BBC HomeExplore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Mark Lewis Jones (Llun: S4C) Cyfnod prysur i actor
Ionawr 2007
Pan sgwrsiodd yr actor, Mark Lewis Jones, mab Tydfil a Valmai Davies, Tai-nant, gyda Nene roedd newydd fod yn treulio diwrnod neu ddau i gael ei wynt ato gan hamddena a chrwydro Sir Benfro.

Hynny ar ôl cyfnod prysur o deithio rhwng Caerdydd a Llundain yn ffilmio ychydig cyn y Nadolig roedd i'w weld ar BBC3 yn un o benodau'r gyfres ffuglenwyddonol, Torchwood Nos Sul, lonawr 8.

Mark sy'n cymryd rhan un o'r prif gymeriadau mewn "ffilm serch gyfnod am densiynau cymdeithasol a theuluol" ar S4C, set Calon Gaeth.

Addasiad o'r nofel Saesneg, Small Country a sgrifennwyd gan Siân James yn y 1970au yw Calon Gaeth a Siân James ei hunan fu'n gyfrifol am lunio'r sgript yn Gymraeg ar gyfer y ffilm sinema a hefyd y ddrama bedair rhan ar gyfer y teledu; mae hi hefyd yn ymddangos fel un o'r ecstras yn y ffilm.

Mae'r ddrama deledu'n cynnwys cast o safon a gyda Mark gwelir Nia Roberts a Catrin Morgan. Mae un arall o fechgyn y Rhos yn cast, sef Dyfed Potter.

Roedd y ffilm Calon Gaeth yn un o ddwy ffilm gafodd sylw mawr yng Ngwyl Ffilmiau Caerdydd fis Tachwedd 2006.

Fel y gwyddom, nid yw gyrfa actio Mark byth yn segur. Yr wythnos hon bydd yn cyfarfod â'i gyd-actorion yn y darlleniad cyntaf o sgript The Commodores sydd wedi'i sgrifennu gan yr enwog Lynda La Plante, y nofelydd a'r lluniwr sgriptiau o Lerpwl.

Hi greodd y gyfres boblogaidd Widows a oedd ar y teledu yn yr wyth degau a hefyd cyfresi Prime Suspect a fu ar y sgrin fach rhwng 1991 - 2003 gyda Helen Mirren yn cymryd y brif ran.

Mae cysylltu enw Lynda La Plante ag unrhyw sgript yn sicr o dynnu sylw gwylwyr ac adolygwyr dramau teledu gan ei bod wedi ennill llu o wobrwyon am ei gwaith, gan gynnwys BAFTA ac Emmy.

Mark fydd yn cymryd prif ran y dyn yn y gyfres newydd a fydd yn cael ei ffilmo yn Llundain rhwng Chwefror ac Ebrill. Yr actores gyda Mark yn chwe phennod y gyfres fydd Amanda Burton.

Nid oes manylion eto pa bryd y bydd The Commodores ar y sgrin fach, naill ai yn yr haf neu'r Hydref, ond byddwn i gyd yn edrych ymlaen yn eiddgar at y gyfres.

Mae actio yn Gymraeg a ffiilmio ar gyfer S4C yn dal i fod yn bwysig iawn i Mark ac, yn ôl pob sôn, cawn gyfle i'w weld eto mewn trydedd cyfres o Con Passionate. Mae paratoadau am gyfres arall eisoes ar y gweill.

  • Gog yn creu trafferth yng Nghwmgwili - cyfweliad Ebrill 2006
  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy