BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bywyd Cyhoeddus
Enwogion Cymry Lerpwl




Parchedig John Owen Williams (Pedrog: 1853-1932)Un o fechgyn gwlad Llŷn oedd Pedrog a gadawodd ysgol y Llan yn Llanbedrog yn 12 oed. Garddwr fu ef wedyn cyn symud yn 1876 i Lerpwl lle y cafodd gyfleoedd gwych i ddatblygu ei ddoniau fel bardd, darlithydd, llenor, pregethwr. Yn 1884 ordeiniwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr Cymraeg Kensington, Lerpwl a bu yno hyd iddo ymddiswyddo oherwydd afiechyd yn 1930, cyfnod o 46 mlynedd.

Enillodd y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith a'r tro olaf yn Lerpwl ei hun yn 1900. Gwnaed ef yn Archdderwydd o 1928 hyd 1932 a phan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Barc Sefton ef oedd wrth y llyw. Bu'n briod (collodd ei wraig Rose Ellen Williams yn 1916) a ganwyd iddynt ddau fab a thair merch. Chwith meddwl na chyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth gan y bu mor doreithiog, ond lluniodd hunangofiant difyr iawn o dan y teitl Stori Mywyd a'i gyhoeddi yn y flwyddyn y bu farw. Claddwyd ef yn Lerpwl.

Parchedig Ddr Owen Thomas
Un o enwogion Cymry Lerpwl yn oes Fictoria. Ganwyd ef yng Nghaergybi yn 1812 a daeth i Lerpwl o Lundain yn 1865 ac aros hyd ei farwolaeth yn 1891. Gofalodd ar ôl Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Netherfield Road ond symudodd i gapel hardd Princes Road yn Toxteth yn 1871. Yr oedd yn awdurdod ar hanes pregethu Cymraeg ac y mae ei gofiant i'r Gweinidog o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, Cofiant y Parch John Jones, Talsarn (Wrecsam 1874) yn gampwaith o hyd.

Priododd ei ferch gyda'r Parchg Lodwig Lewis ac un o'r meibion y briodas oedd John Saunders Lewis a fu mor bwysig yn hanes Cymru'r ugeinfed ganrif. Meddyliai'r ŵyr y byd o'i daid a llawenhaodd pan gyhoeddwyd cofiant iddo o dan y teitl Pregethwr y Bobl (Lerpwl a Llanddewi Brefi, 1979). Yna cafwyd fersiwn Saesneg The Life and Work of Owen Thomas 1812-1891: A Welsh Preachers in Liverpool (Lewiston, 1991), ac felly mae digon o ddeunydd wedi ei gyhoeddi ar y gŵr dawnus.

Ronw Moelwyn Hughes, Penbedw
Mab i'r Parchedig T G Moelwyn Hughes (1866-1944) a Mya (née Lewis) a fu yn fawr eu dylanwad ymhlith Cymry Penbedw. Ganwyd Ronw yn Aberteifi a chafodd yrfa nodedig fel myfyriwr gan ennill Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Yr oedd y gyfraith a gwleidyddiaeth yn nwyd yn ei fywyd o ddyddiau coleg. Bu yn gynghorydd ar Gyngor Tref Penbedw a safodd fel ymgeisydd seneddol dros y Blaid Ryddfrydol yng Ngorllewin y Rhondda yn 1929. Gadawodd y Rhyddfrydwyr am y Blaid Lafur ac etholwyd ef yn Aelod Seneddol Llafur Sir Gaerfyrddin yn 1941 cyn colli'r sedd i Rhys Hopkin-Morris.

Meddylid y byd ohono ym Mhenbedw fel ag yng ngorllewin Cymru, gan ei fod yn apelio'n fawr at y werin bobl. Yr oedd ei dad Moelwyn yn meddwl y byd ohono a newidiodd yntau ei liw gwleidyddol fel gweithred o barch i'w fab athrylithgar. Bu farw Ronw Moelwyn Hughes yn y flwyddyn 1955. Gadawodd wraig Louise Mary (merch hynaf Baron Fairfield) a dau fab a merch.

Parchedig Ddr Owen Evans
Treuliodd Dr Owen Evans ddeunaw mlynedd o'i ymddeoliad yn Lerpwl, hynny yw o 1900 hyd 1918 ond roedd yn nabod y Glannau yn dda cyn hynny. Ordeiniwyd ef yn Berea, Ynys Môn yn 1883 a'r flwyddyn ddilynol cafodd ei wahodd i Gymanfa'r Annibynwyr. Bu mewn cymanfaoedd eraill, a soniai amdano yn aros ar aelwyd Gwilym Hiraethog. Cofiai wrando yn Lerpwl ar y cenhadwr enwog o'r India, Parchedig William Jones (1833-187) a wasanaethodd yn y ddinas sanctaidd, Benares a hefyd yn Singrowli lle bu farw.

Nid oedd Owen Evans ei hun yn bregethwr hwyliog ond yr oedd yn llenor ymroddedig - rhai o'i lyfrau ydy Gwyrthiau Crist (1868) ac Oriau gyda'r Iesu (1882). Meddai ar ddawn i gyfleu'r Ysgrythur mewn ffordd ddefosiynol. Gadawodd Lerpwl am Lundain gan mai yno y gweinidogaethodd hiraf o bob man y bu gan y bu yno ar ddau dro, Fetter Lane (1856-63) ac eilwaith yno gyda King's Cross, 1881-1906, cyfnod o 32 mlynedd. Bu farw ar 1 Mehefin 1920.

Parchedig David AdamsYn hanes diwinyddiaeth Gymreig rhaid rhoddi lle pwysig i David Adams (1845-1923). Ganwyd ef yn Nhalybont, Ceredigion, a bu'n rhaid iddo adael ysgol yn llencyn ifanc. Gweithiau mewn gwaith llafurus, ond aeth ati i ddysgu Lladin a Ffrangeg a gloywi ei Gymraeg a Saesneg. Nid oedd dal nôl arno - llwyddodd i gael ei alw yn ddisgybl athro, ei dderbyn i Goleg y Normal, Bangor a chael cyfle i ddysgu yn Ysgol y Bryn, Llanelli ac Ystradgynlais cyn mynd am ragor o addysg i Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Enillodd ei BA a dechreuodd bregethu yn 1874.

Ym mis Mai 1878 derbyniodd wahoddiad gan Eglwysi Hawen a Bryngwenith, Ceredigion. Bu yno hyd 1888 pan symudodd i dref y chwareli, Bethesda, Arfon. Yn Hydref 1895 symudodd i Lerpwl, i ofalu am gapel yr Annibynwyr, Grove Street, Lerpwl. Yno y bu hyd ei farw, 10 Gorffennaf 1923, ac yn Lerpwl y gwnaeth ei gyfraniad pwysig fel diwinydd a lladmerydd diwinyddiaeth yr Almaen. Cyhoeddwyd ei gyfrol Paul yng ngoleuni'r Iesu (yn 1897) a Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar (1914). Anrhydeddwyd ef yn 1913 pan gafodd y cyfle i fod yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr. Bu yn Lerpwl yn gweinidogaethu am 28 mlynedd.

Parch Robert Thomas (Ap Vychan)
Go brin fod llawer o bobl yn cysylltu'r pregethwr a'r athro Ap Vychan, 1809-80 gyda dinas Lerpwl. Urddwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr Cymraeg yn 1840 yn Ninas Mawddwy, ond o fewn dwy flynedd, derbyniodd alwad o eglwys Salem, Bronlow Hill a chychwynnodd yno ym Medi 1842. Symudodd o Lerpwl chwe blynedd yn ddiweddarach i ofalu am Eglwysi Rhosllannerchrugog, Rhiwabon a Rhosymedre.

Yr oedd yn dipyn o ffefryn yn Lerpwl ar sail ei bersonoliaeth a'i gorff cydnerth. Dywedodd y diacon adnabyddus o Lerpwl, Josiah Thomas, amdano:

"Safai fel derwen gref ger bron tyrfa fawr, a chyrhaeddai ei lais y pellaf ynddi, a llefai oddi wrtho ffrwd gref, loyw, risialaidd o ymadroddiad coeth a chyfan, a gariai yn esmwyth bawb a phopeth o'u blaen."

Cafodd fagwraeth galed. Profodd dlodi mawr. Disgrifiodd yn ei hunangofiant y blynyddoedd cynnar yn Llanuwchllyn. Dysgwyd ef gan ei dad oherwydd nid oedd modd iddo dalu amdano. Ond goresgynnodd yr anawsterau i gyd. Un o arwyr oes Fictoria ydoedd.

John Roberts ('Minimus': 1808-1880)
Ail fab Richard Roberts, masnachwr nwyddau llong yn Lerpwl oedd John Roberts, ac yn Lerpwl y ganwyd ef yn 1905. Daeth yn ŵr defnyddiol ym mywyd y Cymry a etholwyd ef yn flaenor yng nghapel Bedford Street pan nad oedd ond 19 mlwydd oed, yr ieuengaf y gwn i amdano. Yr oedd mewn cwmni o fechgyn Cymraeg, un ohonynt oedd Josiah Hughes a dreuliodd ei oes fer ym Malacca, Malaysia. Hynodrwydd arall a berthyn i'w hanes yw'r ffaith ei fod ef yn un o sylfaenwyr cyntaf y Genhadaeth Dramor yn 1940. Tra'n parhau i weithio i gwmni llongau daeth yn Ysgrifennydd di-dâl i'r gymdeithas genhadol. Bu'n garedig iawn tuag at y cenhadon yn cynnig llety iddynt tra yn Lerpwl. Bu ef a'i briod Elizabeth Milnes o Groesoswallt yn hynod groesawus, a chariwyd y traddodiad ymlaen gan ei unig ferch Miss Roberts, Hope Street. Galwai ei hun yn Minimus a lluniodd emynau cofiadwy. Bu farw yng Nghaeredin ar 6 Ionawr 1880 a chladdwyd ef ar fore Gwener, 9 Ionawr ym mynwent y teulu yn Eglwys Sant Iago, pryd y traddododd y Parchedig Ddr Owen Thomas, Princees Road deyrnged haeddiannol i goffadwriaeth ysgogydd y Genhadaeth ac amddiffynnydd y Sul.Llew Llwyfo - Gŵr Amryddawn
Lewis William Lewis oedd enw bedydd Llew Llwyfo, a ganwyd ef ar 31 Mawrth 1831 ym mhentref Pensarn, Llanwenllwyfo, Ynys Môn. Gellir gweld o ble cafodd ef yr enw Llwyfo. Bu'n greadur anesmwyth ar hyd ei oes. Ni chredai mewn aros yn hir yn unman. Daeth i Lerpwl yn 1955 o Dreffynnon i olygu'r papur wythnosol, Yr Amserau. O fewn tair blynedd yr oedd yn Aberdâr fel newyddiadurwr, oddi yno i Ddinbych, yna Caernarfon cyn croesi môr yr Iwerydd i Utica a'r Unol Daleithiau.

Ond daliai i alw yn Lerpwl fel y tystiodd Lewis Jones, Hilbre. Yr oedd ei briod a Llew Llwyfo yn perthyn, cyfnither a chefnder. Geiriau Lewis Jones am hyn oedd: 'Costiodd y berthynas honno lawer swllt imi yn ystod ei drigais ef yn Lerpwl.' Meddai Llew Llwyfo ar lais arbennig fel canwr, a gelwid arno'n gyson i arwain eisteddfodau. Cyhoeddwyd ei nofel Llewelyn Parri, neu Meddwyn Diwygiedig yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl, un o'r nofelau cynharaf. Bu farw 23 Mawrth 1901 yn y Rhyl, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig, ger Caernarfon.

Lewis Jones, Hilbre
Go brin y cafodd Cymry Glannau Mersi ŵr mwy gwybodus ym myd adar na'r Monwysyn, Lewis Jones a fu'n gofalu ar ôl Ynys Hilbre o 1896 hyd 1923. Gŵr o Laneilian, Môn oedd Lewis Jones a bu yn hynod o weithgar yng nghylch West Kirby. Yr oedd ef ynghyd â Eleazar Roberts, Robert Jones a Evan Evans yn arloeswyr yr achos crefyddol a bu'n flaenor a thrysorydd Capel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref West Kirby am ddeg mlynedd ar hugain.

Darlithiodd Lewis Jones gryn lawer yn Gymraeg a Saesneg, yn bennaf am Hilbre, yr ynysoedd a'r adar. Yr oedd yn fedrus gyda'r magic lantern a meddai ar saith o wahanol o ddarlithiau. Bu'n arwain eisteddfodau ar lannau Mersi, ac yr oedd yn un o arweinwyr yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelid ym Mhenbedw yn 1917. Lluniodd gannoedd o erthyglau i bapurau Cymraeg y Glannau, sef i'r papur Cymro o dan olygyddiaeth Isaac Foulkes ac i'r Brython pan oedd J H Jones (J E Aitsh) wrth y llyw. Ceir blas ar arddull a diddordebau Ynyswr fel ei gelwid yn ei gyfrol o ysgrifau Atgofion Ynyswr a gyhoeddwyd gan Wasg y Brython, Stanley Road, Bootle yn 1939.

Harry Evans (1873-1914)
Mab i gerddor reit adnabyddus ym Morgannwg oedd Harry Evans. Ganwyd ef ar 1 Mai 1873 yn Russell Street, Dowlais yn fab i John Evans (Eos Myrddin) a'i briod Sarah. Daeth yn amlwg yn ardal Merthyr fel organydd ac arweinydd cymanfaoedd, a daeth i sylw Cymry Lerpwl pan enillodd Côr Meibion Dowlais a sefydlwyd ganddo yn 1898, y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1900. Yn 1903 derbyniodd wahoddiad Undeb Gorawl Gymreig Lerpwl (Côr a ffurfiwyd fel canlyniad i Eisteddfod 1900) i fod yn arweinydd y Côr a symudodd ef i Lerpwl.

Erbyn 1913 penodwyd ef yn arweinydd lleol a chofrestrydd Cymdeithas Philharmonig Lerpwl. Cydnabyddid ef erbyn hyn fel un o arweinwyr corawl gorau Prydain, a derbyniai wahoddiadau o bob cyfeiriad i arwain cymanfaoedd a beirniadu yng ngwyliau cerddorol Lloegr, yr Alban, Iwerddon a trwy Gymru gyfan. Bu farw yn ŵr ieuanc 41 mlwydd oed, ar 23 Gorffennaf 1914 a chladdwyd ef ym mynwent Smithdown Road, Lerpwl a cheir englyn o waith Pedrog ar ei fedd.

Parchedig David Miles Jenkins
Gŵr a anwyd yn Nhrelyn, Sir Fynwy ar 27 Chwefror 1837, a chymhellwyd ef i'r weinidogaeth, a bu am aml gwrs addysg yng Nghastell Newydd Emlyn, Coleg yr Annibynwyr yn y Bala. Bu'n weinidog yn Aberhosan, Drenewydd ac yno y priododd yr ail dro â Miss Griffiths, wyres i'r Parchedig John Roberts, Llanbrynmair. Ganwyd iddynt bump o blant - tri mab a dwy ferch. Priododd yr ail ferch gyda Mr E M Davies o'r Banc North a South Wales, Lerpwl ac mae ei merch hwy Miss Mair Davies, Wavertree wedi cyflawni gwaith mawr yng Nghyngor Eglwysi Rhyddion Lerpwl. Bu dau o'r meibion yn weinidogion, Parchedig S R Jenkins, Gravesend a'r Parchedig W G Jenkins, Huddersfield.

Yn 1876 symudodd y Parchedig D M Jenkins a'i deulu i Lerpwl ar dderbyn ohono alwad i Eglwys Annibynwyr Cymraeg Park Road, Lerpwl a bu'n weinidog yno hyd 1898, cyfnod o 23 mlynedd. Bu farw yng nghartref ei ferch (mam Miss Mair Davies) yng Nghaernarfon 21 Ionawr 1901 a chladdwyd ef ym mynwent Smithdown Road. Yr oedd yn ŵr o argyhoeddiadau diffuant, yn fyfyriwr diwyd, bugail doeth ac un o arloeswyr Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Derbyniodd dysteb o £300 ar derfyn 21 mlynedd, swm cyfystyr â £6,500 yn ein dyddiau ni.

Parchedig William Nicholson
Un o Gaergybi oedd William Nicholson ac yno y ganwyd ef ym mis Ebrill 1844. Bu'n weinidog yn Rhoslan a Llanystumdwy gyda'r Annibynwyr cyn symud i ardal Bethesda, Arfon ac oddi yno i gylch Caerffili. Derbyniodd alwad yn niwedd 1876 i olynu Gwilym Hiraethog yng nghapel Grove Street, Lerpwl.

Ac am y naw mlynedd nesaf bu'n gweinidogaethu yn y capel hwnnw, yn weithgar fel llenor, bardd, darlithydd ac yn arbennig fel pregethwr poblogaidd. Yn 1881 cychwynnodd gyhoeddiad misol o'r enw Y Cennad Hedd, a sgrifennodd rhannau helaeth ohono. Bu bron ag ennill ar y cywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884. Ymddiddorai mewn gwleidyddiaeth a bu'n siarad yn gyson ar lwyfannau'r Blaid Ryddfrydol. Nid oedd yn gryf ei iechyd a rhoddodd yr eglwys gyfle iddo deithio am adferiad iechyd i Awstralia yn niwedd 1883.

Bu i ffwrdd am ddeg mis ond ni chryfhaodd ryw lawer er iddo ddal ati gyda'i orchwylion hyd y diwedd. Bu farw 20 Gorffennaf 1885 yn 41 mlwydd oed a gosodwyd ef i orwedd ym mynwent Smithdown Road, Lerpwl. Y mae ei garreg fedd yn gyrchfan pererinion o Gymru pob haf gan ei bod yn sefyll yn agos iawn i fedd ei ragflaenydd y Parchedig William Rees (Gwilym Hiraethog).

Parchedig John Gruffydd Moelwyn Hughes (1866-1944)
Un o Danygrisiau oedd Moelwyn ac yn ŵr ifanc bu'n gweithio yn swyddfa cyfreithwyr y brodyr William a David Lloyd George ym Mhorthmadog. Cafodd addysg yng Ngholegau Clynnog, Bangor a Bala, a MA a PhD o Brifysgol Leipzic yn yr Almaen. Ordeiniwyd ef yn 1895 a daeth i'r Glannau o Aberteifi yn 1917.

Ef oedd bugail Capel y presbyteriaid Cymraeg yn Parkfield, Penbedw o 1917 hyd ei ymddeoliad yn 1936. Yr oedd ei briod Mya o Langadog a ganwyd iddynt chwech o blant. Rhwng y tad a'r plant yr oedd ganddynt pum doethuriaeth, tri mewn athroniaeth, un mewn gwyddoniaeth ac un mewn meddygaeth. Ni fu teulu mwy talentog ar lannau Merswy na Moelwyn a Mya a'r plant, Ronw, Gwyndaf, Aneurin, Alun, Meurig a Rhiannon.

Yr oedd yn fardd ac emynydd, athronydd a phregethwr nodedig. Er iddo gael ei ethol yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol ni fu neb mwy beirniadol o'r Cyfundeb nag ef yn ei ddydd. Ymffrostiai ei fod yn aelod o'r Blaid Lafur ac yn heddychwr o argyhoeddiad. Bu farw 25 Mehefin 1944 a chladdwyd ef yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin.

Parchedig John Thomas, Lerpwl (1821-92)
Brawd i'r Parchedig Owen Thomas, Princes Road a bu'r ddau yn gweinidogaethu yn Lerpwl yr un adeg am chwarter canrif. Yn wir daeth John Thomas o Lyn Nedd i'r Tabernacl, Great Crosshall Street, Lerpwl yn 1854 ac arhosodd yno weddill ei oes, hyd ei farwolaeth ar 14 Gorffennaf 1892. Fel ei frawd gosodwyd yntau ym mynwent Anfield, Lerpwl.

Yn ystod ei gyfnod hir yn Lerpwl bu'n hynod o weithgar. Bu'n olygydd prysur, yn olygydd Y Tyst am ugain mlynedd a bu'n weithgar fel awdur a hanesydd. Etholwyd ef i gadair Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1878 ac i gadair Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru yn 1885. Bu'n gyson ar lwyfannau'r Blaid Ryddfrydol a hefyd y mudiad Dirwest a cheir llawer o atgofion yn y gyfrol brin ryfeddol o'i waith, Y Diwygiad Dirwestol a gyhoeddwyd yn 1885. Gwnaeth waith mawr ei fywyd yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl er iddo ddod i amlygrwydd fel pregethwr ac arweinydd yn ei eglwys gyntaf sef Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin lle y bu o 1842 i 1852. Bu yn feirniadol o derfysg Beca am ei fod yn coleddu safbwynt heddychiaeth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy