BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Castell Rhuddlan
Os hoffech chi gyhoeddi eich lluniau chi, anfonwch nhw at: gogleddddwyrain@bbc.co.uk

Castell Rhuddlan
Golygfa o Gastell Rhuddlan ar lan yr afon Clwyd gan Lyndon Wray o Bensarn, Abergele next page
1  2  3  4  5  6  7  8 

Un o gestyll Edward 1af ydy'r castell mawreddog yn Rhuddlan a gododd yn ystod ei ymgyrch fawr i goncro Cymru. Adeiladodd y castell yma rhwng 1277 a 1282 i amddiffyn y dref newydd a grëwyd i'r Saeson gerllaw ac i gryfhau ei reolaeth ar yr ardal. Mae'n debyg fod byddin y Cymry fod wedi difrodi'r castell ar un adeg oherwydd bu angen ei atgyweirio yn 1285.

Yn ôl traddodiad roedd gan dywysog Gwynedd, Gruffudd ap Llywelyn, balas gerllaw ar safle sy'n cael ei alw'n Twt Hill heddiw. Dilynwyd y castell Cymreig hwnnw gan gastell Normanaidd.

Mae enghraifft o orchest beirianyddol ger castell Edward. Er mwyn i gyflenwadau gyrraedd y castell, cloddiwyd camlas ddofn ar hyd afon Clwyd i'r môr dros ddwy filltir i ffwrdd er mwyn i longau allu dod at y castell. Byddai'r llanw yn creu doc (llun 5), lle gallai llongau ddadlwytho drwy'r porthdy.

Yn 1284, cyhoeddodd Edward Statud Rhuddlan yn y castell lle cyhoeddai bod Cymru dan reolaeth Lloegr ac yma y cyhoeddodd y byddai'n gwneud ei fab, a anwyd yng Nghastell Caernarfon, yn dywysog Cymru.

Mae'r safle dan reolaeth Cadw.



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy