BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cadeirlan Llanelwy Cadeirlan Llanelwy
Cadeirlan Llanelwy yw mam eglwys Esgobaeth Llanelwy, un o chwech esgobaeth yng Nghymru.

Defnyddiwyd y safle hwn fel man addoli ers y flwyddyn 560 O.C. pan ffurfiwyd cymuned fynachaidd yma gan Sant Cyndeyrn, Esgob Ystradclud (neu Sant Mungo) yn yr Alban.

Ei olynydd fel Esgob yn 570 O.C. oedd Asaph a rhoddodd ei enw i'r ddinas a'r esgobaeth.

Y mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 13 a'r 14 ganrif ac mae'r bensaernïol syml yn urddasol a thawel.

Ffenestri Lliw:
Dinistriwyd y ffenestri lliw hynafol yn ystod y Rhyfel Cartref yn yr 17 ganrif. Y mae'r ffenestr ddwyreiniol yn dyddio o 1864 er cof am Mrs Felicia Hemans - awdures 'The boy stood on the burning deck.'

Y mae'r ffenestr orllewinol er cof am Archesgob cyntaf Cymru, A.G. Edwards, a fu'n Archesgbob o 1920 hyd 1934 a sydd wedi ei gladdu yn Llanelwy. Mae ffenestr liw arall yn coffau teuluoedd y rhai a fu'n cynorthwyo gydag adfer y Gadeirlan yn yr 18fed ganrif.

To:
Y mae'r to hwn yn fwy diweddar na gweddill yr adeilad ac fe'i hadferwyd ym 1968. Cerflun 'The Naked Christ' gan Michele Coxon

Bwâu a'r Pileri:
Y mae'r rhain yn syml ac yn arw eu cynllun. Noder y pileri a ffenestri'r nenfwd sy'n dyddio o 1403.

Y fedyddfan:
Dinistriwyd hon yn ystod y Rhyfel Cartref ac fe'i defnyddiwyd ar y pryd fel cafn dwr ar gyfer ceffylau milwyr Cromwell. Erbyn hyn fe'i hadferwyd yn gyfan gwbl.

Y Gist Haearn:
Dyma waith y gof nodedig, Robert Davies o Groes y Foel ger Wrecsam, ac mae'n dyddio o 1738. Ar un adeg fe'i defnyddiwyd i gadw llestri'r Eglwys ond yn awr fe'i defnyddir fel cist i dderbyn rhoddion ymwelwyr.

Y Pulpud:
Daw'r pulpud o'r 19fed ganrif ac ma'n coffau y cyn esgob - Vowler Short (1846-1870) ac mae ei fedd ger y drws gorllewinol.

Cofgolofnau (ar yr ystlys dde):
Does dim gwybodaeth am y llechfaen coffaol hwn ond gwelir llechfaen gyda choffhad tebyg yn Abaty Glyn y Groes ger Llangollen. Cyfeiria'r delw orweddog at yr Esgob Anian II (Esgob Llanelwy 1268-1293).

Ef a adeiladodd y Gadeirlan wedi iddi gael ei dinistrio gan filwyr Edward I. Heb fod ymhell i ffwrdd gwelir coflech o waith Jonah Jones er cof am HM Stanley - a hanai o Sir Ddinbych, ac ef a ganfu Dr Livingstone yn Affrica.

Y Presbyteri:
Ar yr ochr ddeheuol gwelir cadair yr Esgob sydd hefyd yn gofeb i'r Esgob Beveridge. Y mae'r seddau cerfiedig cain yn dyddio o 1482.

Sylwer ar wyneb ar un ohonynt (ar yr ochr ddeheuol) efallai mai wyneb y Pen Cerfiwr yw. O dan Gadair yr Esgob y mae man claddu'r Esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg yn 1588 ac Esgob Llanelwy 1601-1604. Adferwyd y rhan yma gan Gilbert Scott yn 1869-1875.

Y Reredos (y tu ôl i'r Brif Allor):
Gwaith o'r 19fed Ganrif a wnaed o Alabastr o Swydd Derby. Sgrîn neu addurn tu ôl i'r allor mewn eglwys yw'r reredos.

Capel y Cyfieithwyr: Capel er cof am y dynion a fu'n gyfrifol am gyfieithu'r Ysgrythur i'r Gymraeg yn 16 a 17 ganrif.

Y Groes Ddeheuol: Yn dyddio o 1336. Mae llun o'r Forwyn Fair arno, ac efallai wedi'i ysbeilio yn ystod y frwydyr gydag Armada Sbaen. Mae cilfach yn y mur - dyma'r Drysorfa. Bydd y Groes Ddeheuol a'r Drysorfa yn cynnwys arddangosfeydd dros dro yn ystod y flwyddyn.

Y tu allan i'r Eglwys Gadeiriol: Sylwer fod dau fath o garreg wedi eu defnyddio. Carreg galch o chwareli Cefn a thywodfaen wedi ei naddu yn Fflint neu Dalacre.




0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy