BBC HomeExplore the BBC

IAU
24ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Aled Phillips Aled Phillips yn ennill Ysgoloriaeth
Ionawr 2006
Ein llongyfarchiadau i Aled Phillips ar ennill ysgoloriaeth i arweinwyr ifanc mwyaf addawol gwledydd Prydain.

Dim ond tair ysgoloriaeth sy'n cael eu cynnig bob blwyddyn ac estynnwyd gwahoddiad i Aled, sy'n athro cerdd yn Ysgol yr Alun, Yr Wyddgrug, gynnig am un o'r ysgoloriaethau hyn.

Bu'n rhaid iddo fynd trwy nifer o gyfweliadau ac er bod ugeiniau ledled gwledydd Prydain wedi ymgeisio am un o'r tair ysgoloriaeth, Aled gafodd ei ddewis gan y panel beirniaid. Bydd yn golygu ei fod yn teithio llawer yn ystod 2006 a bydd yn derbyn hyfforddiant gan arweinyddion profiadol ym myd corau a cherddorfeydd.

Cafodd Aled sawl llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol tra bu'n arwain Cantorion y Rhos. Bu hefyd yn Is¬-arweinydd Côr Meibion y Rhos ac yn arweinydd dros dro Côr Merched y Rhos. Yn ddiweddar, ffurfiodd gôr i berfformio rhai o emynau ac anthemau Dr. Caradog Roberts i ddathlu 70 mlwyddiant marw'r cyfansoddwr.

Cynhaliwyd cyngerdd yng Nghapel Bethlehem pan ddaeth Undeb yr Annibynwyr i'r ardal ddechrau Gorffennaf a, chyn y Nadolig, darlledwyd y gyntaf o ddwy raglen a recordiwyd ar gyfer Caniadaeth y Cysegr ar Radio Cymru. Bydd ail raglen emynau Dr. Caradog yn cael ei darlledu yn gynnar ym 2006.

Mae ganddo, er yn ifanc, bellach gryn brofiad o arwain corau. Pob dymuniad da iddo yn ystod blwyddyn ei ysgoloriaeth. Bydd corau lleol a'i gôr yn Ysgol yr Alun yn elwa'n fawr o'i brofiadau ar y cwrs.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy