Arloeswraig ym myd canu gwerin yr honnir iddi fod yn ysbïwraig.
Gallasech feddwl mai'r fenyw olaf yn y byd y gellid ei chymharu â
Mata Hari fyddai Dora Herbert Jones, un o brif arbenigwyr Cymru
ym maes yr alaw werin ac un o arloeswyr Gwasg Gregynog.
Eto i
gyd, roedd yna rai agweddau'n gyffredin rhwng y ddwy. Roedd y
ddwy yn fenywod hardd. Roedd y ddwy yn berfformwyr - y naill yn
ddawnswraig a'r llall yn gantores - ac roedd y ddwy yn ysbïwyr.
Yn
achos Mata Hari, honnir iddi gael ei chyhuddo ar gam o ysbïo ar ran
yr Almaen, ond yn achos Dora mae yna dystiolaeth bendant iddi fod
yn rhan o wasanaeth cudd Prydain yn Iwerddon.
Magwraeth yn y capel
Merch o Langollen oedd Dora, yr ieuengaf o bump o ferched.
Cafodd blentyndod ac ieuenctid nodweddiadol o'i bro a'i chyfnod,
gyda'r capel yn ddylanwad cryf arni. Yn ifanc iawn daeth o dan
ddylanwad cerddor lleol.
Aeth i Aberystwyth i ddilyn cwrs gradd lle parhaodd â'i diddordeb
mewn canu. Roedd hi'n aelod o bedwarawd a wahoddwyd i
berfformio yn y Sorbonne ym Mharis. Yna, yn 1910, daeth o dan
ddylanwad Dr Mary Davies, un o hoelion wyth Cymdeithas Alawon
Gwerin Cymru, a wahoddwyd i ddarlithio yng Nghymdeithas y
Geltaidd yn Aberystwyth. Dewisodd honno Dora i ganu'r
enghreifftiau o wahanol ganeuon yn ystod y ddarlith.
Diddordebau gwleidyddol
Ar ôl graddio yn 1912, a cholli ei mam, aeth Dora i Lundain i
weithio fel ysgrifenyddes i Syr John Herbert Lewis, Aelod Seneddol
Sir y Fflint.
Roedd gan wraig yr AS, Ruth Herbert Lewis, ddiddordeb
mewn alawon gwerin ac un o ffrindiau'r teulu oedd y gantores a'r
gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen.
Fel rhan o'i swydd gweithiai
Dora yn aml yn Nhfl'r Cyffredin, a hi, mae'n debyg, oedd y ferch
gyntaf i weithio yno fel ysgrifenyddes. Daeth yn un o'r ymgyrchwyr
cynnar dros hawliau merched.
Priododd Dora yn 1916 â Herbert Jones, gŵr diwylliedig o
Langernyw oedd â diddordeb byw yn hanes, llenyddiaeth a diwylliant
Cymru.
Ymunodd Herbert â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar
ddechrau'r Rhyfel Mawr; yn fuan wedi'r briodas fe'i clwyfwyd yn
ddifrifol yn Ffrainc ac aeth Dora draw yno ato.
Daeth Dora'n rhan o
ymgyrch y chwiorydd Davies, Plas Dinam, i ddarparu ymgeledd i
filwyr Ffrainc o dan nawdd y Groes Goch a dyma oedd dechrau'r
cysylltiad rhyngddi a Gregynog.
Gwasanaeth cudd yn Iwerddon
Erbyn dechrau 1918 cawn fod Dora yn Nulyn yn gwneud gwaith
cyfrinachol yn y Viceregal Lodge i'r Arglwydd Wimborne,
Arglwydd Raglaw Iwerddon.
Ni wyddom beth yn union oedd y
gwaith, ond ymddengys bod Dora yn un o griw o Gymry oedd yn
gweithio i Wimborne, a oedd ei hun o dras Gymreig, sef teulu Guest
o Sir Forgannwg.
Ysgrifennydd Wimborne oedd Selwyn Davies,
Cymro Cymraeg o Lundain, ac ysgrifenyddes y Fonesig Wimborne
oedd Beta Jones o fferm Abercin ger Cricieth. Byddai Dora a'r ddau
arall yn mynychu capel bach Cymraeg Bethel yn Talbot Street yn
rheolaidd.
Does dim manylion ynghylch beth yn union oedd gwaith
cyfrinachol Dora ond yn ystod ei chyfnod yn Nulyn roedd y
Gweriniaethwyr Gwyddelig, yn dilyn methiant Gwrthryfel y Pasg
1916, wedi ailffurfio ac yn fygythiad gwirioneddol unwaith eto i
undod yr Ymerodraeth Brydeinig.
Golygai gwaith Dora deithio
rheolaidd ar y llong fferi rhwng Caergybi a Dulyn, a hynny pan oedd
llongau tanddwr yr Almaen a'u torpidos yn berygl mawr. Treuliodd
Dora tua deunaw mis yn y gwasanaeth cudd. Tybed a fu hi erioed ar
restr Michael Collins, un o arweinwyr y Gweriniaethwyr - rhestr o
ysbïwyr a glustnodwyd ganddo ar gyfer eu dienyddio? Daeth yr
ysbïwyr hynny'n dargedau i garfan ddienyddio Collins, y Deuddeg
Apostol.
Dychwelyd i Gymru
Dychwelodd Dora i gynorthwyo Herbert Lewis ar gyfer Etholiad
Cyffredinol 1918. Roedd hi'n torri tir newydd unwaith eto - hi oedd
y fenyw gyntaf ym Mhrydain i fod yn gynrychiolydd etholiadol.
Ganwyd iddi ferch, Elsbeth, a dilynwyd honno gan fab, Hugh, yn
1922, ond bu farw ei gŵr yn fuan wedyn ac yntau ond yn 36 oed.
Symudodd Dora a'r plant i Aberystwyth lle'r oedd ei chwaer,
Gertrude, yn ddarlithydd yn y coleg yno.
Gweithiodd am gyfnod i
Thomas Jones, dirprwy ysgrifennydd y Cabinet a ddaeth yn
ysgrifennydd personol i Lloyd George.
Thomas Jones fu'n gyfrifol
am gael swydd iddi fel ysgrifenyddes i Wasg Gregynog ac yn
ysgrifenyddes hefyd i'r chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies.
Treuliodd bymtheg mlynedd yn byw ac yn gweithio ar stad
Gregynog, a phan drowyd y plas yn ganolfan i'r Groes Goch adeg yr
Ail Ryfel Byd, bu'n ysgrifenyddes weinyddol yno.
Colli merch
Yn 1940 daeth trychineb unwaith eto i'w bywyd pan fu farw ei
merch yn 21 oed. Trawyd y llong y teithiai adref arni o Awstralia gan
dorpido. Roedd Elsbeth wedi bod allan yno yn gofalu am ffoaduriaid
rhyfel o dde Cymru.
Yn 1942 ailgydiodd Dora yn ei bywyd diplomataidd pan gafodd
swydd yn y Weinyddiaeth Lafur yn Abertawe, yn gofalu am hawliau
menywod.
Treuliodd y blynyddoedd nesaf mewn gwahanol swyddi
yn Abertawe a Chaerdydd.
Yna ailgydiodd yn ei diddordeb mewn
canu. Roedd hi wedi cadw'r cysylltiad â Chymdeithas Alawon
Gwerin Cymru ar hyd y blynyddoedd. Daeth yn llais ac yn wyneb
adnabyddus ar y radio a'r teledu.
Dychwelodd i Gregynog ar ôl ymddeol, i fyw mewn tŷ ar y stad
gyda'i chwaer, ac yno y treuliodd Dora ddeunaw mlynedd olaf ei
bywyd. Anrhydeddwyd hi â'r OBE yn 1967, ac yn 1972 fe'i
hetholwyd hi'n Llywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bu
farw ei chwaer yn 1962, ond parhaodd Dora i fyw ar stad Gregynog,
yn Tŷ Canol, hyd ei marwolaeth yn 1974.
Mae rhan Dora Herbert Jones yn y gwaith cyfrinachol yn Nulyn o
gwmpas 1918 yn dal yn ddirgelwch.
Ni soniai am y cyfnod arbennig
hwnnw, a phan holwyd hi ar gyfer portread ohoni gan Y Cymro
ddiwedd 1970, ni chyfeiriodd ato o gwbwl.
Nid bod hynny'n bwysig bellach. Cofir am Dora Herbert Jones fel
gwraig unigryw a fu'n gyfrifol am ddiogelu ac ailddarganfod stôr o
alawon gwerin a fyddent, fel arall, wedi diflannu.
Fe'i cofir fel
menyw a lwyddodd i hawlio'i lle mewn byd a fu'n gyfyngedig i
ddynion hyd hynny.
Fe'i cofir hefyd fel gwraig ddewr a wynebodd
drychinebau yn ei bywyd ei hun ac ym mywyd y ddynoliaeth.
Y
cyfan a wna'r dyfalu am ei rhan yn y gwasanaeth cudd yw
ychwanegu at hanes y bywyd diddorol ac amrywiol a dreuliodd Dora
ar yr hen ddaear hon.
Gan Lyn Ebenezer