BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nene
Adfer Parc y Ponciau Adfer Parc y Ponciau
Chwefror 2004
Mae criw bach wedi bod yn gweithio'n ddygn ers ambell flwyddyn bellach i geisio codi arian ar gyfer adfer Parc y Ponciau ac adeiladu llefydd chwarae i blant a phobl ifanc yr ardal yno.

O fewn y ddau neu dri mis nesaf, bydd Cyfeillion Parc y Ponciau yn cyflwyno cais am grant i Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae'r Cyfeillion wedi gwneud gwyrthiau i fedru cyflwyno'r cais mor sydyn gan fod y cam hwn yn cymryd misoedd ar fisoedd i'w baratoi.

Mae swyddogion Cyfeillion y Parc am ddiolch yn gyhoeddus, trwy Nene, i Mr Jonathan Price, Cyngor Sirol Bwrdeisdref Wrecsam am weithio mor galed ar y prosiect ar eu rhan. Mae Mr Price a Chyfeillion y Parc yn gobeithio mai cael cefnogaeth y rhai sy'n dosbarthu arian Treftadaeth y Loteri fydd y cam pwysig cyntaf ac os bydd y cais am arian yn llwyddiannus, bydd hyn yn agor drysau i lawer o sefydliadau eraill sy'n cynnig nawdd - er enghraifft Sportlot ac ENFYS sy'n darparu offer chwarae ac adnoddau chwaraeon a hefyd Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo.

Ffynhonnell arall yw Treth Claddfeydd Sbwriel McEvan sy'n cynnig arian i ddatblygu ardaloedd sydd o fewn pum milltir i gladdfa sbwriel a gwastraff sy'n dal i gael ei defnyddio.

Wal yr ardd goffa - cyfle i gyfrannu - prynwch fricsen!
Mae'n fwriad codi wal o gwmpas Gardd Goffa a fydd yn cael ei gosod ar y tir ar dop Yr Avenue, uwchben lle roedd y cwrt tennis, ers talwm. Y syniad yw fod pobl yr ardal yn prynu bricsen a gosod enw a dyddiad rhywun er cof, neu eich enw eich hunan arni.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri yn gefnogol iawn i'r syniad yma ac maen nhw wedi dod o hyn i gwmni sy'n gwerthu brics o ansawdd uchel iawn. Mae'n dibynnu ar faint o bobl sy'n barod i archebu bricsen, wrth gwrs, ond awgrymwyd y byddai pob bricsen ac enw a dyddiad arni yn costio rhwng £25 a £30.

Trefnu gweithgareddau
Mae nifer o weithgareddau codi arian eisoes wedi'u cynnal (cafwyd adroddiad am y Ffair Haf ar y Ponciau yn Nene, ychydig fisoedd yn ôl.) Os ydych am wybod mwy am y prosiect a Chyfeillion y Parc, cysylltwch â Mrs Jean Jones 4, Stryt y Weirglodd ar (01978) 840530


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy