BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
15fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Y Stiwt Stiwt Slawer dydd
Medi 2005
Ddiwedd Mehefin cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Wrecsam, ond yn y Stiwt cafwyd y swper!
Ymddangosodd yr atgofion isod yn Y Tyst yn ystod mis Gorffennaf gan un o blant y Rhos - a'r Stiwt. Diolch am ganiatâd i'w ailgyhoeddi yn NENE.

Paradwys o le oedd y Stiwt i ni fechgyn ifainc ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf. Pictiwrs - first a second house a'r ffilmiau'n newid tair gwaith yr wythnos.

Pum ceiniog oedd y pris i'r lle rhata' sef y 'chicken run!' tra roedd y balconi, a'i seddau dwbl yn y corneli, yn ddrutach ond yn werth pob dimai i gariadon ifainc! Unwaith neu ddwywaith y mis, ar nos Fercher, cafodd y pictiwrs seibiant pryd y cynhaliwyd drama, neu gyngerdd mawreddog gyda chorau lleol ac unawdwyr o fri fel Mary Jarred a Bruce Dargavel, a'r neuadd fawr dan ei sang.

Yn ystod y dydd hefyd dyma i chi le prysur. Y neuadd yn cael ei glanhau ar gyfer pictiwrs y noson honno tra i fyny'r grisiau roedd ystafell wyddbwyll a draffts. Timau o fri yn y chwaraeon hyn ac un o'r chwaraewyr sef Joe Charles yn bencampwr y byd am osod problemau mewn draffts.

Drws nesaf oedd yr ystafell ddarllen yn cynnwys papurau dyddiol, wythnosol a misol a ddarllenwyd yn frwd iawn gan yr hynafgwyr. Yna'r llyfrgell doreithiog dan ofal craff di-wên y llyfrgellydd a hawliai ddistawrwydd llethol yn y lle cysegredig hwn.

Yna'r ystafell ymgynnull a ddefnyddiwyd yn rheolaidd gan gorau lleol i ymarfer gyda chegin fach i wneud paned. Ond i ni, y rhai ifainc, ystafelloedd y llawr oedd yn ein hudo.

Ar wahân i'r neuadd fawr roedd dwy ystafell arall ar lawr y Stiwt hefyd. Dyma'r nefoedd i ni. Dwy ystafell hirsgwar yn ymyl ei gilydd a phedwar bwrdd snwcer mawr ymhob un. Un ystafell i chwaraewyr cyffredin eu dawn - ond eto yn medru gwneud ambell rediad sylweddol. Yr ystafell orau oedd mangre'r chwaraewyr da iawn. Dau fwrdd lle chwaraewyd biliards yn unig a'r ddau fwrdd arall yn gyfyngedig i snwcer.

O gwmpas yr ystafell roedd seddau esmwyth yn llawn o bensiynwyr gwybodus yn gwylio pob ergyd a phob hyn a hyn fe glywyd ebychiad o ganmoliaeth neu ochenaid o wae! Roedd y byrddau hyn mewn cyflwr cystal ag unrhyw fwrdd yn y Crucible ac yn cael eu trin fore a hwyr gyda gofal cysegredig gan y ddau stiward sef William Defi a Den Jona.

Wiw i ni gam-fihafio na thrin y byrddau mewn ffordd anghyfrifol neu roedd ffon Den Jona yn cael ei defnyddio ar fan poenus iawn o'r corff. Prysur iawn oedd y byrddau o ddeg y bore tan ddeg yr hwyr, a chan fod y coliars yn gweithio tair shifft roedd canran sylweddol ohonynt ar y byrddau drwy'r dydd yn ogystal â ni, bechgyn ysgol, a gyrchai yno ar ôl te i ddangos ein medr er gwaethaf bygythiad J. T. Jones, prifathro ysgol Ramadeg y Bechgyn Rhiwabon, fod y snwcer yn ddylanwad drwg ar yrfa academaidd!

Pan gaewyd y pyllau glo newidiodd anian yr holl ardal. Llawer yn gadael y Rhos i edrych am waith ac estroniaid yn dylifo i mewn. Collwyd hen draddodiadau'r ardal ac esgeuluswyd y Stiwt a dirywiodd yr adeiladau.

Bu cynnig i'w droi yn glwb yfed. Roedd hyn wrth gwrs yn groes i arferion mynychwyr y Stiwt. Lemonêd Twm Charles o'r Ponciau oedd yr unig ddiod a werthwyd yno yn yr hen amser. Ni fu'r clwb yno'n hir iawn.

Yna daeth tro ar fyd. Ffurfiwyd Pwyllgor arbed y Stiwt. Perswadiwyd y Cyngor i beidio â dymchwel yr adeilad, a bu llu o wirfoddolwyr wrthi yn brysur am rai blynyddoedd yn adfer y lle.

Heddiw mae'n fangre hardd. Wedi dringo'r grisiau cerrig at y fynedfa, pnawn Gwener yr Undeb yn Wrecsam, rhyfeddais at harddwch yr ystafelloedd ac er nad oedd ystafell snwcer yno bellach, caeais fy llygaid a rwy'n sicr mi glywed clic clic y peli lliwgar o'r pellter fel o'r blaen. Atgofion melys yn wir.
Morien Phillips


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy