BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Euros Bowen
Euros Bowen

Ganwyd: 1904

Magwyd: Treorci

Addysg: Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, Colegau Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac Abertawe, Colegau Mansfield a'r Santes Catrin yn Rhydychen


Bardd toreithiog - a thywyll

Un o feirdd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif oedd Euros Bowen, yn enwedig yng ngolwg ei gyd-feirdd a edmygodd ei ymroddiad i'w grefft a'i feistrolaeth o'r ddelwedd fel hanfod barddoniaeth.

O'r dechrau cefnodd ar draddodiad 'barddoniaeth ffotograffig' a'r arfer o ddefnyddio delweddau fel addurniadau yn hytrach nag fel gwir gyfrwng mynegiant.

Credai na ddylai barddoniaeth fod yn fodd i draethu syniadau ac na ddylid bychanu beirdd sydd yn telynegu am fyd natur.

Er hynny, ysgrifennodd rai o gerddi mwyaf astrus yr iaith.

Fe anwyd Euros Bowen ym 1904 yn Nhreorci yn y Rhondda, yn fab i weinidog Anghydffurfiol, ac yn berthynas i Ben Bowen; mae Geraint Bowen, yntau'n fardd, yn frawd iddo.

Ei urddo'n offeiriad

Cafodd ei addysg yn y Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, yng Ngholegau Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac Abertawe, ac yng Nholegau Mansfield a'r Santes Catrin yn Rhydychen.

Roedd yn aelod o Gylch Cadwgan yn ystod y pedwar degau.

Wedi curadaeth yn Wrecsam, Sir Ddinbych, fe'i gwnaed yn rheithor Llangywair a Llanuwchllyn ger Y Bala yn Sir Feirionnnydd.

Dechreuodd farddoni yn ystod gaeaf garw 1947, ac yn yr un cyfnod sefydlodd y cylchgrawn Y Fflam.

Yn y flwyddyn canlynol enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol, ac eto ym 1950.

Ym 1963 methodd ei awdl 'Genesis' ag ennill y Gadair am ei bod yn rhy ddyrys i ddau o'r beirniaid, ac o hynny ymlaen roedd yr ansoddair 'tywyll' yn gysylltiedig â'i farddoniaeth.

Fflyd o gyhoeddiadau

Bu Euros Bowen yn eithriadol o doreithiog fel bardd. Dyma deitlau ei gyfrolau: Cerddi (1958), Cerddi Rhydd (1961), Myfyrion (1963), Cylch o Gerddi (1970), Achlysuron (1970), Elfennau (1972), Cynullion (1976), O'r Corn Aur (1977), Amrywion (1980), Dan Groes y Deau (1980), Masg Minos (1981), Gwynt yn y Canghennau (1982), O Bridd i Bridd (1983), Goleuni'r Eithin (1986), Buarth Bywyd (1986), Oes y Medusa (1987), Lleidr Tân (1989) a Dathlu Bywyd (1990).

Roedd yn hyddysg yn yr ieithoedd clasurol. Cyfieithodd o'r iaith Roeg ddwy ddrama gan Sofffocles am Oedipus, sef Oidipos Frenin (1972) ac Oidipos yn Colonos (1979), ac Electra (1984).

O'r Lladin cyfieithodd Fugeilgerddi Fyrsil (1975), ac o'r Ffrangeg ddetholion o waith y Symbolwyr, sef Beirdd Simbolaidd Ffrainc (1980).

Bu Euros Bowen yn arbrofwr diofn a chyson. Un o'i amcanion oedd priodi'r gynghanedd â dulliau newydd o fynegiant, ac yn hyn o beth fe'i gwelwyd gan rai yn etifedd i T. Gwynn Jones.

Mae nifer o'i gerddi ar ffurf uned fydryddol a elwir ganddo yn 'ugeined', ei ddyfais ei hun, ac mewn rhai eraill mae'n diosg y llinell ac yn traethu'n rhythmig mewn paragraffau.

Adwaith ffyrnig

Roedd yn arddel ei hun yn fardd Sacramentaidd yn hytrach na bardd Symbolaidd - hynny yw, rhyw fath o offeiriad yn hytrach na proffwyd neu dysgawdwr.

Iddo ef, trysorfa delweddau oedd byd natur.

Serch hynny, mae ei ddull o 'ddelweddu'r meddwl' yn peri anhawsterau i rai o'i ddarllenwyr a bach iawn yw'r nifer sydd yn deall ei waith yn llawn.

Roedd Euros Bowen wastad yn barod i drafod ei gelfyddyd ac i ddadlau yn ei gylch.

Adweithiodd yn ffyrnig i astudiaeth o'i waith gan Alan Llwyd, gan ateb yn ôl yn ei gyfrol Trin Cerddi (1978).

Yn ddyn ffraeth ei farn ac yn fyddar tua diwedd ei oes, roedd yn aelod brwd o Gymdeithas Owain Cyfeiliog yn nhref Wrecsam, lle roedd ganddo gysylltiadau â chwmni o fragwyr, a lle bu farw ym 1988.

Meic Stephens


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy