BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Mae'r plât toredig hwn yn dyddio o'r cyfnod ar ôl sgraffitio. © Amgueddfa Treftadaeth Bwcle  Bwcle - Llestri a Llafar
Daeth tref Bwcle yn Sir Fflint, sy'n gorwedd ar fryn yn edrych dros foryd yr Afon Ddyfrdwy, yn enwog yn y 18ed a'r 19eg Ganrif am ei diwydiannau mwyngloddio a gwneud briciau, ac hefyd am ei chrochendai.
Yn lleol mae tref Bwcle hefyd yn enwog am ei thafodiaith arbennig, a ddatblygodd o'r cyfuniad o dafodieithoedd amryfal y gweithwyr a symudodd i'r ardal, ac o'r Gymraeg a siaradwyd gan y bobl leol.

Mae Bwcle heddiw yn dref o tua 15,000 o bobl, a bu rhyw fath o gymuned yma ers yr Oes Efydd. Cafodd y dref ei dogfennu am y tro cyntaf ym 1284 fel 'porfelaeth Maenor Ewlo', a thua'r adeg yma cofnodwyd cloddio am lo a gwneud llestri yn yr ardal.

Mae Bwcle wedi ei amgylchynu gan nifer o feysydd glo, a'r rheiny mor agos at yr wyneb nes ei bod yn hawdd eu cyrraedd heb gloddio siafftiau dwfn. Roedd modd hel y glo mewn tyllau bas gan godi'r cynnyrch mewn basgedi. Daethpwyd o hyd i glai llosg caled wrth ymyl y caenau glo, hefyd, a byddai hwn yn cael ei gasglu ar ôl cael ei hindreulio yn yr elfennau. Daethpwyd o hyd i glai potiau gludiog ar y wyneb ac mewn caeau cyfagos.

Roedd y cyfuniad hwn o gleiau yn berffaith i wneud llestri pridd yn rhad. Roedd plwm yn elfen bwysig arall mewn gwydro'r llestri, a chafodd hwn ei gloddio ers cyfnod y Rhufeiniaid yn Helygain a Rhosesmor gerllaw.

Cynnyrch y dre yn mynd yn bell
Roedd Bwcle mewn safle gwych i allforio nwyddau, gan fod sawl nant yn tarddu yng nghyffiniau'r dref, gan lifo wedyn i Foryd yr afon Ddyfrdwy. Ffurfiodd y nentydd hyn sianeli yn y tywod, ac ar lanw uchel gallai llongau hwylio i fyny'r rhain, a chasglu eu llwythi o lestri pridd a glo cyn dychwelyd i'r môr.

Roedd y crochenwaith hefyd yn cael ei allforio i farchnad Caer ar hyd y 'Filltir Fudur' - yr enw lleol am y ffordd o Gaer i Fwcle. Wedi 1866, cafodd ei gludo ar y rheilffyrdd i weddill Prydain.

Denodd diwydiannau Bwcle weithwyr ymfudol o'r 12ed ganrif ymlaen. Ymhlith y rhai cyntaf oedd trefedigaeth o fwynwyr a chrochenwyr a oedd yn byw ymhlith y Cymry brodorol ar Fynydd Bwcle. O gael eu taflu at ei gilydd fel cymdogion a chydweithwyr mewn man anghysbell, datblygodd pobl Bwcle eu tafodiaith eu hunain a oedd yn Saesneg yn bennaf, gan fenthyg nifer o eiriau ac ynganiadau Cymraeg.

Roedd cloddfeydd, gweithiau briciau a chrochendai teuluol wedi eu hen sefydlu erbyn cyfnod Elizabeth I, a thros y blynyddoedd dechreuodd Bwcle ddenu mwy o bobl i ymgartrefu yn yr ardal.

Ymfudwyr yn ymdoddi
Ym 1737, cychwynnodd Jonathan Catterall y gwaith 'Buckley Firebrick', a dynnodd bobl i mewn o leoedd mor bell â Dyfnaint, Cernyw ac Iwerddon, yn ogystal â'r siroedd cyfagos - Sir Gaer, Swydd Stafford, Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog.

Dechreuodd tafodiaith Bwcle ddatblygu trwy fod cenedlaethau o fewnfudwyr a brodorion yn benthyg geiriau ac ymadroddion oddi wrth ei gilydd, gan greu geirfa a oedd yn unigryw i'r ardal.

Yn ei lyfr 'Talk of My Town' (1969) rhoddodd Dennis Griffiths astudiaeth o dafodiaith Bwcle, gan restru nifer o'r geiriau a'r ymadroddion a oedd yn dal yn fyw yn y cof, er enghraifft:

"Above a bit" - Cryn dipyn, sylweddol
"Chancechile" - Plentyn anghyfreithlon
"Kabe" - Cwyno
"Llechy" - Ffug; cynffongar; credadwy (Cymraeg: "llechu" )
"O'er the 'ills - Roedd "send 'im o'er the 'ills" yn golygu "anfon ef i Wallgofdy Dinbych"
"Sennabund" - Yn rhwym

Yn y 19eg ganrif, parhaodd pobl o'r tu allan o siroedd y gororau a Swydd Stafford yn symud i mewn i'r ardal. Ond erbyn hyn roedd prif ddiwydiannau Bwcle yn dechrau wynebu anawsterau. Wrth gloddio am lo, gwelwyd bod nifer o'r gwythiennau wedi eu disbyddu, a bu angen cloddio am lo mewn mannau tipyn dyfnach.

Y llwyth olaf
Roedd masgynhyrchu llestri a dysglau enamel, a datblygiad y system rheilffordd, a wnaeth y nwyddau hyn yn haws eu cael, yn dechrau bygwth busnesau teuluol llestri pridd Bwcle. Effaith y ddau Ryfel Byd oedd i dynnu gweithwyr i ffwrdd o Fwcle i'r lluoedd arfog. Lleihaodd y nifer o grochendai teuluol, nes gadael dim ond dyrnaid.

Parhaodd rhai crochendai fel Crochendy Hayes, a sefydlwyd ym 1740, i gynhyrchu crochenwaith Bwcle gan barhau yn eiddo i'r un teulu nes iddo gau yn y 1940au. Penderfynodd eraill, fel Crochendy Powell, y Crochendy mwyaf ym Mwcle hyd 1914, i newid eu llinell gynhyrchu i weithio mewn peirianneg a phlastigau.

Roedd Crochendy Sharret, wedi newid ei enw i 'The Art Pottery Co.' ac wedyn i 'J. Lamb & Sons' , ond fe gafodd ei gau yn gynnar yn y 1940au. Wrth i'r gwaith gau, fe adawyd un odyn o grochenwaith heb ei grasu. Daeth mab y perchennog yn ôl o'r rhyfel ym 1946, ac fe daniodd yr odyn gan grasu'r crochenwaith oedd ar ôl. Wedi iddo gael ei grasu, gwelwyd ei fod o ansawdd ardderchog - a dyna oedd y llwyth olaf o grochenwaith i gael ei gynhyrchu ym Mwcle.

Yn y cefn gwlad o gwmpas Bwcle bu cyfuniad gwerthfawr o adnoddau naturiol a gynhaliodd ddiwydiant crochenwaith y dre, a'i diwydiannau mwyngloddio a briciau am dros 500 mlynedd. Er i'r diwydiannau yma ddirywio oherwydd masgynhyrchu mewn mannau eraill, mae'r etifeddiaeth yn parhau yn y dafodiaith sy'n dal i gael ei chofio a'i siarad heddiw.



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy