BBC HomeExplore the BBC

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Cau'r Drws Am Y Tro Olaf
Chwefror 2005
Eglwys Sant Ioan Yr Efengylwyr, Rhos. 3ydd Hydref 1853 - 9fed Ionawr 2005
Llai na dwy flynedd yn ôl roedd hanes dathliadau 150 mlwyddiant Eglwys y Plwy yn ymddangos yn Nene.

Yn y rhifyn hwn rydyn ni'n cyhoeddi fod Eglwys y Plwy, Rhos wedi cau. Fore Sul, lonawr 9, 2005 cynhaliwyd y cyfarfod olaf yn Eglwys Sant loan yr Efengylwr dan arweiniad y Ficer, y Parchedig Stuart Evans.

Mae'n ymddangos fod angen gwario ar yr adeilad ond nad oedd Esgobaeth Llanelwy, ar ôl pwyso a mesur anghenion yr Eglwys yng Nghymru ym Mhlwyf y Rhos, yn fodlon rhyddhau grant tuag at gostau atgyweirio. Yn ôl a ddeallwn, mae'r adeilad wedi'i gofrestru ac felly byddai'n anodd ei werthu; prun bynnag go brin y gellid codi tai neu farchnad ar ben y beddau sy'n amgylchynu'r eglwys.

Mae Cyngor yr Eglwysi yn trafod pa ddefnydd y gellir ei wneud o'r adeilad ac mae nifer o awgrymiadau yn eael eu hystyried... ond, ysywaeth, ni ellir oedi gormod o gofio fel y mae adeiladau gweigion y pentre - yn hen ysgolion a chapeli - wedi cael eu fandaleiddio yn ddiweddar.

Ar hyn o bryd mae aelodau'r Eglwys Gymraeg yn cynnal eu gwasanaeth am 9.30 ar fore Sul ac yna, am 11.00, mae aelodau Eglwys Sant loan yn mynd yno i gynnal eu gwasanaeth hwythau yn Saesneg.

O 1404 hyd 1844, roedd pobl y Rhos yn mynd i Eglwys Rhiwabon i addoli a chael eu bedyddio a'u claddu ac ym mynwent Rhiwabon gellir gweld, hyd heddiw, nifer o enwau teuluoedd y Rhos ar y cerrig beddau.

Ond ym 1844 daeth plwyf eglwysig y Rhos i fod. Yn yr un flwyddyn agorwyd Ysgol y Wern, ysgol eglwys. Roedd swyddogion yr Hen Fam, fel y gelwid yr Eglwys Anglicanaidd, wedi gofalu cysegru'r ysgol fel y gellid cynnal gwasanaethau crefyddol ynddi. Byddai ciwrad Rhiwabon yn dod i Ysgol y Wern bob Sul i gynnal gwasanaethau.

Yna, ym 1853, agorwyd Eglwys Sant loan. Roedd wedi ei hadeiladu ar ffurf croes yn yr arddull Normanaidd; mae'n cynnwys toreth o gerfiadau cain yn arddull y cyfnod. Cost yr adeilad oedd £2,268. Poblogaeth y Rhos y pryd hynny oedd 4,000. Y pensaer oedd Thomas Penson a chloddiwyd cerrig yr eglwys o hen chwareli'r Wern.

Cynhelid gwasanaethau Cymraeg a Saesneg am yn ail â'i gilydd yn Eglwys Sant loan i ddechrau ond, ar ôl agor yr Eglwys Gymraeg (Eglwys Dewi Sant), ym 1892-3, yn Saesneg y cynhelid y gwasanaethau yn y fam eglwys ar y wern. Cwmni Douglas & Fordham fu'n gyfriol am gynllun Eglwys Dewi Sant.

Ym mis Ebrill 1912, cyflwynwyd i'r gwasanaethau yn y fam eglwys ar y Senedd fesur a amddifadai'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru o'i statws fel Eglwys Wladol ac a gymerai oddi wrthi ddeuparth ei gwaddolion. Cafodd y mesur gymeradwyaeth Tŷ'r Cyffredin ym mis Chwefror 1913. Gan i Dŷ'r Arglwyddi ei rhodd, ni ddeuai'n ddeddf heb i Dŷ Cyffredin ei basio drachefn mewn dwy sesiwn wahanol. Digwyddodd hynny ym mis Gorffennaf 1913 ac ym mis Mai 1914, a derbyniodd mesur datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru y gydsyniaeth Frenhinol ar 18 Medi 1914. Gan fod y rhyfel erbyn hynny yn 45 diwrnod oed, gohirwyd gweithredu'r ddeddf, ac ni ddaeth i rym tan 31 Mawrth 1920.

Ar 1af Mehefin 1920, cysegrwyd A G Edwards yn archesgob Cymru yn Llanelwy.

Yn dilyn datgysylltu, bu cynnydd yn ystod yn 1920au yn aelodaeth yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru; yn wir, Anglicaniaeth oedd yr enwad mwyaf yng Nghymru.

Gwelwyd cynnydd yn aelodaeth yr Eglwys ym mhlwyf y Rhos. Ym 1928 roedd 700 yn cymuno yn Eglwysi Sant Ioan a Dewi Sant y Rhos. Does rhyfedd felly fod galw am godi eglwys arall ym mhlwyf y Rhos.

Felly ym 1928, codwyd trydedd eglwys, sef Eglwys y Santes Fair, Johnstown. Oddi ar Ionawr 8, 2005, does bellach ond dwy eglwys yn y plwyf - Eglwys Dewi Sant ac Eglwys y Santes Fair, Johnstown.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy