngogledd Cymru. Aeth i Goleg Celf Preston ac wedi graddio yno treuliodd gyfnod yn Rhufain yn dysgu sut i drin marmor. Dywedodd mai profiad bythgofiadwy oedd mynd i'r chwarel farmor enwog yn Carera lle bu Michaelangelo'n dewis cerrig.

Nid marmor mae'n ei gerfio ar y Ponciau wrth gwrs ond slabiau tywodfaen lleol ynghyd â rhai cyffelyb o Swydd Efrog. Fe ddefnyddiodd gerrig tebyg ar gyfer y cerfiadau sydd i'w gweld ar y fynedfa i'r draphont ddŵr yn Nhrefor.

Ac nid cerrig yn unig mae'n gerfio ond coed - mae enghraifft o' i waith, sef coeden enfawr oedd wedi ei tharo gan fellten, i'w weld yn Nhafarn y Celyn (Loggerheads) Sir y Fflint.

Dywedodd Anthony: "Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd at weithio ar y prosiect hwn ar Barc y Ponciau. Y mae cerfio cerrig yn ddiddorol lawn a byddwn i'n croesawu unrhyw un sydd am ddod a rhoi cynnig arno eu hunain".

Ac yn wir nid dod yn ôl i weithio yn unig. Fe hoffai brynu tŷ yn yr ardal a symud yma o Lundain.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy