BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bywyd Cyhoeddus
Syr Richard Clough
Syr Richard Clough

Ganwyd: c. 1530

Magwyd: Dinbych


Masnachwr llwyddiannus a alwyd 'Y Gŵr Mwyaf Cyflawn'

Disgrifiwyd Sir Ddinbych yn oes y Tuduriaid a'r Stiwartiaid fel "pwerdy Cymru'r Dadeni", ac fe ddaeth un o'i meibion Richard Clough, yn ffigwr hanesyddol nodedig.

Yn fasnachwr llwyddiannus ac entrepreneuraidd , roedd Clough yn un o nifer o ddynion a gymerodd fantais o'r cyfleon newydd i Gymry yn Llundain yn dilyn y Ddeddf Uno yn 1536. Cafodd y Ddeddf ei chynllunio i uno'r Saeson a'r Cymry ar ôl canrifoedd o oresgyn a gwrthdaro. Bwriad y Tuduriaid oedd gwneud un genedl o bobl y ddwy wlad, i gyd yn siarad yr iaith Saesneg.

Gwreiddiau dinod
Cychwynnodd stori Clough yn Ninbych yn gynnar yn y 1530au. Ef oedd pumed mab, ac ieuengaf, i wneuthurwr menig. Daeth yn aelod o'r côr yn Eglwys Gadeiriol Caer, a mynychodd y 'Kings School' a sefydlwyd gan Harri'r wythfed. Yno, yn fuan iawn, daeth ei ddawn canu a'i ddeallusrwydd craff at sylw noddwyr dylanwadol.

Yn ei lyfr 'Worthies of England' (1662), ysgrifennodd yr hanesydd blaenllaw, Thomas Fuller: "Some were so affected by his singing therein, that they were loath he should lose himself in empty air (church musick beginning then to be dis-countenanced) and persuaded, yea, procured his removal to London".

Marchog ai Peidio?
Yn ei ugeiniau cynnar, aeth Richard ar bererindod grefyddol i Jerwsalem, lle y cafodd ei urddo'n Farchog y Beddrod Sanctaidd - hyn sy'n egluro'r 'Syr' a atodir i'w enw weithiau. Mae'n debyg na ddefnyddiodd y teitl ar ôl i'r Frenhines Elizabeth gael ei choroni ym 1558, gan nad oedd y frenhines yn cymeradwyo arwisgiadau ac anrhydeddau o wledydd tramor; er hynny, roedd bathodyn yr urdd - y pum croes - ar ôl hynny'n cael ei gario ganddo ar ei arfau.

Masnachwyr a Marchnadoedd
Yn ôl yn Llundain, aeth Richard i weithio i Syr Thomas Gresham fel 'masnachwr' neu reolwr, a chafodd fynediad i Gwmni'r Mercers - hen Urdd o Fasnachwyr, oedd yn allforio defnyddiau gwlân ac yn mewnforio defnyddiau moethus. Gresham, masnachwr ac ariannwr yn ei rinwedd ei hun, oedd cynrychiolydd ariannol arbennig y Frenhines Elizabeth ar y cyfandir.

Roedd masnach Gresham a Clough yn aml yn mynd â nhw dramor, ac yn 1552, symudodd Clough i Antwerp, prifddinas fasnachol Gogledd Ewrop. Yn Antwerp oedd y banc mwyaf prysur a phwysig yng Ngogledd Ewrop, yn delio â masnach rhwng Lloegr, Sbaen a'r Iseldiroedd. Priododd Clough ferch leol, Catherine Muldart o Antwerp, a chafodd fab, a etifeddodd ran o eiddo'i dad yng Ngogledd Cymru yn ddiweddarach.

Roedd busnes Clough ei hun yn ffynnu, ac fe gasglodd ffortiwn sylweddol. O dan ddylanwad Gresham, fe fuddsoddodd yn helaeth mewn tiroedd y Goron, ac fe esgorodd ei weithgareddau ar y dywediad, a oedd ar un adeg yn enwog yn Ninbych - 'Efe a aeth yn Clough', gâi ei briodoli i unrhyw un a gasglai cryn gyfoeth. Disgrifiodd bardd Cymreig o'r cyfnod ei lwyddiant cyflym fel "Faen tros Iaen" (mor gyflym â charreg dros rew).

Parhaodd Clough i weithio ar ran Gresham, ac o'r herwydd ar ran y Frenhines, wrth drafod benthyciadau ac wrth smyglo arian, arfau a nwyddau tramor yn ôl i Loegr.

Enillodd llwyddiant Clough yn y materion hyn ymddiriedaeth a hyder ei gyflogwr, ac ysgrifennai Clough ato'n aml ac yn faith. Byddai ei lythyrau'n llenwi 20 tudalen wrth iddo ddisgrifio nid yn unig y manylion masnachol, ond hefyd roi sylwebaeth ar ddigwyddiadau lleol megis angladdau swyddogol, neu wyliau. Byddai'r llythyrau hyn, pan gaent eu pasio ymlaen gan Gresham, yn rhoi i Syr William Cecil, goruchwyliwr casglu gwybodaeth gwleidyddol cyntaf y Frenhines, wybodaeth amhrisiadwy yn ymwneud â'r Iseldiroedd.

Y Gyfnewidfa Frenhinol
Ym Mis Rhagfyr 1561, ysgrifennodd Clough at Gresham yn awgrymu y dylid adeiladu cyfnewidfa i fasnachwyr yn Llundain, tebyg i'r 'Bourse' yn Antwerp, gan fod masnachwyr tramor ac o Loegr yn aml yn gorfod cynnal eu busnes mewn stryd gul, yn agored i'r elfennau drwy gydol y flwyddyn.

Daeth Clough yn ladmerydd cryf dros yr adeilad, yn cyfrannu symiau sylweddol tuag at ei adeiladu. Ym 1565 penododd y pensaer Fflemaidd, Hendrik van Passe, i gynllunio'r gyfnewidfa, a chafodd y rhan fwyaf o'r defnyddiau a'r saernïaeth eu mewnforio o Antwerp o dan ei oruchwyliaeth ef ei hun.

Er mai Clough awgrymodd yr angen am gyfnewidfa, Gresham gafodd y clod am sefydlu Adeilad y Gyfnewidfa Frenhinol, ac fe elwodd gryn dipyn o'r rhent am y siopau uwchben y gyfnewidfa pan agorodd ym 1571, flwyddyn ar ôl i Richard farw.

Bach-y-graig a Plas Clough
Dychwelodd Richard i Gymru ym Mis Ebrill 1567, i briodi ac i adeiladu dau dŷ yn ei sir enedigol. Mae'r digwyddiadau hyn yn nodedig - y cyntaf oherwydd ei wraig newydd - Catrin o Ferain, a'r ail oherwydd bod ei dai wedi eu hadeiladu yn arddull Antewrp gan grefftwyr Fflemaidd, ac am mai'r rhain oedd y tai cyntaf yng Nghymru i'w hadeiladu o friciau.

Roedd y ddau dŷ yn fawr eu maint, ac yn cyflwyno ffurfiau cymesur, a thalcenni grisiog, a ddaeth yn boblogaidd yng Ngogledd Ewrop. Mae'n bosibl y cawsant eu cynllunio gan yr un pensaer ag a gynlluniodd y Gyfnewidfa Frenhinol. Cafodd Bach-y-graig ei ddisgrifio fel hyn: 'so alien to Welsh tradition and English Renaissance development, as to be unique in English domestic architecture.' Roedd y tŷ ar amserlen pob ymwelydd ffasiynol â Gogledd Cymru, ac ym 1774 disgrifiodd Dr Johnson ef, yn nodweddiadol iawn, fel "less than I expect".

Roedd codi'r fath adeiladau newydd ac anarferol wedi tynnu cryn sylw ac wedi achosi drwgdybiaeth yn lleol. Mae nifer o chwedlau bellach wedi dod yn rhan o goel gwlad, un yn dweud bod Bach y Graig wedi ei godi mor gyflym nes bod y bobl leol yn credu mai gwaith y diafol ydoedd. Dywed chwedl arall pan fyddai'r adeiladwyr yn rhedeg allan o friciau, byddai llwyth newydd yn ymddangos fel petai trwy hud a lledrith erbyn y bore wedyn ar lan y nant a elwir hyd heddiw yn Nant-y-Cythral. Mewn gwirionedd, mae'n bosib bod defnyddiau ar gyfer y briciau wedi eu cloddio a'u llosgi ar y safle, neu eu bod wedi eu mewnforio o'r Iseldiroedd, fel y briciau ar gyfer y Gyfnewidfa Frenhinol.

Bu ystafell ddi-ffenestr ym mhen ucha'r tŷ - a dyna esgor ar fwy o chwedlau fyth. Ceir traddodiad poblogaidd yn mynnu iddi gael ei hadeiladu'n arbennig er mwyn i Clough gyfathrebu â Satan ynddi, allan o olwg pob meidrolyn! Roedd eu trafodaethau, (bob amser am hanner nos) yn ymwneud â'r gwaith adeiladu, gyda Satan yn gontractwr, a Clough wedi talu am y gwaith drwy werthu ei enaid.

Mewn gwirionedd roedd Clough yn seryddwr brwd, ac fe gredir ei fod yn defnyddio'r ystafell hon i wneud arsylwadau, gan gyfrannu at waith ei gyfaill, Ortelius, Cartograffydd o Hamburg, a gynlluniodd fapiau ar gyfer morlyw-wyr y 16eg ganrif. Roedd Clough yn ganolwr gwerthfawr rhwng Ortelius a'r daearyddwr, yr hanesydd a'r hynafiaethydd o Ddinbych, Humphrey Llwyd, a'i galwodd 'y dyn mwyaf cyflawn'.

Catrin o Ferain
Does dim llawer yn hysbys am yr hyn a ddigwyddodd i wraig gyntaf Richard, ond ar ôl carwriaeth fer, daeth Richard yn ail ŵr i Catrin o Ferain (a aned Catrin Tewdwr, 1534-1591), wyres Harri'r seithfed ac ail gyfnither i'r Frenhines Elizabeth. Yn ddiweddarach galwyd Catrin yn 'Mam Cymru', oherwydd ei disgynyddion niferus.

Yn y pen draw priododd Catrin bedair gwaith,- bob tro i ddynion dylanwadol mewn materion Cymreig, ac aeth ei chwe phlentyn ymlaen i sefydlu sawl llinach o foneddigion yng Nghymru. Mae nifer o straeon ar gael ynglŷn â'i phriodasau niferus, mae un stori'n dweud ei bod wedi cael chwe gŵr, a'i bod wedi lladd pump ohonyn nhw trwy arllwys plwm tawdd yn eu clustiau wrth iddyn nhw gysgu - nes i'r chweched ei chadw'n gaeth a'i llwgu i farwolaeth.

Doedd y ffaith bod Catrin wedi cael nifer o wŷr ddim yn anghyffredin yn oes Elizabeth, gan fod gofalu am barhad etifeddiaeth deuluol yn dibynnu'n llwyr ar briodas a'r etifeddion uniongyrchol y byddai'n ei gynhyrchu. Cafodd enw da'r teulu ei gynnal trwy drefnu'r priodasau mwyaf proffidiol - trefniadau a oedd, yn y bôn, yn gytundeb busnes.

Byddai wedi bod o fudd i Richard i briodi'n dda, a'r traddodiad oedd iddo gymryd y cyfle i sicrhau Catrin fel ei briod ar y ffordd i angladd ei gŵr cyntaf. Roedd tipyn o alw ar Catrin y diwrnod hwnnw, gan iddi wrthod cynnig gan Morris Wynne o Gwydir ar ôl y seremoni, gan addo iddo y câi fod yn drydydd gŵr iddi, petai Syr Richard yn marw, a dyna'n wir a ddigwyddodd.

Blynyddoedd Olaf Clough
Ar ôl priodi, symudodd Richard a Catrin i Antwerp, lle daethon nhw ar draws chwyldroeon crefyddol a gwleidyddol. Ym Mis Ionawr 1569, cafodd y marchnatwyr o Loegr eu harestio, ond llwyddodd Clough i ddianc, dim ond i gael ei arestio yn Dieppe am fod â llythyrau oddi wrth lywodraeth Lloegr yn ei feddiant. Sicrhaodd ymyrraeth Syr William Cecil, ac fe gafodd ei ryddhau i Lundain, lle'r ymunodd â grŵp mawr o anturiaethwyr-fasnachwyr ar eu ffordd i Hamburg, lle roedden nhw'n trosglwyddo masnach o Antwerp i'r ddinas honno.

Hamburg oedd man gorffwys Clough, gan iddo, ym 1570, ddal clefyd anhysbys yno, a bu farw yn ddim ond 40. Cafodd Clough ei gladdu yn Hamburg, ond er mwyn cydymffurfio â'i ddymuniadau olaf, mae'n debyg i'w galon, ac, yn ôl rhai, ei law dde, gael eu hanfon mewn wrn arian wedi ei selio i'w chladdu oddi fewn i Eglwys Plwyf Sant Marchell, Dinbych. Mae yna amheuaeth a gyrhaeddodd y galon yn ôl i Gymru, gan na ddaethpwyd o hyd i'r wrn pan agorwyd y ddaeargell 200 mlynedd yn ôl, er bod y gist blwm a'r clawr yn dal yn gyfan.

Roedd Clough, oedd â chysylltiadau â Llundain, Hamburg, Antwerp a Fflandrys am y rhan fwyaf o'i fywyd, hefyd yn deyrngar iawn i fro ei eni. Golygodd ei farwolaeth disymwth na allodd gyflawni ei gynlluniau yn nes adref. Am rai blynyddoedd roedd wedi bwriadu carthu'r Afon Clwyd er mwyn ei gwneud yn fordwyol mor bell â Rhuddlan, a thrwy hynny wella potensial Dinbych ar gyfer ffyniant, a datblygu'r dyffryn cyfagos. Yn ei ewyllys gadawodd Clough £100 tuag at sefydlu ysgol ramadeg rydd yn Ninbych, ond collwyd yr arian 'oherwydd aflonyddwch y cyfnod'. Sefydlwyd yr ysgol yn y pen draw 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Cafodd Clough ddwy ferch gyda Catrin, Anne (a aned ym 1568), a etifeddodd Bach-y-graig, a Mary (a anwyd ym 1569). Etifeddodd Mab Clough 'a aned dramor', Plas Clough, a bu Cloughs yn byw yno hyd y seithfed genhedlaeth. Roedd ganddo nifer o ddisgynyddion enwog, yn fwyaf nodedig y bardd Fictorianaidd - Arthur Hugh Clough, a Syr Clough Williams-Ellis - lluniwr Portmeirion.

Dywedodd yr hanesydd o'r 19eg ganrif, John Williams, fod Clough wedi 'codi ei hun drwy gyfrwng ei rinweddau o fod yn fachgen tlawd yn Ninbych i fod yn un o fasnachwyr mwyaf ei gyfnod'.

Ond bu'n fwy nag yn fasnachwr llwyddiannus. Roedd Clough yn enwog am ei ddiddordeb gweithredol mewn pensaernïaeth, seryddiaeth a chartograffeg. Effaith ei weithgareddau llai rhinweddol oedd i gynyddu, yn hytrach nac i leihau'r ddelwedd o'r 'dyn cyfan', lle roedd ychydig o ysbïo, bathu arian a smyglo yn ychwanegu ar y chwedl ramantus.

Gyda diolch i Wasanaeth Llyfrgell Dinbych


Cyfrannwch

D. Iori Roberts o Lanelwy
Rydym yn mynd am wyliau byr i Ghent, ac ymweld ac Antwerpen, ar yr 16 o Fawrth 09. Ar ôl gwylio rhaglen deledu Trevor Fishlock wythnos yn ôl a chanfod fod cyswllt rhwng Richard Clough ac Antwerpen, fe wnes benderfynu edrych am fwy o wybodaeth. Roedd yr eitem yma yn ddiddorol dros ben, ond yn anffodus dydi hi ddim yn debyg bod unrhyw le yn Antwerpen, heblaw efallai am y 'bourse', lle gwelai ôl y cysylltiad.
Mon Mar 2 16:57:32 2009


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy