BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Nan Wyn Caplan carchar Altcourse
Pa gymorth sydd ei angen ar garcharorion o Gymru yn Lerpwl? Mae Nan Wyn o'r Wyddgrug, merch i un o Gymry Lerpwl, yn cynnig cymorth iddyn nhw fel caplan Cymraeg yn yr ardal.

"Dwi wedi bod yn weinidog yma yn yr Wyddgrug am saith mlynedd, a hefyd yn gaplan yng ngharchar Altcourse, Lerpwl ers dwy flynedd. Mae o'n sialens yn sicr.

"Roeddwn yn gweithio gyda'r ieuenctid trwy fudiadau Cristnogol cyn mynd i Aberystwyth i wneud gradd mewn Diwinyddiaeth. Yna, mi wnes i flwyddyn o gwrs bugeilio, sef hyfforddiant ar sut i ddelio efo pobl â phroblemau.

"Dwi'n rhannu'r ofalaeth yma yn yr Wyddgrug gyda fy ngŵr, Huw - fel mae fy mab yn dweud, Huw yw'r 'Prif Weinidog', a dwi m'ond yn sgifi! Un swydd yw hi, ac ar ôl i'r plant gychwyn ysgol, roeddwn yn teimlo fy mod i angen rhywbeth i fi fy hun. Yr Wyddgrug yw'r stop Gymraeg gyntaf o Lerpwl ac mae o m'ond yn cymryd rhyw bumdeg munud i mi gyrraedd fy ngwaith yna.

"Mae fy nghefndir yn Lerpwl hefyd - roedd fy nhad yn un o Gymry Lerpwl, cafodd fy mrawd ei eni yna ac roedd fy nain yn byw yna tan y diwedd. Mae enwau'r strydoedd yno yn gyfarwydd i mi ers yn ifanc. Mae yna rywbeth braf iawn, pan mae rhywun yn weinidog mewn lle bach fel yr Wyddgrug, cael denig i'r ddinas fawr lle nad oes neb yn eich adnabod chi.

"Fy mrîff i yw Caplan Cymraeg ar lannau'r Ferswy, sy'n fwy na'r carchar - ond dwi wedi sianelu'r swydd i fod yn fwy o swydd yn y carchar yn hytrach na gweddill yr ardal. Dwi yn mynd i'r ysbyty os oes gofyn. Mewn gwirionedd, pan mae rhywun Cymreig yn yr ysbyty yno maen nhw'n wael iawn gan eu bod yn gorfod mynd am driniaeth arbennig, fel yn ysbyty Plant Alderhay. Mae'r rhan fwyaf o ngwaith i yna, gan ei fod yn sefyllfa unig i deuluoedd yno.

"Ond dwi yn y carchar rhyw ddiwrnod a hanner yr wythnos. Dwi'n cynnal gwasanaeth - mae gennym ni wasanaeth carolau cyn y Nadolig yma, ac mi fydd rhyw hanner cant o garcharorion Cymreig yna. Da ni'n mynd â pharti'r Pentan, côr lleol, i helpu efo'r canu.

"Mae'n anhygoel faint o Gymry sydd yng ngharchar Altcourse yn Lerpwl - tua 350 ohonynt. Dwi yna i wrando arnynt - dim jest ar yr ochr foesol ag ysbrydol, ond pethau diwylliannol hefyd. Helpu delio efo'r oblygiadau o fod yn Gymro yn y carchar.

"Dwi hefyd yn helpu i greu mwy o ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn y carchar. Nhw yw'r lleiafrif yna, ac mae eu hunaniaeth fel Cymry yn dod drosodd yn bwysig iawn. Mae'r Cymry yn aros gyda'i gilydd a pan dwi'n pasio trwy'r 'wing' dwi'n clywed 'hei, sut wyt ti, ti'n olew?'

"Mae 'na lot o sôn yn y cyfryngau am pryd fydd carchar yng ngogledd Cymru a does dim dwywaith bod angen un, ond pryd a lle - mae hynny'n fater arall.

"Yn fy awr ginio dwi'n dysgu Cymraeg i'r Swyddogion hefyd, sy'n dangos ymroddiad yn eu plith i ddysgu am y Gymraeg, yn enwedig y rhai sy'n cynghori am gyffuriau ac alcohol.

"Falle 'sa nhw ddim yn mynd at gaplan yn y byd go iawn, ond mae lot wedi cyrraedd pen eu tennyn. Dwi'n ymdrin â lot sy'n debygol o wneud niwed i'w hunain. Dwi'n mynd i'r celloedd i siarad gydag unigolion i ddelio efo sefyllfaoedd anodd, fel pan maen nhw'n cyrraedd am y tro cyntaf. Mae yna lot o waith gwrando a chynghori yr adeg yna.

"Roeddwn wedi bod i mewn i garchar o'r blaen ond mae'n siŵr mai'r peth mwyaf arswydus oedd y diwrnod cyntaf pan roeddwn ar ben fy hun. Mi ges i hyfforddiant ar drin goriadau o fewn chwe wythnos ac mae agor a chloi drysau fy hun yn dipyn o beth.

"Dwi gorfod mynd trwy 'checks' bob tro dwi'n cyrraedd - bagiau trwy'r X-ray, archwilio fi o'r ffrynt a'r tu ôl â sniffer dogs o gwmpas weithiau hefyd - maen nhw'n dda iawn am sbotio'r problem gyda fy nhraed!

"Carchar dynion ydy o, a dwi'n trio cyflwyno fy hun fel person yn hytrach na merch - mae pawb sy'n gweithio yna mewn iwnifform, a dwi'n gweld hi'n bwysig iawn gwisgo fy ngholer gron.

"Mae'n waith anodd heb os ond mae'n rhoi boddhad mawr i mi."

Nan Wyn


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy