BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Trac beic Parc y Ponciau Seren Olympaidd yn cefnogi trac beic
Ionawr 2009
Mae Pencampwr BMX y Byd a chystadleuydd Olympaidd Shanaze Reade wedi rhoi ei chefnogaeth i drac beic Parc y Ponciau, lleoliad y mae hi'n ei ddefnyddio ei hun!

Agorwyd y trac BMX ym Mharc y Ponciau yn 2006 diolch i gyllid o £50,000 gan raglen Spaces for Sport Barclays, a chaiff ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae'r safle ar agor i'r holl gymuned, ac mae beicwyr ifanc hefyd yn cael budd o hyfforddiant proffesiynol bob penwythnos gan Martin Ogden, fel rhan o Glwb BMX 'Wrexham Rebels' sydd â'i gartref yn y trac.

Bu Jon Harland, Swyddog Datblygu Beicio Cymru, yn cefnogi aelodau'r clwb a gymerodd rhan mewn ras lwyddiannus yn gynharach eleni ar drac Tipkinder yn Crewe, a gobeithir y bydd y ras ranbarthol cyn hir ym mis Ionawr yr un mor llwyddiannus iddynt. Dywedodd Shanaze Reade, sy'n beicio'n rheolaidd ar y trac ac a ddaeth i sylw llawer ar ôl ei hymdrech ddewr i ennill aur yn Chwaraeon Olympaidd Beijing, "Mae'r trac BMX ym Mharc y Ponciau yn gyfleuster chwaraeon cymunedol rhagorol ac yn gaffaeliad gwych i'r ardal. Mae'r clwb sydd â'i gartref yno yn cynnig cyfleoedd go iawn i ieuenctid lleol o bob oed, cefndir a gallu i wella'u sgiliau BMX, dysgu sut i gynnal a chadw beic a chael cyfle i feicio'n gystadleuol."

Hefyd talodd deyrnged i ymagwedd gynhwysol y clwb a sut y gall y beicio fod o fudd i'r ifanc: "Mae'r beicwyr yn ganolog i'r clwb, ac felly mae gan bob beiciwr lais o ran sut y trefnir ac y datblygir gweithgareddau'r clwb. Mae BMX yn gamp wych i gyfeirio egni plant i rywbeth gwirioneddol gadarnhaol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy