BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bywyd Cyhoeddus
Cerflun Owain Glyndŵr yng Nghorwen
Owain Glyndŵr

Ganwyd: 1354

Addysg: Bu'n astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Llundain


Uchelwr o Gymro a wrthryfelodd yn erbyn y Saeson a sefydlu senedd Gymreig ym Machynlleth

Teulu'r milwr hwn fu'n gwasanaethu ym myddin Lloegr oedd y cyntaf i ildio tir i fyddin Edward I.

Ond fe gryfhawyd ymwybyddiaeth Gymreig Glyndŵr pan ddechreuodd ffraeo gyda'i gymydog o Sais a'i fab-yng-nghyfraith yr Arglwydd Grey.

Enillodd Grey achos llys yn erbyn Glyndŵr ar sail casineb Harri IV tuag at y Cymry. Ond fe heriodd Glyndŵr yr holl drefn wleidyddol oedd wedi ei sefydlu gan frenhinoedd Lloegr yn ddiweddarach pan gyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru ar ei stad yng Nglyn Dyfrdwy ar 16 Medi 1400.

Delwedd arall posibl o Owain GlyndŵrAr ddydd ei goroni, fe ymosododd Glyndŵr a 250 o ddilynwyr ar Ruthun gan 'sgubo i mewn pan agorwyd giatiau'r dref ar doriad y wawr.

Dyma'r cyntaf o ymosodiadau ar Fflint, Rhuddlan, Holt, Croesowallt a'r Trallwng. Cyhoeddwyd Glyndŵr yn herwr ond fe frwydrodd nifer o'i gefnogwyr i ennill pardwn.

Wrth i'r gefnogaeth iddo dyfu, ymunodd myfyrwyr mewn protestiadau a daeth y Cymry alltud yn ôl i ymuno yn y gwrthryfel.

Aeth Glyndŵr ati i greu cytundebau efo'r Alban a Ffrainc, i ennill cestyll a chynnal senedd ym Machynlleth.

Yn Harlech cynhaliodd lys a chynllunio'i ddyfodol dros Gymru. Erbyn iddo ennill y rhan fwyaf o Gymru, roedd pawb ei ofn.

Fe frwydrodd Glyndŵr i'r diwedd yn ei gastell olaf, Harlech. Ni chofnodwyd y manylion am y frwydr olaf ond fe lwyddodd Glyndŵr i ddianc. Carcharwyd ei wraig, ei ddwy ferch ac ŵyr iddo yn Nhwr Llundain ac yno y buont farw.

Fe dreuliodd Glyndŵr ei hun weddill ei ddyddiau yn Kenturch yng nghartref ei fab yng nghyfraith Sir John Skydmore tan ei farwolaeth.

Yn 1415, fe wrthododd bardwn ac ni chlywir sôn amdano wedi'r flwyddyn hon. Erys ei farwolaeth yn ddirgelwch ac ni wyddys lle cafodd ei gladdu. Mae'r ffaith fod lleoliad ei fedd yn dal yn ddirgelwch hyd heddiw yn ychwanegu at y rhamantu yng Nghymru ynglŷn ag Owain Glyndŵr.

Dywedir iddo losgi Croesowallt a Handbridge, Caer mor aml nes iddynt gael eu hadnabod fel Burnttowns!

Mwy am Owain Glyndŵr ar wefan Lleol Canolbarth.

Lluniau o'r cerflun newydd o Owain Glyndŵr yng Nghorwen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy