BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Staff Co-op y Rhos yn aros i groesawu'r seiclwyr Codi Arian i Shelter
Hydref 2005
Ymgyrch Co-op Cymru a'r Gororau i helpu darparu gwell cartrefi i filiwn o blant sy'n gorfod byw mewn tai hollol anaddas.
Roedd nifer fawr wedi ymgynnull y tu allan i Co-op y Rhos am unarddeg o'r gloch, fore Mawrth, 21 o Fedi, i groesawu chwech o'r naw a fu'n teithio ar gefn beics dros 200 0 filltiroedd o Caldicot yn Ne Cymru i Ewloe, ar Lannau Dyfrdwy, mewn tri diwrnod fel rhan o Ymgyrch Co-op Cymru a'r Gororau i godi arian at Gronfa Shelter.

Yn y llun (rhes flaen) Ruth Brown, rheolwr Co-op y rhos, ac yn y rhes gefn, mae Llinos Davies, ei dirprwy.

Cychwynnodd y daith Ddydd Llun, Medi 19 o Caldicot a gorffen yn nhref Ceintun (Kington); yna, ddydd Mawrth, Medi 20, o Geintun i Ellesmere, a dydd Mercher, Medi 21, o Ellesmere i Ewlo, gan alw yn siopau'r Co-op yn Y Waun, Rhos, Cross-lanes, Brychtyn, Bwcle cyn cyrraedd pen y daith yn Ewlo.

Roedd pob Co-op wedi bod wrthi'n casglu arian i noddi'r daith ac roedd aelodau Co-op y Rhos wedi bod yn casglu yn y siop ac wedi trefnu stondinau y tu allan i'r siop i godi mwy o arian.

Roedd dros £200 wedi'i gasglu i'w roi i drefnwyr y daith - Ailsda Logan (swyddog busnes y Co-op) a Luigi Ciaburri.

Roedd Rheolwr y Rhanbarth, Thomas Jamieson, wedi ymuno â Rheolwr Co-op y Rhos, Ruth Brown a'i Dirprwy, Llinos Davies, i groesawu'r seiclwyr.

Roedd y daith drwy Gymru a'r Gororau yn rhan o daith fwy a oedd yn cael ei chynnal ledled gwledydd Prydain, gan ddechrau o Ynysoedd Shetland yn yr Alban a gorffen ar Ynysoedd Sili.

Bydd arian Taith Miliwn o Blant Shelter yn cael ei wario ar symud plant allan o dai gwarthus a chynnig gwell cartrefi iddyn nhw.

Mae Rheolwr a staff Co-op y Rhos yn dymuno diolch i bawb a gyfrannodd at yr achos da hwn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy