BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
26ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Rhuthun © Bwrdd Croeso Cymru Adnabod Ardal - Dyffryn Clwyd
Bro a gysylltir ag Owain Glyndŵr ac â llawer o ddigwyddiadau hanesyddol yw Dyffryn Clwyd. Dyma gyfle i ddod i adnabod peth o hanes y fro.

Tref Rhuthun
Saif Rhuthun yng nghesail bryniau Dyffryn Clwyd. Tref wedi ei hadeiladu ar fryn ydyw, fel Dinbych. Amddiffynfeydd oedd y ddwy dref yn wreiddiol a adeiladwyd i warchod Dyffryn Clwyd. Mae'r enw 'Rhuthun' wedi datblygu o'r ddau air 'rhudd' a 'din' ac felly'n golygu Caer Goch.

Credir fod y cyfeiriad at liw coch wedi dod o liw'r tywodfaen sydd yn y ddaear. Mae hwn i'w weld yn lliw'r adeiladau hefyd.

Mae'r elfen 'rhudd' i'w weld yn yr enw 'Llanrhudd' yn ogystal, sef yr eglwys goch. Mae'r eglwys hon i'w gweld ar gyrion tref Rhuthun a hi oedd eglwys gyntaf y dref honno.

Castell Rhuthun
Castell RhuthunUn o brif nodweddion Rhuthun wrth gwrs yw'r castell. Mae adfeilion y castell ymhlith yr hynaf yng Nghymru. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1277 ar orchymyn Edward I pan roddodd gantref Dyffryn Clwyd i Ddafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn.

Ond yn 1282 dechreuodd Dafydd wrthryfel yn erbyn Edward. Canlyniad hyn oedd i Ddafydd orfod trosglwyddo'r cantref a'r castell i Reginald de Grey, Ustus Caer. Bu de Grey a'i deulu mewn grym am dros ddau gan mlynedd a throdd Dyffryn Clwyd yn gantref Seisnig yn y cyfnod hwn.

Ar Fedi 18fed 1400 ymosododd Owain Glyndŵr ar dref a chastell Rhuthun. Dewisodd ymosod ar Ruthun oherwydd ei phwysigrwydd fel canolfan gyfreithiol. Wedi hyn dim ond y castell ac ychydig o adeiladau oedd yn dal i sefyll.

Yn 1646 bu gwarchae ar y castell am 11 wythnos a chafodd ei ddymchwel. Yn 1826 daeth y teulu Cornwallis-West i fyw yma a bu'r teulu yn byw yma hyd 1921.Yn ddiweddarach daeth y castell yn ysbyty enwog, ond heddiw gwesty moethus sydd yma.

Ond nid y castell yw'r unig nodwedd hynafol yn y dref. Roedd Sgwâr Sant Pedr yn bwysig yn y Canol Oesoedd. Yma roedd y tafarnau ac yma y câi drwgweithredwyr eu dienyddio. Bu'r dienyddiad olaf yn 1679, pan grogwyd offeiriad Pabyddol. Cafodd ei dynnu a'i chwarteru.Gwelir sawl tystiolaeth o bwysigrwydd cyfreithiol Ruthun yn y dref heddiw.

Carchar RhuthunYn Stryd Clwyd roedd carchar Rhuthun a adeiladwyd yn 1775 i wasanaethu Sir Ddinbych. Yn 1886 adeiladwyd bloc Fictoraidd yng nghefn y carchar wedi ei seilio ar gynllun Pentonville. Bu'r dienyddiad olaf yn 1903 a chaewyd y carchar yn 1916.

Bu Coch Bach y Bala yn y carchar hwn, ond llwyddodd i ddianc. Pan oedd carcharorion wedi llwyddo i ddianc, galwyd bechgyn o Ysgol Rhuthun i'w hymlid.

Yn y dref hefyd gellir gweld yr hen lys barn. Dyma adeilad deniadol a adeiladwyd yn nechrau'r 15fed ganrif. Cynhaliwyd brawdlysoedd yn Rhuthun am flynyddoedd cyn iddynt gael eu disodli gan Lys y Goron, Yr Wyddgrug.

Nodwedd hynafol arall yw'r garreg 'Maen Huail' y tu allan i Exmewe Hall, lle mae Banc Barclays erbyn hyn. Mae sôn mai ar y garreg hon y dienyddiodd y Brenin Arthur ŵr oedd yn cystadlu ag ef am ferch.

Yn ogystal mae'n rhaid cyfeirio at yr adeilad lle mae Siop Nain heddiw. Mae'n dyddio o'r 15fed ac yma yr argraffwyd Hen Wlad fy Nhadau, yr Anthem Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1860 gan yr argraffydd Isaac Clarke.

Pentrefi'r fro
Mae'r ardal yn cynnwys nifer o bentrefi Dyffryn Clwyd yn ogystal â threfi Rhuthun a Chorwen.

Mae'n ardal eang ac yn ymestyn o Langwyfan a Llandyrnog yn y gogledd i Gorwen a Cherrigydrudion yn y de.

Dechreuwn yn y gogledd felly ac yn Rhewl, pentref sydd wedi ei leoli ar lannau afon Clywedog, i'r gogledd o Ruthun ar ffordd Dinbych. Yma gellir gweld Tramwyfa'r Foneddiges Bagot sydd i fyny yng Ngheunant Clywedog. Dyma ffordd breifat tirfeddianwyr lleol ac fe âi'r goets Edwardaidd ar ei hyd. Erbyn hyn mae'n un o nodweddion hyfrytaf y dyffryn. Tafarn Drover's Arms

Dau adeilad diddorol yn Rhewl yw'r capel a'r dafarn leol. Yn y capel hwn ers talwm gellid clywed pregethau'r enwog Emrys ap Iwan. Roedd y Drovers Arms wedyn yn fan gorffwys i borthmyn a'u hanifeiliaid ar ôl teithiau hir.

I'r gogledd o'r pentref mae Pont Rhyd y Gwaed. Yn ôl chwedl fe lifodd y rhan hon o'r afon yn goch gyda gwaed unwaith pan wrthdrawodd Brenhinwyr a Seneddwyr yn ystod y Rhyfel Cartref.

Ychydig filltiroedd o Rhewl mae pentrefi Llangynhafal a Llandyrnog. Mae Llangynhafal wedi cadw'i gymeriad gwledig. Pentref bychan ydyw gydag eglwys a hen dŷr ysgol. Yn Llandyrnog ar y llaw arall gellir gweld olion diwydiannol gan fod yma hufenfa ac mae'r adeiladau mawrion i'w gweld o gryn bellter.

Yr olygfa o Foel Famau

I'r dwyrain o Langynhafal mae bryngaerau Moel Arthur a Moel Fenlli ac wrth gwrs Moel Famau. O gopa Moel Famau gellir gweld golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Clwyd yn ogystal ag Eryri, Cader Idris, yr Arenig a'r Berwyn. Mae'r mynydd yn codi 1,864 troedfedd uwchben lefel y môr.

Mae Moel Fenlli a Moel Famau'n cyfarfod ym mwlch Pen Barras, roedd hwn yn rhan o'r hen ffordd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug. Ar hyd y ffordd yma roedd y goets fawr a'r Post Brenhinol yn teithio.

Ar gopa'r mynydd mae tŵr a godwyd yn 1810 i ddathlu teyrnasiad Siôr III. Disgynnodd rhan helaeth o'r tŵr mewn storm yn 1896. Rhaid nodi hefyd fod Clawdd Offa yn rhedeg trwy Barc Gwledig Moel Famau.

Yng nghesail y bryniau hyn mae pentrefi Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd a Llanarmon-yn-Iâl. Pentrefi wedi datblygu o amgylch eglwysi unwaith eto. Yn Llanarmon-yn-Iâl mae beddrod Gruffydd ap Llywelyn o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Tua'r de yn agos i'r A5 mae nifer o bentrefi gwledig. Un o'r rhain yw Llanfihangel Glyn Myfyr ger Cerrigydrudion. Mae chwedl ddiddorol yn gysylltiedig â'r pentref hwn, ardal y canwr Trebor Edwards a'r diweddar John Edwards, nofelydd a chyfieithydd. Dyma chwedl y fuwch frech oedd yn byw yn fforest Clocaenog gerllaw. Roedd y fuwch yn darparu llefrith i drigolion yr ardal ond fe'i twyllwyd gan wrach, does dim rhyfedd i'r fuwch adael yr ardal a mynd i diroedd eraill.

Wrth deithio tua'r de wedyn mae pentrefi gwledig Llangwm a Betws Gwerful Goch. Mae Llangwm yn enwog am ei haelwyd a sefydlwyd ym mis Ebrill 1941 a sydd wedi bod y cystadlu'n frwd mewn eisteddfodau dros y blynyddoedd. Mae Betws Gwerful Goch wedi ei enwi ar ôl y Dywysoges Gwerfyl o Feirionydd oedd yn byw yn y ddeuddegfed ganrif. Roedd ganddi wallt coch a hi oedd wyres y Brenin Owain Gwynedd.

Corwen ac Owain Glyndŵr
Cofgolofn Owain Glyndŵr

Yn yr ardal hon hefyd mae tref Corwen ac fel Rhuthun mae iddi ddigon o hanes. Gwelir nifer o adeiladau diddorol ar y sgwâr sydd wrth gwrs yn fan cyfarfod i drigolion lleol. Ar y sgwâr mae hen adeilad hardd banc y Nat West, gwesty Owain Glyndŵr a chofgolofn i'r arwr cenedlaethol hwn.

Ceir nifer o bethau yng Nghorwen i goffáu Owain Glyndŵr. I'r dwyrain o Gorwen saif Tomen Owain Glyndŵr. Mae hwn yn rhan o'r adeilad fu unwaith yn gartref iddo. Yn ogystal gellir gweld olion Sycharth, y llys enwog y canodd Iolo Goch iddo a chartref Owain Glyndŵr ger Llansilin.

Yn ogystal mae cysylltiad pwysig rhwng Owain Glyndŵr ag Eglwys Corwen, a saif y tu ôl i sgwâr y dref. Uwchben drws gogleddol yr eglwys mae croes ar ffurf cyllell a elwir yn 'Dagr Glyndŵr'. Yn ôl y sôn gwnaethpwyd hwn pan daflodd yr arwr ei arf o Fryn Pen-y-Pigyn y tu ôl i'r eglwys.

Eglwys arall yng Nghorwen yw Eglwys Carrog. Flynyddoedd yn ôl fe'i golchwyd gan lif mawr wedi i afon Dyfrdwy newid ei llwybr. Mae'r eglwys newydd uwchben yr afon sydd erbyn hyn dan reolaeth.

Ni ellir gadael Corwen heb gyfeirio at y pafiliwn enwog lle cynhelir nifer o gyngherddau pwysig. Dyma un o neuaddau mwyaf gogledd Cymru a safle cyntaf Eisteddfod yr Urdd. Bob blwyddyn cynhelir cystadleuaeth cneifio defaid yn y pafiliwn gan ddenu cystadleuwyr byd enwog o leoedd mor bell ag Awstralia a Seland Newydd.

  • Cliciwch yma i ddarllen sylwadau pobl leol am dref Rhuthun ac i gyfrannu eich sylwadau eich hun.


  • Cyfrannwch

    Mared a Hana
    Ma Rhuthun yn andros o le da i gerdded gan bod yna elltydd, rydem yn gorfod cerdded i fyny bob dydd ar ein ffordd i ysgol Brynhyfryd. Mae Rhuthun hefyd yn dda am siopau. Yn ogystal â pethau i wneud a'r URDD.
    Tue Apr 7 00:41:04 2009

    Dyfrig Evans
    Dwi yn meddwl bod Rhuthun yn le hardd fy hun. Mae yn werth i'w ymweld a.
    Wed May 14 22:09:17 2008

    Jones
    Mae Rhuthun yn dref cartrefol iawn ac hardd yn enwedig o hanesyddol a digon bethau i wneud yma.
    Thu May 1 14:24:16 2008

    Fflur o Ruthun
    Ma' Rhuthun yn ffantastic. Tref Gymraeg, yn llawn o bobl cymdeithasol, llawn hwyl. Mae gan y dref nifer o atyniadau diddorol, megis y carchar, y castell a llawer iawn mwy. Dwi 'di byw yma ers 12 mlynedd! Mae'n le gwych!
    Thu Apr 17 21:43:42 2008

    Gerwyn Evans o Rhuthun
    Rwyf yn byw yn Rhuthun ac yn meddwl bod hi yn dref hardd a diddorol.
    Tue Feb 5 21:10:28 2008

    Sera Pierce
    Rwyf yn dod o Rhuthun ac rwyf yn meddwl fod Rhuthun yn lle hardd ac yn distaw ac haneswyddol
    Thu May 10 17:30:28 2007

    Chloe o Rhuthun
    Rwyn hoffi Rhuthun yn fawr.Maer llawer o lefydd yn Rhuthun yn hanesyddol,a dwin dysgu llawer oi gweld.Mi roedd yr eisteddfod yn y fro flwyddyn dwethaf ac roedd pawb yn ymarfer fel slecs.
    Wed May 9 20:14:43 2007

    Cara o Ruthun
    Mae Rhuthun yn dref hardd a llawer o adeiladau hen fel Castell Rhuthun, y cloc a llawer mwy. Mae'r Eiddsteddfod yn dod i'r dref - fellwch dewch ar wyliau i Rhuthun dros yr haf.
    Wed May 10 18:18:32 2006

    Undeg o Rhuthun
    Mae Rhuthun yn hardd ac yn wych fel tref i mi ac yn enwedig gan bod yr eisteddfod yn dod i'r fro, mae llawer o blant o fy ysgol i sef Ysgol Pen Barras yn brysur yn ymarfer at bethau fel sioe gerdd owain glyn dwr a chor mawr. Felly cofiwch ddod i ein gwylio, rydem yn wych!
    Sat May 6 17:17:13 2006

    Robert Jones
    Dwi yn hofffi Rhuthun gan bod fi'n mynd i ysgol yna ac mae'r llyfrgell yn dda i fynd i ar fore Dydd Sadwrn.
    Thu Apr 27 16:24:40 2006

    Sion o Rhuthun
    Rwyf yn dod o Rhuthun ac rwy'n meddwl ei fod yn saff,distaw ac hyfryd.
    Thu Feb 3 19:45:24 2005


    Oes gennych chi sylw am hanes yr ardal hon, neu oes gennych hanes lleol arall i'w rannu? Rhowch wybod inni!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy