BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Pabi coch Atgofion Rhyfel Hafina Clwyd
Atgofion o ddyddiau yr Ail Ryfel Byd gan Hafina Clwyd o Ruthun.
Gan ein bod ni'n byw ar fferm yn nhopie Edeyrnion yn yr hen Sir Feirionnydd, nid oedd y Rhyfel yn effeithio llawer arnom.

Yr oeddym ni'n ffodus dros ben o gymharu â thrigolion y trefi - nid oedd y bomiau'n disgyn arnom ac yr oedd yna gyflawnder o fwyd rhad ac am ddim ar gael o'r caeau a'r gwrychoedd i atodi'r dogni. Er enghraifft: cwningod a ffesantod, crabas a mafon duon a chochion, cnau a wyau sguthanod, eirin gwyllt a physgod.

Ganwyd fy chwaer a dau frawd yn ystod y rhyfel ac y mae'n rhaid bod hwn yn amser pryderus iawn i'n rhieni a'n cymdogion gan na wyddent beth fyddai'n digwydd nesaf. Y noson y ganwyd fy chwaer fis Mawrth 1941 aeth fy nhad i lawr i'r pentref ar y tractor (3 milltir) i ddefnyddio'r teliffon i gael y doctor at Mam. Yna yn ei ôl adre yn cael ei ddilyn gan gar y meddyg a char y nyrs.

Credodd ein cymydog, John Evans, Bryn Du, bod "Y Jyrmans wedi landio" a deffrodd ei deulu a mynd â nhw i'r beudy i glwydo. Peth arall a gofiaf yw i niwl trwchus ddisgyn dros yr ardal un pnawn. Yr oedd fy nhad yn gweithio yn y caeau isaf a chredodd Mam mai nwy gwenwynig oedd y niwl ac aeth i'r gwely a'i phedwar plentyn yn ei chôl gan feddwl na welai byth mo'i gŵr yn fyw eto. Bu yna lawer o chwerthin wrth gofio'r achlysur hwnnw a dim ond wedi tyfu y gwnaethom ni sylweddoli cymaint o fraw yr oedd hi wedi'i gael.

Daeth yr efaciwis i bentref Gwyddelwern o Lerpwl a Phenbedw. Nid oedd yr un plentyn yn yr ysgol (na fawr neb yn y pentre) yn medru gair o Saesneg ac nid oedd dim un o'r plant cadw'n medru gair o Gymraeg. Erioed wedi meddwl bod yna iaith arall yn bodoli! Nid wyf yn cofio llawer amdanyn nhw heblaw eu bod yn siarad iaith estron, bod ganddyn nhw lau yn eu pennau a bod yna ymladd ffyrnig rhwng bechgyn y pentre a bechgyn Lerpwl. Yn rhyfedd iawn, penderfynodd rhai ohonyn nhw aros, priodi merched lleol a magu eu plant yn Gymry.

Cofiaf un efaciwî yn arbennig - Gwen Bilson oedd ei henw ac yr oedd yn cael lloches ym Mryn Beuno hefo Mr a Mrs Ellis Roberts y cigydd. Mae gen i reswm da dros ei chofio. Ar fy ffordd i'r ysgol un bore rhoddodd Timothy Jones, Tŷ'n Llan (brawd i daid Trebor Edwards) ellygen (pear) fawr o liw'r fronfraith i mi. Ew! yr oeddwn yn edrych ymlaen at gael ei bwyta amser chwarae ac fe'i rhoddais yn fy nesg. Pan ddaeth amser chwarae yr oedd yr ellygen wedi diflannu. Nadu mawr. Gwnaed ymchwiliad ac o'r diwedd darganfod mai Gwen Bilson oedd wedi'i dwyn a'i bwyta. Cafodd gweir ac yr oeddwn yn falch.

Tua diwedd y rhyfel neu'n syth wedyn cawsom nifer o garcharorion yn gweithio ar y fferm. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn fechgyn hynaws iawn - yr wyf yn dweud 'bechgyn' yn hytrach na dynion gan bod nifer ohonyn nhw'n ifanc iawn.

Cofiaf Helmut Ruck 18 oed ac iddo golli ei dymer un bore. Yr oedd Bryn fy mrawd yn rhyw ddwyflwydd oed ac wedi dysgu gair newydd "Haul". Aeth allan i'r buarth ac at Helmut a phwyntio i'r awyr a dweud "Haul!" Credodd Helmut bod Bryn yn ei wawdio a bod rhywun wedi'i ddysgu i ddweud Heil Hitler. Gwylltiodd Helmut yn gaclwm wyllt a chafodd andros o row gan fy nhad. Cofiaf iddo hefyd wylltio un bore 1af o Ebrill pan ddywedwyd wrtho bod rhywun eisiau ei weld yn y drws ffrynt (drws nad oedd yn cael ei ddefnyddio fawr ddim) ond pan aeth i'r drws nid oedd neb yno a gwaeddodd y plant "Ffwl Ebrill!". Nid oedd yn hoffi'r jôc o gwbl.

Carcharor arall a gofiaf oedd Leopold Schneider (Llywelyn y Teiliwr yn Gymraeg!)aelod o Lu Awyr yr Almaen oedd o - bachgen golygus a chwrtais tu hwnt. Yr oedd hi'n arferiad mynd i fferm Taid a Nain yn Nhrefnant (rhwng Dinbych a Llanelwy) bob nos Nadolig ac un flwyddyn (tybed ai 1946 oedd hi?) aethom â Leo hefo ni. Cofiaf ef yn ei ffurfwisg las yn wylo, nid yn unig yn ei hiraeth, ond hefyd am ei fod yn cael ei drin fel aelod o'r teulu ac yn gwerthfawrogi croeso fy nain. Dysgodd fy chwaer a minnau i ganu 'Stille nacht, heilige nacht' yn yr Almaeneg. Bu hwn yn 'party piece' gennym am flynyddoedd!

Bu carcharor arall acw hefyd ond ddim mor gymeradwy - pawb yn eistedd rownd y bwrdd yn y gegin yn chwarae ludo a dyma fo'n rhoi ei law i fyny fy sgert. Er mai rhyw wyth oed oeddwn i, mi wyddwn nad oedd hyn yn neis ac fe neidiais fel pe bawn wedi cael fy saethu. Ond ni ddywedais air wrth neb.

Byddaf yn meddwl yn aml pa mor ffodus fu'r efaciwîs (cawsant gartrefi clyd a gofal) a'r POW's - rheiny hefyd yn cael lletygarwch a chryn dipyn o ryddid. (Hynny yw, o'u cymharu a beth a ddigwyddodd i rai o'r carcharorion Prydeinig yn yr Almaen a Siapan). Yn y rhan hon o'r byd yr oedd bywyd yn nefoedd o'i gymharu â Lerpwl a Llundain ac ni wyddem ddim am "Abertawe'n fflam".

Ni chollwyd yr un aelod o'r teulu yn y rhyfel - yn wahanol i'r Rhyfel Mawr 1914-18 pan gollodd fy Nain ei brawd ac y collodd fy nhad bedwar cefnder. Tra pery'r cof am anwyliaid, nid yw rhyfel byth yn dod i ben.

Hafina Clwyd, Rhuthun
26 Mai 2005




0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy