Bachgen tlawd a ddaeth yn anturiaethwr enwog
Mae'n rhaid mai'r cyfarchiad syml hwnnw rhwng Henry Morton
Stanley a Doctor Livingstone yn Hydref 1871 yw'r cyfarchiad
enwocaf mewn hanes. Dim ond pedwar gair oedd y cyfarchiad, a'r
geiriau hynny, o'u cyfieithu, oedd 'Doctor Livingstone, mi dybiaf!'
Cymro a ynganodd y geiriau, un a ddaeth yn fyd-enwog ar sail ei
sylw byr wedi iddo lwyddo i ddod o hyd i David Livingstone, un y
tybid ei fod ar goll yng nghanolbarth Affrica, yn fyw ac yn iach.
Ganwyd Stanley yn blentyn siawns yn Ninbych ar 28 Ionawr 1841 a'i
fedyddio yn John Rowlands.
Gwahanodd ei rieni dibriod a magwyd
ef yn nhloty Llanelwy.
Dianc o'r tloty
Yn bymtheg oed, magodd ddigon o blwc i
ddianc o'r tloty a chafodd waith ar long a hwyliai ar draws Môr
Iwerydd rhwng Lerpwl a New Orleans.
Newidiodd ei enw i Henry
Morton Stanley ar ôl marsiandïwr a gyfarfu ac a fu'n garedig wrtho.
Ymladdodd Stanley yn y Rhyfel Cartref yn America a llwyddodd
i gael gwaith fel newyddiadurwr gyda'r New York Herald.
Mae'n
debyg fod ganddo arddull newyddiadurol dda ac arbenigodd ar
ysgrifennu fel gohebydd tramor gan ymweld â gwledydd yn Asia
Leiaf ynghyd â Sbaen, Creta ac Abysinia.
Cyrchu'r anturiaethwr coll
Yna, yn 1869, derbyniodd
her â'i gwnâi'n enwog ledled y byd.
Roedd y teithiwr enwog David
Livingstone ar grwydr yng nghanolbarth Affrica ac ofnid ei fod ar
goll. Doedd neb wedi clywed gair oddi wrtho ers tro.
Breuddwyd
fawr Livingstone oedd dod o hyd i wir darddiad afon Nîl, a chafodd
Stanley yr her gan ei bapur newydd o fynd i chwilio am y chwiliwr.
Galwyd Stanley i Baris gan berchennog y papur, James Gordon
Bennett, a'r gorchymyn syml iddo oedd dod o hyd i'r teithiwr mewn
unrhyw ffordd a ddewisai, ond y dylai wneud hynny doed a ddelo.
Y cyfarfod enwog
Erbyn hyn, roedd llawer wedi derbyn y si fod Livingstone wedi
marw ac yn dechrau colli diddordeb yn ei anturiaethau, ond gwyddai
Bennett y gallai gael stori fawr pe deuid o hyd i'r teithiwr yn fyw.
Glaniodd Stanley yn Zanzibar ym mis Ionawr 1871.
Erbyn 4
Chwefror roedd popeth yn barod a chychwynnodd y cwch - yn llawn
nwyddau ac yn cario baner yr Unol Daleithiau - ar antur enbyd.
Bu'r daith yn un anodd. Collwyd nwyddau a cheffylau a dioddefodd
y criw o bob math o afiechydon.
Erbyn diwedd Hydref cyraeddasant
ddyffryn Ujiji. O'u gweld yn nesáu, rhuthrodd cannoedd o'r trigolion
i'w cyfarfod ac yn eu canol gwelodd Stanley ddyn mewn crys gwyn hir
a thyrban o fath gorllewinol ar ei ben.
Cyflwynodd hwnnw'i hun fel
gwas David Livingstone.
Sylwodd Stanley ar ddyn llwydaidd ymhlith y
dorf - roedd e'n farfog, yn gwisgo trowser llwyd a gwasgod a chanddo
gap glas ac aur ar ei ben.
Tynnodd Stanley ei het ymaith, ynganodd y
geiriau chwedlonol a chafodd gadarnhad fod ei chwilio ar ben.
Anturio ymhellach
Ymhen wythnos gadawodd y ddau ddyn gyda'i gilydd i chwilio am
darddiad afon Nîl.
Methiant fu'r daith a dioddefodd Stanley o'r cryd. Er
gwaetha'r ffaith ei fod yn awyddus i dorri'r stori fawr am ei lwyddiant
yn dod o hyd i Livingstone, dewisodd Stanley oedi gyda'r teithiwr tan
fis Mawrth 1872.
Ceisiodd berswadio Livingstone i ddychwelyd gydag
ef ond na, roedd hwnnw'n benderfynol o ddod o hyd i Lyn Tanganyika
a phrofi bod ei ddyfroedd yn llifo i'r Nîl.
Ysgrifennodd Livingstone
nifer o lythyron gan ofyn i Stanley fynd â hwy yn ôl gydag ef a
ffarweliodd y ddau â'i gilydd yn eu dagrau ar 14 Mawrth 1872.
Trodd
Stanley'n ôl am Zanzibar a threfnodd i ddanfon nwyddau a phethau
eraill angenrheidiol at ei gyfaill.
Cymerodd y daith 55 o ddyddiau iddo.
Gwaith cyntaf Stanley oedd ffeilio'i stori i'r New York Herald.
Derbyniodd frysneges oddi wrth berchennog y papur yn nodi ei fod
ef, Stanley, bellach mor enwog â Livingstone bob tamaid.
Diolchodd
i'w ohebydd ar ei ran ei hun ac ar ran y byd.
Gwleidyddiaeth, hiliaeth a rhyddfrydaeth
Bu farw Livingstone yn Affrica ar 1 Mai 1873. Yno, mae'n debyg,
y byddai wedi dewis gwneud hynny.
Disgynnodd yn farw wrth iddo
weddïo ar ei bennau gliniau ger ei wely.
Yn ôl arfer y brodorion
tynnwyd ei galon o'i gorff a'i chladdu o dan goeden, ond cludwyd
gweddill ei gorff yr holl ffordd yn ôl i Lundain a'i gladdu yn Abaty
Westminster ar 18 Mai. Roedd Stanley yn un o'r archgludwyr.
Aeth Stanley ymlaen i ysgrifennu llyfr am ei anturiaethau a derbyniodd
Fedal Aur gan y Frenhines Fictoria am ei gamp a'i wrhydri.
Dychwelodd
i Affrica yn 1877 ac aeth ati i groesi'r cyfandir anferth gan ymweld ag
Uganda, teithio o gwmpas llynnoedd Tanganyika a Fictoria a mynd
ymlaen i ddilyn afon Congo.
Yno y bu, yn teithio, yn cofnodi ac yn mapio.
Yn 54 mlwydd oed, trodd Stanley at y byd gwleidyddol ac etholwyd
ef yn Rhyddfrydwr Undebol dros Ogledd Lambeth yn Llundain.
Bu farw
ar 10 Mai 1904 yn Llundain, a'i ddymuniad olaf oedd cael ei gladdu yn
agos at ei arwr, David Livingstone.
Gwrthodwyd ei gais gan y Deon a
chladdwyd ef yn hytrach ym mynwent Pirbright.
Yn arwynebol, felly, daeth Stanley yn arwr, ond dylid derbyn y
disgrifiad gyda phinsiad o halen.
Ail-ystyried ei agweddau
Adolygwyd enw da a hanes Stanley
dros dreigl y blynyddoedd a gwelwyd iddo ddangos elfennau cwbl hiliol
yn ei erthyglau a'i lyfrau.
Byddai'n portreadu brodorion y gwledydd a
deithiodd iddynt fel bodau is-ddynol a châi ei hanesion eu credu gan
ddarllenwyr ledled y byd.
Yn wir, trodd llawer o'r Cristnogion a
groesawyd yn wreiddiol fel brodyr gan y brodorion yn feistri arnynt.
Er
hyn, roedd Stanley yn genhadwr yn ogystal â theithiwr, ac fe
gondemniodd y fasnach gaethweision yn llwyr, a hynny mewn cyfnod
pan oedd llawer o bobl barchus yn elwa o'r fasnach afiach honno.
Ni ellir gwadu nad oedd hanes Henry Morton Stanley yn ffitio'n
berffaith i'r syniad o arwr yn Oes Fictoria.
Roedd yr holl elfennau
angenrheidiol yn bresennol - bachgen amddifad yn dianc o dloty ac
yn llwyddo i deithio'r byd gan fynd ati i ysgrifennu am ei brofiadau.
Daeth yn enwog ar sail pedwar gair, 'Doctor Livingstone, mi dybiaf!'
ond beth fyddai hanes Stanley tybed petai hwnnw wedi troi ato a
dweud, 'Nage wir, nid dyna pwy ydw i!'
Gan Lyn Ebenezer